Ewch i’r prif gynnwys

Oncoleg Gymunedol

Mae’r cwrs hwn, a gyflwynir ar y cyd ag arbenigwyr o Ganolfan Ganser Felindre, wedi’i deilwra i anghenion dysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’u lleoli yn y gymuned (e.e. timau gofal sylfaenol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn y gymuned) sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am faterion oncoleg y gellid dod ar eu traws ym maes gofal sylfaenol.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs undydd aml-broffesiwn hwn yn ddelfrydol ar gyfer meddygon teulu a thimau gofal iechyd sylfaenol/cymunedol o ystod eang o grwpiau proffesiynol ond bydd yn berthnasol i unrhyw staff clinigol yn y gymuned sy'n gweithio'n rheolaidd gyda chleifion canser.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Wedi'i gyflwyno gan dîm arbenigol o feddygon a nyrsys, bydd y cwrs yn rhoi diweddariadau dysgu ar bynciau oncoleg hanfodol a manylion ar sut mae'r pandemig wedi newid cyfundrefnau triniaethau traddodiadol.

Bydd y cwrs hefyd yn canolbwyntio ar sgiliau cyfathrebu ac yn cefnogi staff clinigol sy'n cael sgyrsiau clinigol heriol gyda chleifion.

Mae’r tîm Oncoleg Gymunedol yn cynnwys:

  • Yr Athro Fiona Rawlinson, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Liniarol a Chyfarwyddwr Rhaglen Meddygaeth Liniarol Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Dr Mick Button, Oncolegydd Ymgynghorol a Dirprwy Gyfarwyddwr Clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre
  • Dr Elise Lang, partner meddyg teulu a hyfforddwr yng Ngogledd Caerdydd, Arweinydd Clinigol Meddyg Teulu Macmillan ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, ac Ymgynghorydd Clinigol Macmillan i Gymru.

Pynciau dan sylw

Ymdrinnir â 6 maes pwnc:

  • diweddariad ynghylch imiwnotherapi: beth i boeni amdano; beth i'w wneud amdano
  • diweddariad ynghylch cynlluniau triniaeth ôl-covid – radiotherapi – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
  • diweddariad ynghylch y ganolfan ddiagnostig gyflym a charsinoma o lwybr sylfaenol anhysbys
  • gwasanaeth oncoleg acíwt
  • genomeg a chanser – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
  • Iaith canser – yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Amserlen ddrafft (yn amodol ar newidiadau)

09:00Cofrestru a choffi
09:30Diweddariad ynghylch imiwnotherapi
10:30 - 11:00Coffi a rhwydweithio
11:00Diweddariad ynghylch cynlluniau triniaeth ôl-covid – radiotherapi – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
11:45Diweddariad ynghylch y llwybr diagnostig cyflym
12:30 - 13:30Cinio a rhwydweithio
13:30Gwasanaeth oncoleg acíwt
14:30Genomeg a chanser – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
15:15Te
15:30Iaith canser – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
16:30Gwerthuso a chloi
16:35Diwedd y dydd

Manteision

Bydd y sawl sy’n ymgymryd â’r cwrs yn elwa o ragor o wybodaeth a hyder i'w helpu i reoli cleifion oncoleg yn well.

Lleoliad

Adeilad Morgannwg
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA
Rhestr chwarae o weminarau ag iddynt effaith a gawsant eu cynnal yn ystod y pandemig i fod o gymorth i ymarferwyr gofal iechyd.