PRSAS: llwybr 2
Rydym yn cynnig y pecynnau canlynol o gyrsiau hyfforddi ac asesiadau ar gyfer Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsafoedd Heddlu (PRSAS), sy’n addas ar gyfer y rhai sydd ag ychydig neu ddim hyfforddiant neu gefndir cyfreithiol a’r rhai nad ydynt wedi’u heithrio o’r arholiad ysgrifenedig).
Os byddwch eisoes wedi gwneud y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu’r Cwrs Hyfforddiant Bargyfreithwyr neu’n meddu ar Ddiploma Lefel 6 CILEX yn y Gyfraith sy’n cynnwys Cyfraith Trosedd ac Ymgyfreitha Troseddol, dylech edrych ar ein pecynnau PSRAS (llwybr 1) ar gyfer y rhai sydd wedi’u heithrio rhag sefyll yr arholiad ysgrifenedig.
Sylwch, mae’n ofynnol i ni godi ffi o £20 gan Gymdeithas y Gyfraith am bob cofrestriad newydd. Os ydych eisoes wedi talu hyn, ni chodir tâl arnoch. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y cam basged siopa.
Holl gynhwysol
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys y ddau asesiad gofynnol ar gyfer ennill y cymhwyster PSRAS, yn ogystal â dau gwrs hyfforddi cysylltiedig a gynlluniwyd i’ch helpu i basio’r asesiadau.
Pan fyddwch yn dewis y pecyn hwn, byddwch yn cael taleb sy’n cynnwys gostyngiad o £310 yn erbyn y gost o brynu’r holl elfennau ar wahân.
Pan fyddwch wedi prynu eich taleb, byddwch yn gallu gweld y dyddiadau sydd ar gael, cadw lle mewn cyrsiau a threfnu asesiadau.
Mae’r pecyn hollgynhwysol yn cynnwys:
Arholiad Ysgrifenedig (ar lein)
Mae’r arholiad ysgrifenedig yn asesu eich dealltwriaeth o rôl cynrychiolydd yng ngorsaf yr heddlu, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon, a'ch gwybodaeth am gyfraith a gweithdrefnau troseddol.
Ar hyn o bryd, mae’r arholiad ysgrifenedig yn asesiad dan oruchwyliaeth o bell ar-lein. Mae’n arholiad llyfr agored gan y gallwch gyfeirio at ddau destun yn ystod yr arholiad at ddibenion cyfeirio.
Portffolio
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a chyflwyno portffolio o achosion sy’n ymwneud â bod yn bresennol mewn gorsaf heddlu mewn cyfweliadau.
Diben y Portffolio yw:
- Ein galluogi i asesu eich cymhwysedd i roi cyngor mewn gorsafoedd heddlu
- Eich annog i ystyried a myfyrio ar eich perfformiad yng ngorsaf yr heddlu
- Annog eich cyfreithiwr goruchwylio i adolygu eich cymhwysedd ac i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.
Cyflwynir y portffolio o achosion mewn dwy ran.
Mae Rhan A yn cynnwys pedwar achos, mewn dau gyflwyniad ar wahân, yn y drefn ganlynol:
- Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n arsylwi eich cyfreithiwr goruchwyliol a oedd yn cynghori cleient
- Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n rhoi cyngor i gleient ac wedi cael eich arsylwi gan eich cyfreithiwr goruchwyliol.
Mae’n rhaid i’r achosion hyn fod mewn trefn gronolegol ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi digwydd llai na thri mis yn ôl. Gellir cyflwyno Rhan A portffolio ar unrhyw adeg.
Mae angen cyflwyno’r canlynol ar gyfer Rhan B:
- Adroddiadau manwl o bum achos arall pan fuoch chi’n cynghori cleient ar eich pen eich hun.
Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (ar-lein neu wyneb-yn-wyneb)
Sylwch: ni allwch drefnu Prawf Digwyddiadau Critigol nes y byddwch wedi cwblhau’r arholiad ysgrifenedig a Rhan A o’r portffolio’n llwyddiannus, gan gynnwys cael eich pin gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
Diben y Prawf Digwyddiadau Critigol yw asesu eich effeithiolrwydd wrth gynghori a chynorthwyo cleientiaid yng ngorsaf yr heddlu. Mae’r CIT yn digwydd ar ffurf asesiad chwarae rôl o dan amodau arholiad.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ymgymryd â’r Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT).
Mae’r asesiad hwn yn brawf chwarae rôl, byw. Nod y prawf yw ail-greu cyfweliad mewn gorsaf heddlu a defnyddir recordiadau sain ynddo i roi gwybodaeth. Gallwch chi ymyrryd yn ystod seibiau penodol i ymateb i wybodaeth, gofyn am ragor o wybodaeth neu gynghori’r cleient. Mae’r prawf cyfan yn cael ei recordio at ddibenion asesu. Cynhelir y prawf ar sail unigol ac mae’n para am 45 munud ar y mwyaf.
Mae’r prawf hwn yn asesu a yw eich ymatebion yn briodol, gan gyfeirio at arferion a gweithdrefnau mewn gorsafoedd heddlu. Mae hefyd yn golygu bod modd asesu sgiliau allweddol (er enghraifft cyfathrebu, negodi a phendantrwydd).
Gallwch ddewis mynd i CIT wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.
Cyflwyniad i gwrs hyfforddiant cyfraith droseddol (ar lein) - 2 ddiwrnod
Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol i’r rhai nad oes ganddynt fawr ddim gwybodaeth, os o gwbl, am gyfraith droseddol. Mae’r cwrs hwn yn addas os yw’r maes yn newydd i chi neu os ydych chi wedi gweithio yn y system cyfiawnder troseddol ond eisiau dysgu’r gyfraith o safbwynt gwahanol.
Gallai’r cwrs hwn hefyd fod yn gwrs gloywi defnyddiol os oes gennych rywfaint o wybodaeth am gyfraith droseddol.
Fodd bynnag, mae hwn yn gwrs hyfforddiant cwbl angenrheidiol ym maes y gyfraith, a bydd yn cwmpasu cysyniadau cyfraith droseddol sylfaenol gan gyfeirio’n benodol at anghenion y cynghorydd proffesiynol yng ngorsaf yr heddlu. Ceir cyfeiriadau at arferion a gweithdrefnau PACE a gorsafoedd yr heddlu drwy gydol y cwrs.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio’n bennaf i ategu’r cwrs Hyfforddiant Arholiadau.
Oriau DPP: 7
Cwrs hyfforddiant arholiadau (ar lein) -2 ddiwrnod
Bwriad y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer yr arholiad ysgrifenedig.
Byddai’n ddefnyddiol i chi fod â gwybodaeth sylfaenol am gyfraith a gweithdrefnau troseddol - ac yn enwedig arferion gorsafoedd yr heddlu (rydym yn argymell bod y rhai nad oes ganddynt fawr ddim profiad, os o gwbl, yn mynychu’r cwrs Cyflwyniad i gyfraith trosedd cyn dilyn y cwrs hwn).
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyngor ymarferol mewn perthynas â thechnegau a dulliau arholiadau. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am strwythur yr arholiad a’r rheoliadau perthnasol. Darperir cwestiynau ymarfer a chewch gyfle i ymgymryd â ffug asesiad o dan amodau arholiad.
Oriau DPP: 7
Cwrs hyfforddiant portffolio (ar lein)
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi eich portffolio o achosion.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gyfarwydd â’r rheoliadau PSRAS mewn perthynas â phortffolios, gan gynnwys y gofynion i sicrhau bod eich portffolio yn cydymffurfio’n dechnegol. Byddwch yn cael canllawiau i sicrhau bod fformat a chynnwys eich portffolio yn foddhaol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhoi cyfle i chi ystyried nifer o achosion sampl a chael cyngor ar y cryfderau a’r gwendidau o ran sylwedd a’r ffordd y cyflwynir pob achos.
Sylwch fod y cwrs hwn hefyd yn ymdrin â pharatoi portffolios gan gyfreithwyr sy’n ceisio ennill Cymhwyster Gorsaf yr Heddlu.
Oriau DPP: 4
Cwrs hyfforddi Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (ar lein)
Rydym yn argymell yn gryf na ddylech archebu’r cwrs hyfforddi CIT nes eich bod wedi cwblhau 10 neu fwy o ymweliadau unigol â gorsafoedd heddlu, gan fod y cynnwys yn tybio bod gennych y lefel hon o brofiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch law-pdu@caerdydd.ac.uk.
Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer y Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT). Mae natur anarferol yr asesiad CIT yn gwneud y cwrs hwn yn arbennig o ddefnyddiol.
Mae’n mynd i’r afael ag arddull y prawf ei hun a’r cynllun marcio. Bydd yn rhoi arweiniad ar sut i osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.
Cewch gyfle i ymgymryd â rhai rhannau o CIT mewn grwpiau bach ar-lein gyda chynrychiolwyr a chyfreithwyr eraill sydd dan brawf.
Mae cynnwys y cwrs hwn yn ysgogi trafodaeth ar arferion a gweithdrefnau gorsafoedd yr heddlu a gall eich helpu i wella’ch sgiliau a thechnegau gorsaf heddlu yn gyffredinol.
Oriau DPP: 3
Pob prawf, cwrs hyfforddiant portffolio a chwrs hyfforddi CIT
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys pob prawf gofynnol (arholiad ysgrifenedig, Prawf Digwyddiadau Critigol, Portffolio) a dau gwrs hyfforddi ategol (CIT a phortffolio).
Pan fyddwch yn dewis y pecyn hwn, byddwch yn cael taleb sy’n cynnwys gostyngiad o £120 yn erbyn y gost o brynu’r holl elfennau ar wahân.
Pan fyddwch wedi prynu eich taleb, byddwch yn gallu gweld y dyddiadau sydd ar gael, cadw lle mewn cyrsiau a threfnu asesiadau.
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys:
Arholiad Ysgrifenedig (ar lein)
Mae’r arholiad ysgrifenedig yn asesu eich dealltwriaeth o rôl cynrychiolydd yng ngorsaf yr heddlu, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon, a’ch gwybodaeth am gyfraith a gweithdrefnau troseddol.
Ar hyn o bryd, mae’r arholiad ysgrifenedig yn asesiad dan oruchwyliaeth o bell ar-lein. Mae’n arholiad llyfr agored gan y gallwch gyfeirio at ddau destun yn ystod yr arholiad at ddibenion cyfeirio.
Portffolio
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a chyflwyno portffolio o achosion sy’n ymwneud â bod yn bresennol mewn gorsaf heddlu mewn cyfweliadau.
Diben y Portffolio yw:
- Ein galluogi i asesu eich cymhwysedd i roi cyngor mewn gorsafoedd heddlu
- Eich annog i ystyried a myfyrio ar eich perfformiad yng ngorsaf yr heddlu
- Annog eich cyfreithiwr goruchwylio i adolygu eich cymhwysedd ac i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.
Cyflwynir y portffolio o achosion mewn dwy ran.
Mae Rhan A yn cynnwys pedwar achos, mewn dau gyflwyniad ar wahân, yn y drefn ganlynol:
- Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n arsylwi eich cyfreithiwr goruchwyliol a oedd yn cynghori cleient
- Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n rhoi cyngor i gleient ac wedi cael eich arsylwi gan eich cyfreithiwr goruchwyliol.
Mae’n rhaid i’r achosion hyn fod mewn trefn gronolegol ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi digwydd llai na thri mis yn ôl. Gellir cyflwyno Rhan A portffolio ar unrhyw adeg.
Mae angen cyflwyno’r canlynol ar gyfer Rhan B:
- Adroddiadau manwl o bum achos arall pan fuoch chi’n cynghori cleient ar eich pen eich hun.
Cwrs hyfforddi Prawf Digwyddiadau Critigol (ar-lein neu wyneb-yn-wyneb)
Sylwch: ni allwch drefnu Prawf Digwyddiadau Critigol nes y byddwch wedi cwblhau’r arholiad ysgrifenedig a Rhan A o’r portffolio’n llwyddiannus, gan gynnwys cael eich pin gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
Diben y Prawf Digwyddiadau Critigol yw asesu eich effeithiolrwydd wrth gynghori a chynorthwyo cleientiaid yng ngorsaf yr heddlu. Mae’r CIT yn digwydd ar ffurf asesiad chwarae rôl o dan amodau arholiad.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ymgymryd â’r Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT).
Mae’r asesiad hwn yn brawf chwarae rôl, byw. Nod y prawf yw ail-greu cyfweliad mewn gorsaf heddlu a defnyddir recordiadau sain ynddo i roi gwybodaeth. Gallwch chi ymyrryd yn ystod seibiau penodol i ymateb i wybodaeth, gofyn am ragor o wybodaeth neu gynghori’r cleient. Mae’r prawf cyfan yn cael ei recordio at ddibenion asesu. Cynhelir y prawf ar sail unigol ac mae’n para am 45 munud ar y mwyaf.
Mae’r prawf hwn yn asesu a yw eich ymatebion yn briodol, gan gyfeirio at arferion a gweithdrefnau mewn gorsafoedd heddlu. Mae hefyd yn golygu bod modd asesu sgiliau allweddol (er enghraifft cyfathrebu, negodi a phendantrwydd).
Gallwch ddewis mynd i CIT wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.
Cwrs hyfforddiant portffolio (ar lein)
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu i baratoi eich portffolio o achosion.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gyfarwydd â’r rheoliadau PSRAS mewn perthynas â phortffolios, gan gynnwys y gofynion i sicrhau bod eich portffolio yn cydymffurfio’n dechnegol. Byddwch yn cael canllawiau i sicrhau bod fformat a chynnwys eich portffolio yn foddhaol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn rhoi cyfle i chi ystyried nifer o achosion sampl a chael cyngor ar y cryfderau a’r gwendidau o ran sylwedd a’r ffordd y cyflwynir pob achos.
Sylwch fod y cwrs hwn hefyd yn ymdrin â pharatoi portffolios gan gyfreithwyr sy’n ceisio ennill Cymhwyster Gorsaf yr Heddlu.
Oriau DPP: 4
Cwrs hyfforddi Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (ar lein)
Rydym yn argymell yn gryf na ddylech archebu’r cwrs hyfforddi CIT nes eich bod wedi cwblhau 10 neu fwy o ymweliadau unigol â gorsafoedd heddlu, gan fod y cynnwys yn tybio bod gennych y lefel hon o brofiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch law-pdu@caerdydd.ac.uk.
Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer y Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT). Mae natur anarferol yr asesiad CIT yn gwneud y cwrs hwn yn arbennig o ddefnyddiol.
Mae’n mynd i’r afael ag arddull y prawf ei hun a’r cynllun marcio. Bydd yn rhoi arweiniad ar sut i osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.
Cewch gyfle i ymgymryd â rhai rhannau o CIT mewn grwpiau bach ar-lein gyda chynrychiolwyr a chyfreithwyr eraill sydd dan brawf.
Mae cynnwys y cwrs hwn yn ysgogi trafodaeth ar arferion a gweithdrefnau gorsafoedd yr heddlu a gall eich helpu i wella’ch sgiliau a thechnegau gorsaf heddlu yn gyffredinol.
Oriau DPP: 3
Pob prawf a chwrs hyfforddi CIT
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys pob prawf gofynnol (arholiad ysgrifenedig, Prawf Digwyddiadau Critigol, Portffolio) a’r cwrs hyfforddi CIT ategol. Pan fyddwch yn dewis y pecyn hwn, byddwch yn cael taleb sy’n cynnwys gostyngiad o £100 yn erbyn y gost o brynu’r holl elfennau ar wahân.
Pan fyddwch wedi prynu eich taleb, byddwch yn gallu gweld y dyddiadau sydd ar gael, cadw lle mewn cyrsiau a threfnu asesiadau.
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:
Arholiad Ysgrifenedig (ar lein)
Mae’r arholiad ysgrifenedig yn asesu eich dealltwriaeth o rôl cynrychiolydd yng ngorsaf yr heddlu, ynghyd â’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon, a’ch gwybodaeth am gyfraith a gweithdrefnau troseddol.
Ar hyn o bryd, mae’r arholiad ysgrifenedig yn asesiad dan oruchwyliaeth o bell ar-lein. Mae’n arholiad llyfr agored gan y gallwch gyfeirio at ddau destun yn ystod yr arholiad at ddibenion cyfeirio.
Portffolio
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a chyflwyno portffolio o achosion sy’n ymwneud â bod yn bresennol mewn gorsaf heddlu mewn cyfweliadau.
Diben y Portffolio yw:
- Ein galluogi i asesu eich cymhwysedd i roi cyngor mewn gorsafoedd heddlu
- Eich annog i ystyried a myfyrio ar eich perfformiad yng ngorsaf yr heddlu
- Annog eich cyfreithiwr goruchwylio i adolygu eich cymhwysedd ac i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.
Cyflwynir y portffolio o achosion mewn dwy ran.
Mae Rhan A yn cynnwys pedwar achos, mewn dau gyflwyniad ar wahân, yn y drefn ganlynol:
- Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n arsylwi eich cyfreithiwr goruchwyliol a oedd yn cynghori cleient
- Adroddiadau manwl am ddau achos pan fuoch chi’n rhoi cyngor i gleient ac wedi cael eich arsylwi gan eich cyfreithiwr goruchwyliol.
Mae’n rhaid i’r achosion hyn fod mewn trefn gronolegol ac mae’n rhaid iddyn nhw fod wedi digwydd llai na thri mis yn ôl. Gellir cyflwyno Rhan A portffolio ar unrhyw adeg.
Mae angen cyflwyno’r canlynol ar gyfer Rhan B:
- Adroddiadau manwl o bum achos arall pan fuoch chi’n cynghori cleient ar eich pen eich hun.
Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (ar-lein neu wyneb-yn-wyneb)
Sylwch: ni allwch drefnu Prawf Digwyddiadau Critigol nes y byddwch wedi cwblhau’r arholiad ysgrifenedig a Rhan A o’r portffolio’n llwyddiannus, gan gynnwys cael eich pin gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
Diben y Prawf Digwyddiadau Critigol yw asesu eich effeithiolrwydd wrth gynghori a chynorthwyo cleientiaid yng ngorsaf yr heddlu. Mae’r CIT yn digwydd ar ffurf asesiad chwarae rôl o dan amodau arholiad.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd ymgymryd â’r Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT).
Mae’r asesiad hwn yn brawf chwarae rôl, byw. Nod y prawf yw ail-greu cyfweliad mewn gorsaf heddlu a defnyddir recordiadau sain ynddo i roi gwybodaeth. Gallwch chi ymyrryd yn ystod seibiau penodol i ymateb i wybodaeth, gofyn am ragor o wybodaeth neu gynghori’r cleient. Mae’r prawf cyfan yn cael ei recordio at ddibenion asesu. Cynhelir y prawf ar sail unigol ac mae’n para am 45 munud ar y mwyaf.
Mae’r prawf hwn yn asesu a yw eich ymatebion yn briodol, gan gyfeirio at arferion a gweithdrefnau mewn gorsafoedd heddlu. Mae hefyd yn golygu bod modd asesu sgiliau allweddol (er enghraifft cyfathrebu, negodi a phendantrwydd).
Gallwch ddewis mynd i CIT wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.
Cwrs hyfforddi Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (ar lein)
Rydym yn argymell yn gryf na ddylech archebu’r cwrs hyfforddi CIT nes eich bod wedi cwblhau 10 neu fwy o ymweliadau unigol â gorsafoedd heddlu, gan fod y cynnwys yn tybio bod gennych y lefel hon o brofiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch law-pdu@caerdydd.ac.uk.
Nod y cwrs hwn yw eich paratoi ar gyfer y Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT). Mae natur anarferol yr asesiad CIT yn gwneud y cwrs hwn yn arbennig o ddefnyddiol.
Mae’n mynd i’r afael ag arddull y prawf ei hun a’r cynllun marcio. Bydd yn rhoi arweiniad ar sut i osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.
Cewch gyfle i ymgymryd â rhai rhannau o CIT mewn grwpiau bach ar-lein gyda chynrychiolwyr a chyfreithwyr eraill sydd dan brawf.
Mae cynnwys y cwrs hwn yn ysgogi trafodaeth ar arferion a gweithdrefnau gorsafoedd yr heddlu a gall eich helpu i wella’ch sgiliau a thechnegau gorsaf heddlu yn gyffredinol.
Oriau DPP: 3
Talu un ar y tro
Os yw’n well gennych, gallwch brynu pob elfen yn unigol:
Arholiad Ysgrifenedig (ar lein)
2024
2025
Portffolio
Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (ar lein)
Sylwch: ni allwch drefnu Prawf Digwyddiadau Critigol nes y byddwch wedi cwblhau’r arholiad ysgrifenedig a Rhan A o’r portffolio’n llwyddiannus, gan gynnwys cael eich pin gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Anfonwch ebost atom yn law-pdu@caerdydd.ac.uk gyda phrawf o’r cymwysterau hyn ac yna fe anfonwn ni’r dolen(ni) cadw lle perthnasol atoch.
2024
- 21 Tachwedd
- 26 Tachwedd
2025
- 9 Ionawr
- 16 Ionawr
- 22 Ionawr
- 20 Mawrth
- 25 Mawrth
- 28 Mai
- 2 Mehefin
- 21 Gorffennaf
- 24 Gorffennaf
- 1 Hydref
- 6 Hydref
- 17 Tachwedd
- 25 Tachwedd
Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT) (wyneb yn wyneb)
Sylwch: ni allwch drefnu Prawf Digwyddiadau Critigol nes y byddwch wedi cwblhau’r arholiad ysgrifenedig a Rhan A o’r portffolio’n llwyddiannus, gan gynnwys cael eich pin gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Anfonwch ebost atom yn law-pdu@caerdydd.ac.uk gyda phrawf o’r cymwysterau hyn ac yna fe anfonwn ni’r dolen(ni) cadw lle perthnasol atoch.
- Dim dyddiadau 2024 pellach ar gael.
Cyflwyniad i gwrs hyfforddiant cyfraith droseddol (ar lein) - 2 ddiwrnod
2024
2025
Cwrs hyfforddiant arholiadau (ar lein) - 2 ddiwrnod
2024
2025
Cwrs hyfforddiant portffolio (ar lein)
2024
2025
Cwrs hyfforddi Prawf Digwyddiadau Critigol (ar lein)
Rydym yn argymell yn gryf na ddylech archebu’r cwrs hyfforddi CIT nes eich bod wedi cwblhau 10 neu fwy o ymweliadau unigol â gorsafoedd heddlu, gan fod y cynnwys yn tybio bod gennych y lefel hon o brofiad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch law-pdu@caerdydd.ac.uk.
2024
2025
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y pecynnau hyn neu unrhyw beth arall, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i’ch helpu: