Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau byr peirianneg

Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau byr yn trawsnewid arbenigedd academaidd a'r ymchwil ddiweddaraf yn sgiliau gweithle ymarferol ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio mewn peirianneg.

Mae'r cyrsiau hyn ar gael fel rhaglenni pwrpasol ar gyfer cwmnïau a sefydliadau yn unig. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Mae'r cwrs byr un diwrnod hwn a gynhelir yn y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy, yn cynnwys arddangosiadau byw a gweithgareddau ymarferol. Mae'r cwrs hwn yn darparu mewnwelediad i'r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg tyrbin nwy a thirwedd ynni'r DU.

Cynnwys y cwrs

  • Cyflwyniad i dirwedd ynni'r DU, gan gynnwys: cyflenwad a galw; technolegau cynhyrchu pŵer; tanwyddau sydd ar gael a'u defnydd.
  • Polisi a deddfwriaeth ynni llywodraeth y DU.
  • Rôl tyrbinau nwy yn y DU ar gyfer cynhyrchu pŵer a thrafnidiaeth (awyrennau).
  • Cyflwyniad i dechnoleg tyrbin nwy sylfaenol a chylchedau thermodeinamig sylfaenol (Carnot, Rankine a Brayton).
  • Trafodaeth tymheredd/entropi a diagramau pwysau/cyfaint.
  • Trafodaeth o gyfadrannau tyrbin nwy.
  • Trafodaeth am gywasgwyr, chwistrellwyr, hylosgwyr a thyrbinau - bwriad dylunio, technoleg bresennol a phroblemau pob un.
  • Dyfodol technoleg tyrbin nwy, gan gynnwys: cylchedau thermodeinamig uwch, hylosgi yn dilyn ennill gwasgedd, hylosgi catalytig; goblygiadau awyren llusg isel ar ddyluniad injan.

Ynghylch y ganolfan

Mae'r Ganolfan Ymchwil Tyrbin Nwy yn cyd-fynd ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae'r ganolfan yn un o lond llaw sy'n bodoli'n fyd-eang. Mae’n gartref i offer arbenigol a ddefnyddir i ddatblygu a phrofi systemau hylosgi, cydrannau a thanwyddau newydd mewn tymereddau a gwasgeddau perthnasol i dyrbinau nwy.

I ddysgu rhagor am y ganolfan, ewch i'r wefan: Y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy

Trosolwg dwy awr o hyd o'r datblygiadau ymchwil diweddaraf yng Nghanolfan Peirianneg Amledd Uchel Prifysgol Caerdydd. Mae pynciau'n cynnwys cymwysiadau peirianneg microdon sy’n ymddangos, datblygiadau mewn dyfeisiau cyfathrebu, datblygu technoleg 4G a chyfyngiadau mewn optimeiddio safonau 5G.

Cynnwys y digwyddiad

  • Monitro glwcos y gwaed
  • Iechyd celloedd biolegol.
  • Canfod bacteria cas iawn.
  • Gwresogi domestig.
  • Datblygiad 4G a'r galw am 5G.
  • Cyflawni'r gwaith o fwyhau ar amlderau radio.

Dysgwch fwy am y Ganolfan Peirianneg Amledd Uchel

Sgwrs tair awr sy'n canolbwyntio ar daith o amgylch y Labordai Gweithgynhyrchu Haenau Ychwanegol yng Nghaerdydd. Cyflwynir cyfranogwyr i'r cyfarpar arbenigol a ddefnyddir yn y Labordai ac maent yn dysgu am y gwahanol dechnolegau a’u cymwysiadau.

Cynnwys y digwyddiad

  • Sinteru Laser Metel Uniongyrchol (DMLS).
  • Sinteru Laser Detholus (SLS).
  • Stereolithograffeg (SLA).
  • Modelu Dyddodiad Ymdoddedig (FDM).
  • Technoleg Ddarlunio
  • Sut mae'r technolegau uchod yn gweithio.
  • Y camau o ddata Cad 3D, drwy baratoi i adeiladu, hyd at y gydran terfynol.
  • Y deunyddiau sydd ar gael a'u cymwysiadau.
  • Cyfyngiadau proses (gan gynnwys problemau cyffredin sy’n codi wrth argraffu’n 3D) a sut mae'n effeithio ar y dewis o dechnoleg.
  • Datblygiadau diweddaraf yn y maes.

Mae Gweithgynhyrchu Ychwanegol yn dod o fewn Grŵp Ymchwil Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel Prifysgol Caerdydd.

Mae'r cwrs byr un diwrnod hwn, a gynhelir yng Nghanolfan Ymchwil Tyrbin Nwy, yn darparu cipolwg ar egwyddorion gweithredu peiriannau tanio mewnol. Drwy gymysgedd o gyflwyniadau technegol, arddangosiadau byw a thrafodaethau grŵp, mae cyfranogwyr yn adolygu gyrwyr hanesyddol a phresennol a'r effaith ganlyniadol ar ddatblygiad technoleg peiriannau tanio mewnol.

Cynnwys y cwrs

  • Cyflwyniad i dechnoleg peiriannau tanio mewnol a'i gyrwyr hanesyddol.
  • Tanwyddau peiriannau tanio mewnol a systemau cyflwyno tanwydd.
  • Tueddiadau presennol y diwydiant technoleg.
  • Hanfodion hylosgi peiriant tanio mewnol a monitro allyriadau.

Ynghylch y ganolfan

Mae'r Ganolfan Ymchwil Tyrbin Nwy yn cyd-fynd ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ganolfan yn un o lond llaw sy'n bodoli'n fyd-eang. Mae’n gartref i offer arbenigol a ddefnyddir i ddatblygu a phrofi systemau hylosgi, cydrannau a thanwyddau newydd mewn tymereddau a gwasgeddau perthnasol i dyrbinau nwy.

I ddysgu rhagor am y Ganolfan, ewch i'r wefan: Y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy

Mae'r cwrs byr un diwrnod hwn a gynhelir yng Nghanolfan Ymchwil Tyrbin nwy yn cynnwys arddangosiadau byw.  Cyflwynir cyfranogwyr i egwyddorion sylfaenol hylosgi deunyddiau solet, hylif a thanwyddau nwyol. Mae'r pwyslais ar ddeall hylosgedd, tocsigedd a pheryglon o fygu sy'n gysylltiedig â nwyon a gedwir yn gyffredinol mewn safleoedd o gyflogaeth.

Cynnwys y cwrs

  • Cyflwyniad i egwyddorion sylfaenol hylosgi.
  • Y peryglon sy'n gysylltiedig â nwyon fflamadwy ac atmosfferau anadweithiol.
  • Prif achosion ffrwydradau a'r gofynion deddfwriaethol perthnasol a chanllawiau sydd ar gael i liniaru'r risg.
  • Deall arferion clirio.

Arddangosiadau

  • Ffrwydradau llwch
  • Defnyn hylif a ffrwydradau anwedd dŵr, tannau tryledol a thannau jet.
  • Rig arddangos cyfyngu hylosgedd gyda chymysgedd o bropan/aer, gan ddangos effeithiau o gymysgedd o danwydd ar y fflamau sy'n deillio ohonynt.
  • Arferion clirio.
  • Llosgwr aer methan atmosfferig yn arddangos amrywiaeth o drylediad i nwyon a gymysgwyd ymlaen llaw, gan ddangos sut mae cymhareb cyfwerth yn effeithio ar gyflymder fflamau (ôl-fflach a diffodd) a thymheredd fflam.
  • Mesur allyriadau.

Ynghylch y ganolfan

Mae'r Ganolfan Ymchwil Tyrbin Nwy yn cyd-fynd ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ganolfan yn un o lond llaw sy'n bodoli'n fyd-eang. Mae’n gartref i offer arbenigol a ddefnyddir i ddatblygu a phrofi systemau hylosgi, cydrannau a thanwyddau newydd mewn tymereddau a gwasgeddau perthnasol i dyrbinau nwy.

I ddysgu rhagor am y Ganolfan, ewch i'r wefan: Y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy

Cwrs un diwrnod byr, a gynhelir yng Nghanolfan Ymchwil Tyrbin Nwy, sy'n edrych ar danwyddau amgen ac adnewyddadwy ar gyfer gwres a chynhyrchu trydan. Mae cyfranogwyr yn dysgu am yr heriau y mae'r tanwyddau hyn yn eu peri i systemau hylosgi, gan gynnwys problemau megis tanwyddau amrywiol. Mae potensial nwy siâl yn cael ei archwilio hefyd.

Cynnwys y cwrs

  • Dadansoddiad agosaf a gorau.
  • Gwerth caloriffig a dwysedd perthynol.
  • Tanwydd amrywiol ac effeithiau hylosgi.
  • Defnyddio biomas, biodiesel, bioethanol a bio-nwy.
  • Potensial nwy siâl, methan haenau glo a hydrogen mewn systemau hylosgi yn y dyfodol.

Ynghylch y ganolfan

Mae'r Ganolfan Ymchwil Tyrbin Nwy yn cyd-fynd ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ganolfan yn un o lond llaw sy'n bodoli'n fyd-eang. Mae’n gartref i offer arbenigol a ddefnyddir i ddatblygu a phrofi systemau hylosgi, cydrannau a thanwyddau newydd mewn tymereddau a gwasgeddau perthnasol i dyrbinau nwy.

I ddysgu rhagor am y Ganolfan, ewch i'r wefan: Y Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy

Mynegi eich diddordeb

Cysylltwch â ni i fynegi eich diddordeb mewn unrhyw un o'r cyrsiau hyn.

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus