Hanfodion Blockchain
Yn y cwrs byr hwn gan Ysgol Busnes Caerdydd, fe ddewch chi’n gyfarwydd â’r defnydd o blockchain, ynghyd â’r dechnoleg a’r egwyddorion sydd ynghlwm â hi.
Yn rhan gynta’r cwrs, byddwn ni’n ymchwilio i wreiddiau Bitcoin, y problemau y mae wedi ymdrin â nhw, y cyfleoedd a ddaeth i’r amlwg o’i herwydd, a pham, yn sgil cyfyngiadau Bitcoin, y daeth Ethereum yn arwyddocaol. Wedi hynny, byddwn ni’n cyflwyno Ethereum, ac yn trin a thrafod ei ddefnydd. At hynny, byddwn ni’n trafod mathau eraill o blockchain a'u cymwysiadau ar draws sectorau megis gofal iechyd, gweithgynhyrchu, logisteg, y diwydiannau creadigol, a mwy.
Ein prif nod yw gwella'ch dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall blockchain roi hwb i’ch busnes, a’ch gosod ar y trywydd cywir o ran y camau gweithredu i'w cymryd.
Fideo marchnata Hanfodion Blockchain
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae hwn yn gwrs delfrydol os taw eich bwriad yw deall technoleg blockchain a'i chymwysiadau ar draws amryw o sectorau. P'un a ydych chi am dreiddio’n ddwfn i botensial blockchain at ddibenion eich menter eich hun, neu eisiau ehangu eich gwybodaeth yn y maes hwn sy'n esblygu'n chwim, mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i gynnig cipolygon gwerthfawr ac arweiniad ymarferol.
O wybod pwysigrwydd cynyddol blockchain a'r ymdrechion i'w hymgorffori mewn sawl agwedd ar ein bywydau, dyma argymell y cwrs hwn ar gyfer unrhyw fusnes a allai ddod i gysylltiad â blockchain yn y dyfodol. Drwy ddeall ei hegwyddorion a'i chymwysiadau craidd, bydd yn eich gosod ar y blaen o safbwynt cystadleuol, ac yn rhoi rhagolwg strategol i chi.
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer:
- entrepreneuriaid
- gweithwyr busnes proffesiynol
- myfyrwyr
- unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall sut y gall blockchain fod o fudd i fusnesau ac yn gallu ysgogi arloesedd.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Yr hanfodion o ran technoleg blockchain, ei hegwyddorion, a’r defnydd ohoni
- Gwreiddiau Bitcoin a'r technolegau a wnaeth osod y seiliau i’w greadigaeth
- Y problemau a wnaeth Bitcoin fynd i'r afael â nhw, a’r cyfleoedd a grëwyd ganddo
- Dyfodiad Ethereum, a’r ffyrdd y mae wedi ymdrin â chyfyngiadau Bitcoin
- Contractau clyfar a chymwysiadau Ethereum (mathau eraill o blockchain) ar draws sectorau megis gofal iechyd, gweithgynhyrchu, logisteg a’r diwydiannau creadigol
- Sut y gall blockchain fod o fudd i'ch busnesau, ysgogi arloesedd, a lleihau costau
- Canllawiau ymarferol ar integreiddio blockchain i strategaethau busnes
Pynciau dan sylw
- Hanes Bitcoin
- Blockchain
- Y problemau ag Arian Digidol cyn dyfodiad Bitcoin a’i ddatrysiadau
- Bitcoin ac Ethereum
- O lefel sylfaenol i lefel uwch
- Peiriant Rhithwir Ethereum
- Defnyddio Ethereum
- Contractau Clyfar
- Cyllid Datganoledig (De-Fi)
- Tocyn
- Arian Digidol y Banc Canolog (CBDC)
Manteision
Mae hwn yn gyfle gwych i brofi sut beth yw bod yn Ysgol Busnes Caerdydd, sef ysgol busnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd.
Rydyn ni’n ysgol busnes a rheolaeth o safon fyd-eang, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil. Dan arweiniad ein strategaeth ac egwyddorion gwerth cyhoeddus blaengar, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant economaidd a chymdeithasol drwy addysgu ac ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n mynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu'r byd sydd ohoni.
Mae ein darpariaeth Addysg Weithredol yn troi ymchwil academaidd sy’n flaengar ar lefel fyd-eang yn arferion busnes perthnasol, gweithredol ac effeithiol ar gyfer unigolion a sefydliadau.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Byddwn ni’n cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.
Caiff y gweithdy hwn ei addysgu gan Dr Hossein Jahanshahloo, Athro Cynorthwyol ym maes Cyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae gan Hossein MSc a PhD ym maes Cyllid a BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gyfrifiadurol. Cyn cychwyn ar ei radd MSc, bu iddo weithio ym myd arian am 5 mlynedd. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil y mae cryptoarian a microstrwythur y farchnad. Hossein yw crëwr a sylfaenydd Cronfa Ddata Bitcoin Prifysgol Caerdydd (CuBid)sy'n cynnig mynediad llawn at ddata rhwydwaith Bitcoin mewn fformat syml, strwythuredig a hawdd ei ddefnyddio.