Cymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ)
Mae gan bawb sy'n cael eu harestio neu sy'n ymddangos mewn Llys Ynadon yr hawl i gael gyngor a chynrychiolaeth yn rhad ac am ddim gan gyfreithiwr ar ddyletswydd.
Gall cwmnïau amddiffyn troseddol wneud cais am slotiau ar rota ar gyfer pob un o'u cyfreithwyr ar ddyletswydd. Yn ogystal â darparu gwasanaeth hanfodol, mae bod ar rota’r cyfreithwyr ar ddyletswydd yn ffordd ddefnyddiol i gwmnïau gwrdd â chleientiaid newydd.
I wneud cais i ymuno â chynllun y rota dyletswydd (pan fydd taliad yn cael ei hawlio gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA), rhaid i gyfreithiwr ennill aelodaeth Cam 1 o Gynllun Achredu Ymgyfreitha Troseddol (CLAS) Cymdeithas y Cyfreithwyr – fel sy’n ofynnol gan yr LAA.
I gael eich penodi’n gyfreithiwr ar ddyletswydd, rhaid i chi fod yn ymarferydd cymwys yng Nghymru a Lloegr, a chael dau gymhwyster ar wahân:
- Cynllun Achredu Cynrychiolwyr Gorsaf Heddlu (PSRAS) (neu'r Cymhwyster Gorsaf Heddlu (PSQ)), neu
- Cymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ)
Ar ôl cwblhau’r cymwysterau hyn yn llwyddiannus, cewch wneud cais i Gynllun Achredu Ymgyfreitha Troseddol (CLAS) Cymdeithas y Cyfreithwyr i gael eich cynnwys ar eu rota o gyfreithwyr ar ddyletswydd.
Cymhwyster Llys yr Ynadon (MCQ)
Mae'r cynllun hwn yn profi eich gwybodaeth a'ch cymhwysedd wrth gynrychioli diffynyddion yn llys yr ynadon. Mae hefyd yn gwerthuso eich dealltwriaeth o gyfraith a gweithdrefn droseddol, cyfraith a gweithdrefn mewnfudo berthnasol, a rheolau tystiolaeth.
Mae dwy elfen asesu i’r cynllun, ac mae’n rhaid cwblhau’r ddwy yn llwyddiannus i gael eich achredu:
- Portffolio
- Cyfweliad ac Asesiad Eiriolaeth (IAA)
Gellir cwblhau'r asesiadau hyn mewn unrhyw drefn, ond rhaid cwblhau'r ail elfen o fewn blwyddyn ar ôl pasio'r un gyntaf yn llwyddiannus.
Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau hyfforddi a phecynnau i'ch cynorthwyo i ennill y cymhwyster MCQ. Mae ein holl gyrsiau hyfforddi yn gyfuniad o ddysgu ar-lein a sesiynau grŵp ar-lein byw wedi hynny ac fe’u cyflwynir gan aseswyr MCQ profiadol.
Pecyn cynhwysol
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y ddau asesiad sy'n ofynnol i ennill cymhwyster MCQ, yn ogystal â dau gwrs hyfforddi cysylltiedig a gynlluniwyd i'ch helpu i basio'r asesiadau. Drwy ddewis y pecyn hwn, fe gewch daleb sy'n cynnwys gostyngiad o £50 yn erbyn y gost o brynu'r holl elfennau ar wahân.
Ar ôl prynu eich taleb, byddwch yn gallu gweld y dyddiadau sydd ar gael, cadw lle ar gyrsiau a threfnu asesiadau.
Mae'r pecyn hollgynhwysol yn cynnwys:
Portffolio
Pwrpas eich portffolio yw dangos eich cymhwysedd o ran cael gafael ar wybodaeth a’i hasesu, cynghori'r cleient a chyflwyno sylwadau/ceisiadau/cyflwyniadau i'r llys.
Bydd y portffolio yn cynnwys 25 o achosion pan rydych wedi cynghori diffynyddion yn llys yr ynadon. Byddwch yn rhoi adroddiad am bum gwrandawiad yn fanwl ac 20 fel 'achosion nodyn byr' i ddangos ehangder eich profiad.
Cyfweliad ac Asesiad Eiriolaeth (IAA)
Cyfeirir at yr IAA weithiau fel yr 'asesiad byw'. Mae’n profi eich sgiliau cyfweld ac eiriolaeth yn y fan a’r lle, a bydd actor yn chwarae rhan eich cleient, ac asesydd yn chwarae rhan Barnwr Rhanbarth.
Ceir dwy elfen: y cyfweliad a'r eiriolaeth. Cewch eich marcio ar sail meini prawf penodol megis sefydlu perthynas briodol a phroffesiynol gyda'r cleient; cael cyfarwyddiadau a nodi amcanion y cleient; a nodi a chynghori ar gamau gweithredu priodol.
Cwrs hyfforddiant portffolio (MCQ)
Mae’r cwrs byw ar-lein hwn yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am ofynion y portffolio, enghreifftiau o achosion manwl ac achosion nodyn byr, yn ogystal â chyfle i adolygu achosion manwl go iawn a gyflwynwyd i’w hasesu. Mae sesiwn holi ac ateb hefyd ar ddiwedd y sesiwn fyw.
Bydd yn cymryd tua dwy awr i gwblhau'r astudiaeth baratoadol annibynnol ar-lein cyn y sesiwn fyw. Dwy awr fydd hyn y sesiwn fyw ar-lein.
Cwrs hyfforddiant ar gyfer y Cyfweliad a’r Asesiad Eiriolaeth
Mae’r cwrs byw ar-lein hwn yn eich paratoi ar gyfer y Cyfweliad a’r Asesiad Eiriolaeth a bydd yn trafod amseru, meini prawf asesu ac awgrymiadau da ar gyfer llwyddo. Byddwch yn cwblhau ymarfer eiriolaeth ymarferol wedi'i amseru ac yn cael adborth un-i-un gan asesydd IAA profiadol ar gyfer cymhwyster MCQ. Cewch hefyd y cyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn fyw.
Bydd yn cymryd tua dwy awr i gwblhau'r astudiaeth baratoadol annibynnol ar-lein cyn y sesiwn fyw. Bydd y sesiwn fyw ar-lein yn para’r rhan fwyaf o'r diwrnod.
Pob prawf a chwrs hyfforddi IAA
Mae'r pecyn hwn yn cynnwys y ddau asesiad sy'n ofynnol i basio'r MCQ, yn ogystal â chwrs hyfforddi IAA, a gynlluniwyd i'ch helpu i basio'r asesiad hwn:
Pan fyddwch yn dewis y pecyn hwn, byddwch yn cael taleb sy'n cynnwys gostyngiad o £25 yn erbyn y gost o brynu'r holl elfennau ar wahân.
Ar ôl prynu eich taleb, byddwch yn gallu gweld y dyddiadau sydd ar gael, cadw lle ar gyrsiau a threfnu asesiadau.
Mae pecyn cwrs hyfforddi profi All ac IAA yn cynnwys:
Portffolio
Pwrpas eich portffolio yw dangos eich cymhwysedd o ran cael gafael ar wybodaeth a’i hasesu, cynghori'r cleient a chyflwyno sylwadau/ceisiadau/cyflwyniadau i'r llys.
Bydd y portffolio yn cynnwys 25 o achosion pan rydych wedi cynghori diffynyddion yn llys yr ynadon. Byddwch yn rhoi adroddiad am bum gwrandawiad yn fanwl ac 20 fel 'achosion nodyn byr' i ddangos ehangder eich profiad.
Cyfweliad ac Asesiad Eiriolaeth (IAA)
Cyfeirir at yr IAA weithiau fel yr 'asesiad byw'. Mae’n profi eich sgiliau cyfweld ac eiriolaeth yn y fan a’r lle, a bydd actor yn chwarae rhan eich cleient, ac asesydd yn chwarae rhan Barnwr Rhanbarth.
Ceir dwy elfen: y cyfweliad a'r eiriolaeth. Cewch eich marcio ar sail meini prawf penodol megis sefydlu perthynas briodol a phroffesiynol gyda'r cleient; cael cyfarwyddiadau a nodi amcanion y cleient; a nodi a chynghori ar gamau gweithredu priodol.
Cwrs hyfforddiant ar gyfer y Cyfweliad a’r Asesiad Eiriolaeth
Mae’r cwrs byw ar-lein hwn yn eich paratoi ar gyfer y Cyfweliad a’r Asesiad Eiriolaeth a bydd yn trafod amseru, meini prawf asesu ac awgrymiadau da ar gyfer llwyddo. Byddwch yn cwblhau ymarfer eiriolaeth ymarferol wedi'i amseru ac yn cael adborth un-i-un gan asesydd IAA profiadol ar gyfer cymhwyster MCQ. Cewch hefyd y cyfle i ofyn cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn fyw.
Bydd yn cymryd tua dwy awr i gwblhau'r astudiaeth baratoadol annibynnol ar-lein cyn y sesiwn fyw. Bydd y sesiwn fyw ar-lein yn para’r rhan fwyaf o'r diwrnod.
Talu wrth fynd
Os yw'n well gennych, gallwch brynu pob elfen yn unigol:
Cyflwyno Portffolio
Cyfweliad ac Asesiad Eiriolaeth (IAA) (ar-lein)
- 29 Ionawr
- 3 Chwefror
- 27 Mawrth
- 1 Ebrill
- 29 Mai
- 3 Mehefin
- 4 Awst
- 6 Awst
- 9 Hydref
- 13 Hydref
- 27 Tachwedd
- 2 Rhagfyr
Cwrs hyfforddiant portffolio (ar-lein)
Cyfweliad ac Asesiad Eiriolaeth (IAA) (ar-lein)
Gwybodaeth bwysig
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a gweithgareddau.
Cysylltwch â ni
Uned Datblygu Proffesiynol
Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.