Ewch i’r prif gynnwys

Cynnal Adolygiad Systematig: arweiniad ymarferol (ar-lein)

Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth o brosesau adolygu’n systematig a chyflwyniad ynghylch y sgiliau sydd eu hangen i gynnal adolygiad i’r cyfranogwyr.

Mae’r cwrs yn ymarferol ac yn rhyngweithiol iawn, gydag amrywiaeth o sesiynau trafod, grŵp ac ymarferol. Rhagwelir y bydd y cyfranogwyr yn dod i’r cwrs â phwnc ymchwil ac yn mynd â phrotocol drafft ar gyfer eu hadolygiad systematig.

Sylwer: bydd y cyfle i gadw lle ar y cwrs hwn yn dod i ben ar 2 Ebrill.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra at:

  • ymchwilwyr gofal iechyd ôl-raddedig
  • gweithwyr gofal iechyd
  • llunwyr polisïau
  • arbenigwyr gwybodaeth a llyfrgellwyr

Gall staff Prifysgol Caerdydd ac ymchwilwyr NISCHR Portfolio fod yn gymwys am ffi cwrs ostyngol o £550. Y ffi i'w thalu yw £40. Cysylltwch â Mala Mann ar mannmkcaerdydd.ac.uk cyn archebu.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Erbyn diwedd y cwrs, dylech allu:

  • datblygu cwestiwn penodol
  • dod o hyd i’r dystiolaeth i ateb y cwestiwn hwnnw
  • asesu ansawdd/dilysrwydd y dystiolaeth a ganfuwyd
  • penderfynu pa ffurfiau o syntheseiddio tystiolaeth yw’r mwyaf priodol
  • cyflwyno a thablu canlyniadau
  • cyflwyno’r canlyniadau i ddiwallu anghenion clinigwyr ac ymchwilwyr eraill
  • datblygu strategaeth i gyhoeddi’r canlyniadau

Pynciau dan sylw

  • camau i ddatblygu cwestiwn ymchwil â ffocws
  • canfod y llenyddiaeth
  • dethol, gwerthuso ac echdynnu astudiaethau
  • meda-ddadansoddi neu syntheseiddio naratif
  • ysgrifennu adroddiadau a’u lledaenu

Manteision

  • datblygu sgiliau rhyngweithiol
  • dod gyda phwnc
  • gadael gydag amlinelliad o brotocol
  • tiwtoriaid â phrofiad helaeth o adolygiadau systematig

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Cwrs rhithwir yw hwn a fydd yn cynnwys 5 sesiwn hanner diwrnod (boreau) a fydd yn cael eu harwain gan diwtor. Bydd llawer o seibiannau wedi'u hamserlennu a digon o gyfleoedd ar gyfer astudio annibynnol yn ystod y prynhawniau.

Yn ystod y prynhawniau hynny, ar eich cyflymder a'ch hwylustod eich hun, byddwch yn gallu rhoi ar waith yr hyn rydych wedi'i ddysgu a gweithio ar eich cwestiynau adolygu systematig penodol, chwiliadau, yn ogystal â helpu gyda'r gweithgareddau ymarferol gwerthuso beirniadol. Bydd slotiau cymorth tiwtor un i un dewisol y byddwch chi'n gallu ymuno â nhw yn ystod y prynhawniau i hwyluso'ch gweithgareddau astudio annibynnol.

Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs. Ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd da a chamera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom.

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.