Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu (PSRAS)
Mae'r PSRAS yn ymwneud ag achredu cynrychiolwyr sy'n cynghori pobl dan amheuaeth yng ngorsaf yr heddlu. Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau cyfreithwyr sy'n ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol troseddol yn defnyddio cynrychiolwyr achrededig i gynghori a chynorthwyo cleientiaid.
Ceir tair elfen yn y cynllun a gaiff eu hasesu, a rhaid eu cwblhau i gyd yn llwyddiannus:
- arholiad ysgrifenedig
- portffolio
- Prawf Digwyddiadau Critigol (CIT)
Rydym yn cynnig sawl cwrs hyfforddi er mwyn eich cynorthwyo i ennill achrediad yn Gynrychiolydd Gorsaf Heddlu. Mae pob un o’n cyrsiau wedi’u hachredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wrth gymhwyso ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae dau lwybr i gwblhau'r PSRAS, gan ddibynnu a ydych wedi'ch eithrio o'r arholiad ysgrifenedig.
- PSRAS: Llwybr 1 - Addas ar gyfer y rhai sydd wedi'u heithrio o'r arholiad ysgrifenedig
- PSRAS: Llwybr 2 - Addas ar gyfer y rhai sydd ag ychydig neu ddim hyfforddiant neu gefndir cyfreithiol a/neu'r rhai nad ydynt wedi'u heithrio o'r arholiad ysgrifenedig.
Pwy sydd wedi'i eithrio o'r arholiad ysgrifenedig
Cewch eich eithrio o'r arholiad ysgrifenedig os ydych chi’n gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr, neu os oes gennych chi unrhyw un o'r canlynol:
- LPC (Cwrs Ymarfer Cyfreithiol)
- BTC (Cwrs Hyfforddi’r Bar) neu ei ragflaenydd
- Cymrawd neu Aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol ac wedi pasio llwybr troseddol Diploma yn y Gyfraith ac Ymarfer lefel 6 CILEX (a elwid gynt yn Ddiploma Uwch proffesiynol lefel 6 CILEX yn y Gyfraith gan gynnwys cyfraith trosedd ac ymgyfreitha troseddol).
Rhaid i chi ddangos prawf o'r cymwysterau uchod er mwyn elwa o'r eithriad.
Ni yw’r unig Brifysgol Grŵp Russell a ddilyswyd i gynnig y prif gyrsiau hyfforddiant galwedigaethol sy’n ofynnol i gael mynediad i’r proffesiwn cyfreithiol.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y pecynnau hyn neu unrhyw beth arall, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i'ch helpu: