Hyfforddiant DPP ar gyfer dylunio adeiladau a'r sector cynllunio dinasoedd
Mae sawl cyfle hyfforddi DPP ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd dylunio adeiladau a chynllunio dinasoedd.
Er mwyn dod o hyd i'r hyfforddiant DPP cywir i chi, rydym wedi creu pecyn o weithgareddau hyfforddi sydd wedi'u dylunio i gefnogi a hybu gyrfaoedd gweithwyr proffesiynol mewn meysydd fel:
- Dylunio adeiladau
- Rheoli adeiladau
- Adeiladu amgylcheddol
- Cynllunio trefol
- Cynllunio/logisteg trafnidiaeth
- Cynllunio ynni adnewyddadwy.
Gallwch ddod i wybod rhagor drwy lawrlwytho ein llyfryn yn rhad ac am ddim, neu drwy glicio ar unrhyw un o'r dolenni canlynol i'r cyrsiau perthnasol a'r cyfleoedd hyfforddi.
Lawrlwytho ein llyfryn
Engin-planning-archi-booklet-welsh.pdf
Mae’r llyfryn hwn yn rhoi manylion ystod o gyfleoedd DPP gan gynnwys modiwlau ar lefel ôl-raddedig sydd ar gael ar sail unigol.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Modiwlau ôl-raddedig unigol
Mae'r rhain yn fodiwlau y gellir eu cymryd ar sail unigol at ddibenion DPP. Yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio ar lefel ôl-raddedig wrth reoli eich ymrwymiadau gwaith a bywyd.
Cydnabyddir y cyrsiau hyn gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Iwerddon (RIAI).
Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol
Y Ddaear a Chymdeithas | Ysgol Pensaernïaeth Cymru | Mae'r modiwl yn rhoi strwythur i fyfyrwyr ddatblygu, trafod a llunio eu safbwyntiau personol o ran cynaliadwyedd. |
Ysgol Pensaernïaeth Cymru | Mae’r modiwl hwn yn defnyddio dull cyfannol o ran defnydd adeilad o ynni. | |
Ymchwilio i'r Amgylchedd Adeiledig | Ysgol Pensaernïaeth Cymru | Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno'r dulliau a'r technegau y gall dylunwyr, perchnogion a gweithredwyr adeiladau eu defnyddio i bennu a yw eu hadeiladau'n perfformio yn ôl y disgwyl. |
Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol | Ysgol Peirianneg | Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddeall cysyniad cynaliadwyedd yng nghyd-destun dyluniad adeiladau, ac effaith yr amgylchedd adeiledig ar yr amgylchedd naturiol. |
Dylunio Trefol a Chynllunio
Trafodaethau ynghylch cynllunio a datblygu Eco-ddinas | Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio | Mae'r modiwl hwn yn rhoi dadansoddiad manwl o'r gwahanol fathau o ddatblygiad eco-ddinas (o adeiladau newydd i ôl-ffitio a datblygu anffurfiol) a bydd yn dadansoddi pa brosesau sy’n peri i eco-ddinasoedd ddod i'r amlwg. |
Polisïau Trafnidiaeth Gynaliadwy | Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio | Mae'r modiwl hwn yn ystyried y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag ymateb i anghenion symudedd cymdeithas ochr yn ochr â lleihau’r effeithiau negyddol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar yr wyneb. |
Dadansoddi trafnidiaeth | Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio | Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno i’r myfyrwyr set o ddulliau dadansoddol a ddefnyddir yn aml mewn arferion cynllunio trafnidiaeth. |
Datblygu a chynllunio ynni adnewyddadwy | Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio | Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn elfen allweddol o bontio i systemau o’r fath, ond mae ehangu cwmpas ynni adnewyddadwy yn codi materion pwysig o ran y berthynas rhwng cymdeithas, ynni, llywodraeth a thirlun. |
Llywodraethu'r broses o ddatblygu’r eco-ddinas | Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio | Diben y modiwl hwn yw darparu sail ddamcaniaethol wybodus ar gyfer dadansoddi natur ac amrywiaeth y ffurfiau o lywodraethu sy'n nodweddu datblygiadau eco a charbon isel ledled y byd. |
Cyfleoedd hyfforddiant DPP eraill
Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau
Mae ein cyrsiau CPD ym maes rheoli rhaglenni a phrosiectau ar gyfer y rhai hynny sydd am ddatblygu sgiliau ymarferol, yn ogystal ag ymarferwyr mwy profiadol sy’n chwilio am gymhwyster ffurfiol.
Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer y rheiny sydd angen sgiliau rheoli prosiect neu raglenni er mwyn gweithredu'n fwyaf effeithiol fel penseiri, peirianwyr adeiladau / amgylcheddol neu gynllunwyr trefol.
Mae’r cyrsiau’n cynnwys:
Cwrs wyneb yn wyneb PRINCE2® | Cwrs hyfforddi dwys, 5 diwrnod o hyd sy'n eich paratoi ar gyfer yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy'n cael eu cymryd fel rhan o'r cwrs. Mae PRINCE2®yn cael ei dderbyn yn rhyngwladol fel y dull rheoli prosiect 'arfer gorau' mwyaf blaenllaw. |
CwrsRheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) wyneb yn wyneb | Cwrs hyfforddi dwys, 5 diwrnod o hyd sy'n eich paratoi ar gyfer yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy'n cael eu sefyll yn rhan o'r cwrs. Mae MSP yn cynnig dull strwythuredig o ran rheoli rhaglenni, sy'n helpu sefydliadau i newid. |
Cwrs wyneb yn wyneb AGILE PM® | Cwrs hyfforddi dwys, 5 diwrnod o hyd sy'n eich paratoi ar gyfer yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy'n cael eu sefyll yn rhan o'r cwrs. Yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n rheoli neu'n cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno prosiect fydd yn cael ei gynnal drwy ddull Ystwyth. |
Cwrs e-ddysgu cyfunol PRINCE2® | Cwrs e-ddysgu cyfunol – cyfle i astudio'n hyblyg gartref neu ar eich cyflymder eich hun, yna ymunwch â ni ar gyfer gweithdy arholiad 2 ddiwrnod o hyd. Yn cynnwys arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd. |
Cwrs e-ddysgu cyfunol Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus(MSP)® | Cwrs e-ddysgu cyfunol – cyfle i astudio'n hyblyg gartref neu ar eich cyflymder eich hun, yna ymunwch â ni ar gyfer gweithdy arholiad 2 ddiwrnod o hyd. Yn cynnwys arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd. |
Cwrs cyflwyniadol Rheoli Prosiect 2 ddiwrnod o hyd | Y dewis perffaith ar gyfer y rheiny sydd angen iddynt ddysgu hanfodion rheoli prosiect mewn amser byr, ond nad oes angen cwrs ardystiedig arnynt. Ymarferol a llawn gwybodaeth. |
Mae manylion llawn y cwrs ar dudalen astudiaeth achos rheoli rhaglenni a phrosiectau.
Addysg weithredol
Mae ein darpariaeth Addysg Weithredol yn troi ymchwil academaidd sy'n arwain y byd yn arferion busnes perthnasol, gweithredol ac effeithiol ar gyfer unigolion a sefydliadau. Mae'r rhaglenni wedi eu dylunio i droi cysyniadau a syniadau’n gamau gweithredu penodol sy’n gwella perfformiad unigolion a sefydliadau.
Mae’r cyrsiau’n cynnwys:
Rhaglen Arweinyddiaeth a Gweinyddu Busnes (LBA) | Wedi'i dylunio i gynnig cipolwg penodol ar sail gwaith ar ein MBA i Weithredwyr. Bydd modiwlau'n gwbl berthnasol ar gyfer gweithleoedd y rhai sy’n cymryd rhan felly gellir cymhwyso'r hyn a ddysgir yn syth. |
Lean Six Sigma | Ymagwedd sydd wedi hen ennill ei phlwyf sy'n ceisio nodi a dileu diffygion, camgymeriadau neu fethiannau mewn prosesau neu systemau busnes. Rhaglen hyfforddi 5 diwrnod mewn hyd. |
Cyflwyniad i Arferion Di-wastraff (Lean) a Rhagoriaeth Weithredol | Diwrnod o hyfforddiant yn archwilio egwyddorion craidd Arferion Di-wastraff Gwelliant Parhaus a Rhagoriaeth Weithredol. |
Rhaglen 5 diwrnod o hyd wedi'i dylunio i roi'r sgiliau i asiantau newid, rheolwyr ac arweinwyr i arwain rhaglenni trawsffurfio yn llwyddiannus. |
Mae manylion llawn y cwrs ar dudalennau gwe Addysg Weithredol.
Cyrsiau byr DPP
Mae ein rhaglen cwrs byr yn ymdrin â phynciau megis marchnata, cyfathrebu ar-lein a rheoli pobl. Gweithdai a dosbarthiadau ymarferol yw'r rhain, wedi'u dylunio ar gyfer gwella lefelau sgiliau a datblygu gwybodaeth mewn meysydd allweddol.
Rydym wedi dewis y cyrsiau canlynol am eu bod yn arbennig o berthnasol ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn y sector peirianneg/cynllunio/pensaerniaeth/cynllunio.
Cyfathrebu
Sgiliau ysgrifennu ar gyfer busnes |
Cyfathrebu hyderus |
Sgiliau cyflwyno |
Marchnata a chyfathrebu ar-lein
Dadansoddeg Google |
Google Ads |
SEO |
Cyflwyniad i Farchnata Digidol |
Marchnata Digidol Uwch |
Cyflwyniad i Ysgrifennu Copi |
Sgiliau Ysgrifennu Copi Lefel Uwch |
Sgiliau rheoli a threfnu
Hyfforddi'r hyfforddwr (2 ddiwrnod) |
Hunan-drefnu effeithiol (2 ddiwrnod) |
Rheoli Perfformiad er mwyn cael Canlyniadau |
Mae manylion llawn y cwrs ar dudalennau gwe Cyrsiau byr DPP.
Os hoffech siarad â'n tîm cyfeillgar yn yr Uned DPP, rhwydd hynt i chi gysylltu â ni:
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Gall ein rhaglen MSc mewn BIM ar gyfer Peirianneg Deallus fod yn sail i hyfforddiant mewnol pwrpasol i'ch sefydliad.