Cyrsiau meddygaeth a ariennir
Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hariannu'n garedig felly ceir mynediad rhad ac am ddim.
Cyfres gweminar
Gofal lliniarol a diwedd oes ar gyfer staff cartrefi gofal
Wedi'i gynllunio ar gyfer staff y GIG, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn cartrefi preswyl a gofal cymdeithasol.
Mae rhaglen bellach wedi gorffen. Gallwch weld yr holl recordiadau ar ein sianel YouTube.
Modiwlau Ôl-raddedig Unigol mewn Meddygaeth Genomig
Cyfle cyffrous i staff y GIG astudio modiwlau ôl-raddedig unigol mewn meddygaeth genomig, a ariennir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Mae meddygaeth genomig yn chwyldroi meysydd oncoleg, fferylliaeth, anhwylderau prin, iechyd meddwl a chlefydau heintus. Mae ymchwil yn parhau yn gyflym i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r berthynas rhwng ein genynnau a'n hiechyd. Mae'n llywio'n gynyddol y gofal iechyd rydym yn ei gynnig ar gyfer ein cleifion, ac mae'n fwy tebygol o gael ei drafod gyda nhw.
Mae cyfres o fodiwlau annibynnol achrededig a hygyrch bellach ar gael i holl staff GIG Cymru. Bydd modiwlau’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Gwasanaeth Genomig Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Parc Geneteg Cymru (WGP) a GIG Cymru i gyflwyno’r modiwlau.
Dysgwch fwy am y cwrs a sut i wneud cais.
Cyfres gweminarau Oncoleg Cymunedol
Mae rhaglen 2022 bellach wedi gorffen. Gallwch weld yr holl recordiadau ar ein sianel YouTube.
Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu'n garedig gan Gymorth Canser MacMillan.
Mae'r tîm Oncoleg Gymunedol yn cynnwys:
- Dr Fiona Rawlinson, Ymgynghorydd Meddygaeth Liniarol a Chyfarwyddwr Rhaglen Meddygaeth Liniarol Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd
- Dr Mick Button, Oncolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre
- Dr Elise Lang, Meddyg Teulu Macmillan, Gogledd Caerdydd
Mae'r sesiynau hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr eraill.
Recordiadau o seisynau blaenorol
Gweminarau Gofal Lliniarol
Wyddoch chi fod MSc newydd ar gael ym maes imiwnoleg sy’n flwyddyn o hyd?