Cyflwyniad i Ddermoscopi Gwallt ac Ewinedd (ar-lein)
Dull diagnostig anymwthiol a ddefnyddir yn eang yw dermoscopi sy'n helpu i wneud diagnosis o gyflyrau croen dermatolegol ac atodion croen.
Mae Dermoscopi gwallt ac ewinedd, a gaiff hefyd ei alw'n "Trichoscopy" ac "Onychoscopy”, yn faes newydd sy'n datblygu ym maes Dermoscopi sydd wedi helpu i wneud diagnosis o glwyfau ewinedd â phigment a rhai heb bigment a nifer o gyflyrau'r gwallt a chroen y pen.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.
Cofrestru eich diddordebAr gyfer pwy mae hwn
Mae'r cwrs ar-lein hwn sy’n para 16 wythnos yn benodol ar gyfer meddygon sy'n ymwneud â gofalu am gleifion dermatoleg sydd â chlwyfau gwallt ac ewinedd, ac sydd am ddysgu rhagor am ddermoscopi atodion croen i wella eu sgiliau diagnosis o ran anhwylderau gwallt ac ewinedd. Mae'r cwrs hefyd ar gyfer nyrsys arbenigol sy'n gweithio mewn clinigau croen, yn amodol ar gymhwyster priodol.
Rydyn ni wedi strwythuro’r cwrs hwn i'ch galluogi i weithio drwyddo yn eich amser eich hun. Mae dwy ddarlith fyw dewisol wedi'u hamserlennu; mae'r rhain yn cael eu recordio er mwyn i chi allu eu gwylio ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Nod y rhaglen hon yw datblygu'r gallu i ddefnyddio dermatosgop i wneud y canlynol:
- deall nodweddion Trichoscopig arferol croen y pen a gwallt
- deall nodweddion Onychoscopig arferol ewinedd
- gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o alopesia nad ydynt yn rhai creithiol
- gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o alopesia creithiol
- helpu i wneud diagnosis o gyflyrau gwallt a chroen y pen ar unigolion y mae croen eu pen â phigment
- gwahaniaethu rhwng anhwylderau ewinedd trawmatig, heintus a llidiol
- gwahaniaethu rhwng tiwmorau ewinedd diniwed a niweidiol
- helpu i wneud diagnosis o rai o glwyfau ewinedd â phigment
Pynciau dan sylw
Mae wyth pwnc wedi cael eu hysgrifennu gan ddermatolegwyr blaenllaw ym maes dermoscopi. Disgwylir i gyfranogwyr gwblhau pwnc bob pythefnos.
Mae nodweddion y cwrs yn cynnwys y canlynol:
- deunyddiau pwnc manwl gyda ffotograffau achosion go iawn
- cwisiau modiwl (sy'n rhoi adborth ar unwaith am berfformiad) ar gyfer pob modiwl
- darlithoedd arbenigol rhyngweithiol byw yn defnyddio meddalwedd Adobe Connect©
- fforymau trafodaeth grŵp a arweinir gan diwtoriaid arbenigol
- anogir dysgu cydweithredol yn gryf
- bydd cyfranogwyr yn gallu trafod achosion heriol neu ddiddorol y byddant yn dod ar eu traws yn eu hymarfer eu hunain (argymhellir iddynt ddefnyddio camera)
- bydd tiwtoriaid hefyd yn rhannu achosion i'w trafod o'u clinigau
- nod fforymau yw galluogi myfyrwyr i ddysgu o'i gilydd a chael adborth gan diwtoriaid
Mae pob pwnc yn cynnwys cyfres o gwestiynau amlddewis. Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cwestiynau cyn symud ymlaen i'r pwnc nesaf. Bydd y cyfranogwyr sy'n bodloni'r gofynion hyn yn gymwys ar gyfer yr arholiad terfynol.
Ar ddiwedd y cwrs, bydd arholiad ar-lein yn darparu sail ar gyfer yr asesiad crynodol. Bydd cyfranogwyr sy'n llwyddo i gwblhau'r arholiad terfynu yn derbyn tystysgrif cwblhau.
Noder mai amserlen dros dro yw hwn a gallai gael ei newid. Bydd dwy ddarlith fyw yn cael eu hychwanegu'n nes at y dyddiad dechrau.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl feini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
- meddu ar radd feddygol
- gweld cleifion sydd â chlwyfau croen yn rheolaidd
- meddu ar allu rhagorol yn yr iaith Saesneg
- berchen cyfrifiadur, neu gyda mynediad at un, gyda chyswllt gwe cyflymder uchel
Nid oes angen i chi fod wedi cwblhau cwrs dermatoleg neu ddermoscopi'n flaenorol, ond bydd angen rhywfaint o wybodaeth am ddermatoleg er mwyn cyfranogi'n effeithiol.
Offer
Argymhellir mynediad at ddermatosgop yn gryf er mwyn cymryd rhan yn y cwrs hwn. Argymhellir mynediad at gamera hefyd i rannu eich delweddau dermatoscopig â'r gymuned ar-lein ond nid yw hyn yn hanfodol.
Manteision
Cwrs cwbl ar-lein yw hwn, sy'n cael ei gynnal dros 16 wythnos, gydag asesiadau ar-lein.
- dysgu’n hyblyg, yn eich amser eich hun.
- cewch gipolwg ar y technegau diweddaraf gan arbenigwyr rhyngwladol ym maes trichoscopy ac onychoscopy, sy'n ysgrifennu'r pynciau ar gyfer y cwrs hwn.
- profiad o ddarlithoedd arbenigol rhyngweithiol byw.
- gweithio a dysgu ar y cyd gyda'ch cyfoedion o bob cwr o'r byd mewn fforymau trafodaeth grŵp dan arweiniad tiwtoriaid arbenigol