Ewch i’r prif gynnwys

Cynnal Adolygiad Systematig: arweiniad ymarferol - ffi ostyngol

Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth o brosesau adolygu’n systematig a chyflwyniad ynghylch y sgiliau sydd eu hangen i gynnal adolygiad i’r cyfranogwyr.

Mae’r cwrs yn ymarferol ac yn rhyngweithiol iawn, gydag amrywiaeth o sesiynau trafod, grŵp ac ymarferol. Rhagwelir y bydd y cyfranogwyr yn dod i’r cwrs â phwnc ymchwil ac yn mynd â phrotocol drafft ar gyfer eu hadolygiad systematig.

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra at:

  • ymchwilwyr gofal iechyd ôl-raddedig
  • gweithwyr gofal iechyd
  • llunwyr polisïau
  • arbenigwyr gwybodaeth a llyfrgellwyr

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Erbyn diwedd y cwrs, dylech allu:

  • datblygu cwestiwn penodol
  • dod o hyd i’r dystiolaeth i ateb y cwestiwn hwnnw
  • asesu ansawdd/dilysrwydd y dystiolaeth a ganfuwyd
  • penderfynu pa ffurfiau o syntheseiddio tystiolaeth yw’r mwyaf priodol
  • cyflwyno a thablu canlyniadau
  • cyflwyno’r canlyniadau i ddiwallu anghenion clinigwyr ac ymchwilwyr eraill
  • datblygu strategaeth i gyhoeddi’r canlyniadau

Pynciau dan sylw

  • camau i ddatblygu cwestiwn ymchwil â ffocws
  • canfod y llenyddiaeth
  • dethol, gwerthuso ac echdynnu astudiaethau
  • meda-ddadansoddi neu syntheseiddio naratif
  • ysgrifennu adroddiadau a’u lledaenu

Manteision

  • datblygu sgiliau rhyngweithiol
  • dod gyda phwnc
  • gadael gydag amlinelliad o brotocol
  • tiwtoriaid â phrofiad helaeth o adolygiadau systematig

Lleoliad

Adeilad Cochrane
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4YU