Sgiliau Labordy Sylfaenol
Ydych chi eisiau'r cyfle i ddysgu technegau labordy sylfaenol cyn dechrau gradd yn y Biowyddorau neu ddechrau rôl newydd yn y sector gwyddoniaeth? Hoffech chi ddysgu awgrymiadau a dulliau ymarferol a fydd yn gwella eich sgiliau labordy a rhoi hwb i’ch hyder, a hynny oll mewn amgylchedd diogel a chefnogol? Os felly, mae'r cwrs rhagarweiniol hwn yn berffaith i chi.
Ymunwch â ni yn Labordai Addysgu’r Biowyddorau i ennill sgiliau gwerthfawr a throsglwyddadwy fydd o fudd i chi mewn unrhyw yrfa neu raglen radd yn y Biowyddorau.
Dyddiad dechrau | 8 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Diwrnodau ac amseroedd | 8-9 Gorffennaf 2025 (09:00 - 17:00) | |
Ffi | £600 (Mae cinio a lluniaeth wedi eu cynnwys.) |
Dyddiad dechrau | 16 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Diwrnodau ac amseroedd | 16-17 Gorffennaf 2025 (09:00 - 17:00) | |
Ffi | £600 (Mae cinio a lluniaeth wedi eu cynnwys.) |
Dyddiad dechrau | 29 Gorffennaf 2025 | |
---|---|---|
Diwrnodau ac amseroedd | 29-30 Gorffennaf 2025 (09:00 - 17:00) | |
Ffi | £600 (Mae cinio a lluniaeth wedi eu cynnwys.) |
Ar gyfer pwy mae hwn
Mae’r cwrs hwn, sy’n para dau ddiwrnod, yn berffaith ar gyfer y canlynol:
- Y rhai sy’n ailddechrau eu gyrfa: Y rhai sydd wedi cymryd seibiant gyrfa o weithio yn y Biowyddorau ac sydd am adnewyddu eu gwybodaeth am gysyniadau sylfaenol a magu hyder cyn ailymuno â'r gweithlu.
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Y rhai sy'n dymuno ymgymryd â datblygiad proffesiynol pellach yn y maes hwn, er enghraifft Cynrychiolwyr Gwerthiant yn y sector gwyddonol.
- Darpar wyddonwyr: Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth labordy ac sy’n ystyried gyrfa ym maes gwyddoniaeth.
- Myfyrwyr y Biowyddorau Ar-lein: Y rhai sy'n dilyn gradd ar-lein yn y Biowyddorau ac sy'n chwilio am brofiad ymarferol mewn labordy.
- Myfyrwyr yn y Biowyddorau sy'n dod i’r Brifysgol: Y rheini sydd wedi sicrhau lle i astudio pwnc sy'n gysylltiedig â’r Biowyddorau yn y brifysgol ac sydd eisiau cyflwyniad i weithio mewn labordy cyn dechrau ar eu hastudiaethau.
- Darpar fyfyrwyr sydd heb benderfynu: Y rhai sy'n ansicr ynghylch ymrestru ar gyfer gradd Israddedig yn y Biowyddorau ac sy'n chwilio am brofiad ymarferol i ddeall sut beth yw gwaith labordy mewn gwirionedd.
- Graddedigion diweddar: Unigolion a gafodd rywfaint o brofiad labordy neu ddim profiad o gwbl yn ystod eu hastudiaethau, ac sy'n dymuno magu hyder yn eu sgiliau labordy cyn parhau â'u haddysg neu ymuno â'r gweithlu.
Bwriad y cwrs hwn yw cynnig profiad “dysgu trwy wneud”, sy’n ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd â rhywfaint neu ddim profiad blaenorol mewn labordy. Byddwch chi’n ennill sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol mewn unrhyw labordy sy’n gweithio yn y Biowyddorau, gan roi'r sylfaen i chi ffynnu yn eich gyrfa neu’ch astudiaethau.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i weithio'n ddiogel ac yn effeithlon yn y labordy
- Profiad ymarferol o ddefnyddio ystod o offer a thechnegau labordy hanfodol
Pynciau dan sylw
- Pwyso a mesur
- Technegau pibedu
- Allgyrchu
- Paratoi stociau a sylweddau gwaith
- Techneg aseptig sylfaenol gan gynnwys gwahanu a thaenu gyda phlatiau
- Microsgopeg, gan gynnwys amcangyfrif maint, a staenio Gram
- Gwanhau cyfresol
- Sbectrometreg
- Electrofforesis gel agaros.
- Asesiadau risg a Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Bwriad y cwrs Sgiliau Labordy Sylfaenol yw bod yn hynod ymarferol, gan gynnig digon o gyfleoedd i chi ddatblygu a gwella'ch sgiliau ar eich cyflymder eich hun. Mae pob pwnc yn dechrau gyda chyflwyniad byr ac arddangosiad, ac yna ymarfer ymarferol lle byddwch chi'n defnyddio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu.
Mae’r cwrs yn para 2 ddiwrnod llawn, 09:00 – 17:00 (bob dydd) gydag egwyl ginio awr o hyd a dwy egwyl fyrrach drwy gydol y dydd. Bydd cinio’n cael ei ddarparu, gan roi amser i chi gysylltu â chyfoedion, rhwydweithio, a gofyn unrhyw gwestiynau i arweinwyr y cwrs.
Cynhelir y cwrs gan ddau wyddonydd profiadol sy’n rheoli Labordai Addysgu Ysgol y Biowyddorau, gan elwa ar eu 40 mlynedd o brofiad mewn gwaith labordy fel technegwyr.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych chi ddealltwriaeth drylwyr o dechnegau labordy hanfodol a dealltwriaeth gadarn o sut i weithio'n ddiogel mewn amgylchedd labordy. Byddwch chi’n teimlo'n hyderus yn eich sgiliau ac wedi'ch paratoi'n dda i gychwyn ar radd israddedig neu wneud cais am swyddi lefel mynediad mewn unrhyw faes Biowyddorau.
Manteision
- Dull dysgu cyfunol: cyn i'r cwrs ddechrau, byddwch chi’n gallu cyrchu cyfres o efelychiadau labordy ar-lein, a fydd yn eich galluogi i ddechrau ymarfer eich sgiliau, hyd yn oed cyn dod i'r labordy
- Dysgu ymarferol: rydyn ni'n esbonio, rydych chi'n ymarfer - ar gyflymder sy'n gyfleus i chi
- Nid oes angen gwybodaeth flaenorol: y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw diddordeb mewn gwyddoniaeth!
- Goruchwyliaeth bersonol: gydag uchafswm o 5 myfyriwr i bob tiwtor, byddwch chi’n cael sylw a chefnogaeth unigol drwyddi draw
- Tystysgrif: Ar ôl cwblhau'r cwrs 2 ddiwrnod, byddwch chi’n derbyn tystysgrif presenoldeb, y gellir ei defnyddio i ddangos Datblygiad Proffesiynol Parhaus, yn ogystal â gwella eich ceisiadau i’r brifysgol a’ch CV.
Gofynion mynediad
- Mae'r cwrs yn cymryd yn ganiataol bod cwrs mewn pwnc gwyddoniaeth Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol yn cael ei hastudio neu eisoes wedi'i hennill
- Mae'r cwrs yn cymryd yn ganiataol mai ychydig iawn neu ddim profiad blaenorol o gwbl sydd gennych chi mewn labordy, felly mae croeso i bawb