Ewch i’r prif gynnwys

Gofalu am Gleifion Obstetrig sy’n ddifrifol wael (ar-lein)

Mae'r cwrs ar-lein hwn yn un o gyfres o bedwar gan y tîm Gofal Critigol yn yr Ysgol Meddygaeth.

Mae gofalu am y claf obstetrig sy’n ddifrifol wael yn gymhleth, ac mae nifer yr achosion yn y grŵp hwn o gleifion yn cynyddu. Mae astudiaeth ddiweddar yn nodi bod angen gofal critigol lefel 3 ar 10% o fenywod beichiog yn ystod ton gyntaf COVID-19, a bod GIG y DU yn nodi bod 20% o dderbyniadau Gofal Critigol COVID-19 yn fenywod beichiog heb eu brechu, ym mis Hydref 2021.

Cwrs dysgu hunangyfeiriedig yw hwn, sy'n cynnwys tua 7-10 awr o astudio. Bydd y cynnwys ar gael trwy'r wythnos i chi weithio drwyddo yn eich amser eich hun.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Cofrestru eich diddordeb

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae’n addas ar gyfer unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gofalu am gleifion obstetrig sy’n ddifrifol wael neu’n acíwt, neu sydd hefyd â chymhlethdodau;  gan gynnwys obstetryddion meddygol a hyfforddeion anesthetig,meddygon teulu, nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol sy’n rhoi gofal cyn mynd i’r ysbyty.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Byddwch chi’n dysgu am adnabod, rheoli a gofalu am y menywod obstetrig sy'n mynd yn ddifrifol wael yn ystod beichiogrwydd, esgor neu'r cyfnod ôl-enedigol.

Byddwch chi’n cael y cyfle i ddysgu am reoli cyflyrau arbenigol ar gyfer y grŵp hwn – cleifion â chymhlethdodau; cyflyrau sy’n gofyn cael derbyniad i ofal critigol, gan gynnwys cyneclampsia, brych yn gwahanu, thrombo-emboledd ac emboledd hylif amniotig (AFE), gwaedlif, clefyd sydd gan y fam eisoes, cyflenwi a monitro ocsigen, a sepsis obstetrig.

Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth yn cael eu dangos drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn y modiwl.

Manteision

Byddwch chi, eich claf, a'u teuluoedd yn elwa ar eich dealltwriaeth o'r dystiolaeth a'r damcaniaethau sy'n llywio’r gofal a roddir i gleifion obstetrig acíwt a difrifol wael. Lluniwyd y cwrs hwn yn benodol i'w gyflwyno'n gyfan gwbl ar-lein.

Byddwch chi’n elwa ar ddysgu ar eich cyflymder eich hun, gyda sesiynau dan arweiniad tiwtor, sesiynau wedi'u recordio ymlaen llaw, darllen dan arweiniad, ac ymarferion rhyngweithiol.

Anogir trafodaeth er mwyn i chi gael y cyfle i rwydweithio a chyfnewid syniadau gyda'ch cyfoedion.

Rydym wedi cyfyngu ar nifer y lleoedd er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau posibl.

Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau TG drwy gydol y cwrs.

Dull cyflwyno

Cynhelir y cwrs ar-lein hwn drwy blatfform dysgu'r Brifysgol (Dysgu Canolog); mae'r cwrs yn cynnwys cyflwyniadau wedi'u recordio a chyfryngau clywedol eraill, testunau ysgrifenedig, canllawiau, deunydd darllen a argymhellir, a dolenni gwe.

Bydd tîm y modiwl ar gael i roi cymorth ac arweiniad trwy’r fforymau trafod. Byddan nhw hefyd yn cynnal gweminar cyflwyniadol byw.

Asesu

Byddwch yn dangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth drwy fyfyrio personol a thasgau ar-lein yn neunyddiau’r cwrs.

Mae hwn yn un o gyfres o bum cwrs DPP ar-lein mewn Gofal Critigol.