Ewch i’r prif gynnwys

Modiwlau ôl-raddedig ar gyfer DPP

Rydym yn cynnig ystod ddethol o fodiwlau a addysgir i ôl-raddedigion y gellir eu hastudio yn unigol.

Mae hyn yn rhoi cyfle i chi gael hyblygrwydd wrth astudio a dewis modiwlau sy’n addas i’ch anghenion datblygu proffesiynol chi. Golygir hyn bod modd dewis modiwl 10, 20 neu 30 credyd mewn pwnc o’ch dewis yn hytrach na chofrestru ar gyfer gradd ôl-raddedig lawn (sy’n gyfanswm o 180 o gredydau).

  • Mynediad at astudio hyblyg a fforddiadwy mewn prifysgol Grŵp Russell o fri
  • Hybu eich gyrfa tra’n cydbwyso ymrwymiadau bywyd a gwaith
  • Cael blas ar radd ôl-raddedig gyflawn
  • Rhoi’r credydau yr ydych wedi’u casglu tuag at gymhwyster ôl-raddedig*
  • Sefydlu cysylltiadau ehangach gyda Phrifysgol Caerdydd

Pori drwy fodiwlau unigol

*Bydd cymhwysedd ac amserlenni ar gyfer trosglwyddo credydau yn amrywio o un cymhwyster i’r llall

Sut yr addysgir modiwlau

Byddwch fel arfer yn ymuno â charfan o fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio rhaglen gradd amser llawn, felly byddwch yn ymuno â nhw ar gyfer un modiwl. Mae’r modiwlau yr ydym yn eu cynnig yn unigol wedi’u dewis yn ofalus er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’w haddysgu fel hyn.

Fel arfer addysgir modiwlau dros un neu ddau semester academaidd (hydref a/neu gwanwyn), gyda darlithoedd yn cael eu cynnal yr un pryd bob wythnos. Fodd bynnag, dylech nodi bod trefniadau yn amrywio o un modiwl i’r llall, felly byddai’n syniad gwirio’r wybodaeth farchnata ar gyfer eich modiwl dewisedig.

Sut i wneud cais

Rydym yn gofyn i chi gwblhau ffurflen gais fer sy’n nodi manylion eich cymwysterau blaenorol a/neu eich profiad. Cewch hyd i fanylion am sut i wneud cais ar dudalen y modiwl sydd o ddiddordeb i chi.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn modiwl ôl-raddedig sydd heb ei nodi yma, cysylltwch â’r Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus