Ewch i’r prif gynnwys

Gwybodaeth am Gymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ)

Mae'r cynllun hwn yn ymdrin ag achredu cyfreithwyr sy'n cynrychioli diffynyddion yn Llys yr Ynadon ac sydd am wneud cais am le ar rota’r cyfreithwyr ar ddyletswydd.

Gall cwmnïau amddiffyn troseddol wneud cais am slotiau ar rota ar gyfer pob un o'u cyfreithwyr ar ddyletswydd. I wneud cais, rhaid i gyfreithiwr ennill aelodaeth Cam 1 o Gynllun Achredu Ymgyfreitha Troseddol (CLAS) Cymdeithas y Cyfreithwyr – fel sy’n ofynnol gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA).

I gael eich penodi’n gyfreithiwr ar ddyletswydd, rhaid i chi fod yn ymarferydd cymwys yng Nghymru a Lloegr, a chael dau gymhwyster ar wahân:

Ar ôl cwblhau’r cymwysterau hyn yn llwyddiannus, cewch wneud cais i Gynllun Achredu Ymgyfreitha Troseddol (CLAS) Cymdeithas y Cyfreithwyr i gael eich cynnwys ar eu rota o gyfreithwyr ar ddyletswydd.

Ar gyfer pwy mae'r cynllun

Mae’r cynllun hwn ar gyfer ymarferwyr troseddol cymwysedig sydd am wneud cais am le ar rota’r cyfreithwyr ar ddyletswydd yn Llys yr Ynadon (lle caiff taliad ei hawlio gan yr LAA).

Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr yng Nghymru neu Loegr. Darllenwch yr adran ar waelod y dudalen i gael gwybodaeth am sut y gall bargyfreithwyr a gweithredwyr cyfreithiol wneud cais.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae'r cynllun yn profi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o gyfraith a gweithdrefnau trosedd, cyfraith a gweithdrefn mewnfudo berthnasol a rheolau tystiolaeth.

Mae dwy elfen asesu i’r cynllun, ac mae’n rhaid cwblhau’r ddwy yn llwyddiannus i gael eich achredu:

Portffolio MCQ

Pwrpas eich portffolio yw dangos eich cymhwysedd o ran cael gafael ar wybodaeth a’i hasesu, cynghori'r cleient a chyflwyno sylwadau / ceisiadau / cyflwyniadau i'r llys.

Bydd y portffolio yn cynnwys 25 o achosion pan rydych wedi cynghori diffynyddion yn llys yr ynadon. Byddwch yn rhoi adroddiad am bum gwrandawiad yn fanwl ac 20 fel 'achosion nodyn byr' i ddangos ehangder eich profiad.

Cyfweliad ac Asesiad Eiriolaeth (IAA)

Cyfeirir at yr IAA weithiau fel yr 'asesiad byw'. Mae’n profi eich sgiliau cyfweld ac eiriolaeth yn y fan a’r lle, a bydd actor yn chwarae rhan eich cleient, ac asesydd yn chwarae rhan Barnwr Rhanbarth.

Ceir dwy elfen: y cyfweliad a'r eiriolaeth. Cewch eich marcio ar sail meini prawf penodol megis sefydlu perthynas briodol a phroffesiynol gyda'r cleient; cael cyfarwyddiadau a nodi amcanion y cleient; a nodi a chynghori ar gamau gweithredu priodol.

Sut y cewch eich asesu

Asesiad y cyfweliad

Cewch bapurau achos ychydig cyn yr asesiad er mwyn i chi allu paratoi. Yna byddwch yn cymryd rhan yn asesiad y cyfweliad, gydag actor yn chwarae rhan y cleient.

Cewch eich asesu yn erbyn tri maen prawf: sefydlu perthynas briodol a phroffesiynol gyda'r cleient, cael cyfarwyddiadau a nodi amcanion y cleient, a nodi a chynghori ar gamau gweithredu priodol.

Asesiad eiriolaeth

Rhoddir amser i chi baratoi ar gyfer y gwrandawiad sy'n cynnwys y cleient y buoch yn gweithio gydag ef yn asesiad y cyfweliad, a dau wrandawiad pellach yn seiliedig ar gyfarwyddiadau ysgrifenedig.

Byddwch yn cymryd rhan yn yr asesiad eiriolaeth, a bydd asesydd yn chwarae rhan y Barnwr Rhanbarth.

Asesir y tri achos eiriolaeth yn erbyn dau faen prawf: sefydlu perthynas briodol a phroffesiynol gyda'r tribiwnlys a gwneud cais/cyflwyniad cydlynol sy’n dwyn perswâd yn unol â nodau a chyfarwyddiadau'r cleient.

Rhaid cwblhau'r ddau asesiad yn llwyddiannus er mwyn pasio'r IAA.

Sut mae rhaglen MCQ (ac ymuno â'r Rota Dyletswydd) yn gweithio

Nid oes rhaid i chi gwblhau'r ddau asesiad MCQ yn yr un rownd, ond mae gennych rwydd hynt i wneud hynny.

Fodd bynnag, ar ôl pasio un asesiad, rhaid i chi gwblhau'r ail o fewn 12 mis.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r PSRAS a'r MCQ, cewch wneud cais i Gymdeithas y Gyfraith am aelodaeth CLAS*.

Pan fyddwch wedi ymuno â CLAS, cewch wneud cais i ddod yn aelod o gynllun Rota Dyletswydd (gan ddefnyddio ffurflen CRM 12).

Cewch wneud hyn unrhyw bryd ond dim ond ar ddwy adeg benodol y gellir ychwanegu cyfreithiwr at rota'r cyfreithwyr ar ddyletswydd bob blwyddyn.

Cynhelir pob rota am chwe mis: y cyntaf o fis Ebrill i fis Hydref, a'r ail o fis Hydref i fis Ebrill. Y dyddiadau cau ar gyfer y rotâu fel arfer yw dechrau mis Ionawr (ar gyfer dechrau ym mis Ebrill) a dechrau mis Gorffennaf (ar gyfer dechrau ym mis Hydref).

*Bydd yn cymryd tua phedair wythnos i'ch cais gael ei brosesu.

Gwybodaeth am sut y gall bargyfreithwyr a swyddogion gweithredol cyfreithiol wneud cais

Gall bargyfreithwyr ddod yn aelodau o CLAS. Os ydych yn fargyfreithiwr sydd am ymuno â chynllun y Cyfreithwyr ar Ddyletswydd, mae angen cwblhau’r PSRAS a’r MCQ, a dod yn aelod o CLAS. Yna dylech ymgeisio i'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol i gael eich cynnwys ar y rota. Cysylltwch â ni i drafod hyn yn fanylach cyn cadw lle.

Os llwyddoch chi i gwblhau’r asesiadau PSRAS cyn cymhwyso fel cyfreithiwr, gallwch wneud cais i Gymdeithas y Cyfreithwyr i gael eich eithrio o asesiadau PSQ. Mae hon yn broses syml gan mai’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno eich tystysgrif achredu PSRAS ynghyd â'ch tystysgrif achredu MCQ wrth wneud cais i Gymdeithas y Gyfraith am aelodaeth CLAS.

Cysylltwch â ni

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus