Ewch i’r prif gynnwys

Telerau ac amodau

Telerau ac amodau ar gyfer cyrsiau, digwyddiadau a chynadleddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Diffiniadau

Mae ‘Uned DPP’ neu ‘Ni’ neu ‘Prifysgol Caerdydd’ yn golygu Prifysgol Caerdydd neu’r Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae ‘Cleient’ neu ‘Chi’ yn golygu’r person, y cynrychiolwr, y cwmni neu’r sefydliad sy’n cadw lle neu sy’n bresennol mewn digwyddiad datblygu proffesiynol parhaus (DPP).

Mae ‘Cwrs’ yn golygu cwrs DPP agored (ar-lein neu wyneb yn wyneb), gweminar, gweithgaredd neu ddigwyddiad arall. Nid yw’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i gyrsiau pwrpasol neu gaeedig.

Mae ‘Dyddiad Cychwyn’ yn golygu’r Dyddiad Dechrau neu Ddyddiad Dechrau Mynediad y cwrs.

Mae ‘Ffioedd’ yn golygu pris y cwrs.

Mae ‘Darparwr Hyfforddiant’ yn golygu cwmni neu hyfforddwr sy’n cynnal cwrs ar wahân i Brifysgol Caerdydd.

Mae 'diwrnod' yn golygu pob dydd o'r wythnos heblaw gwyliau statudol a chyfnodau cau Prifysgol Caerdydd.

Mae ‘Cwrs Eithriadol’ yn golygu cwrs lle mae telerau gwahanol o ran y polisi canslo, cyfnewid a throsglwyddo. Mae Cyrsiau Eithriadol wedi’u nodi’n glir yn yr amlinelliad o’r cwrs.

Mae ‘Dyddiad Cychwyn’ yn golygu’r Dyddiad Dechrau neu Ddyddiad Dechrau Mynediad y cwrs.

Mae 'Dyddiad Dechrau' yn golygu dyddiad y cwrs.

Mae 'Dyddiad Dechrau Mynediad' yn golygu'r dyddiad y mae'r cleient yn cyrchu'r cwrs.

Mae 'Cyrsiau gyda Dyddiad Dechrau Mynediad Treigl' yn golygu cwrs sy'n cael ei gynnal yn rheolaidd ac sydd â Dyddiadau Dechrau Mynediad lluosog.

Mae 'Dyddiad Cadw Lle' yn golygu'r dyddiad y cadwodd y cleient ei le ar y cwrs.

Cwmpas

Mae’r telerau ac Amodau hyn yn berthnasol i bob cwrs.

Prisiau

Mae ein gwefan yn hysbysebu’r ffioedd ar gyfer pob cwrs DPP. Rydym ni’n cadw’r hawl i gynyddu’r ffioedd o’r rheiny sydd wedi’u nodi ar y wefan neu drwy ffurf arall yn ôl ein disgresiwn ac am unrhyw reswm cyn y Dyddiad Cychwyn. Mae’r ffioedd yn cynnwys yr holl daflenni cwrs, deunydd neu lawlyfrau cyn y cwrs, cinio, lluniaeth a chostau arholiadau neu achrediad (os yw’n berthnasol) ar gyfer cleientiaid yn y DU, oni nodir yn wahanol.

Mae’n bosibl y bydd gofyn i gleientiaid o du allan i’r DU dalu costau ychwanegol am bostio, os ydym ni’n gorfod talu’r costau hyn. Bydd hyn yn cael ei ddatgan yn glir yn yr amlinelliad o’r cyrsiau neu mewn gohebiaeth cyn cadw lle.

Telerau talu

Rhaid talu'r ffi yn llawn cyn y Dyddiad Cychwyn. Efallai bydd cynrychiolwyr yn cael eu gwrthod ar ddydd y cwrs os na fydd yr anfoneb wedi’i dalu. Os yw noddwr yn talu’r ffi, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darparu llythyr noddi neu ddogfennaeth ffurfiol arall yn cadarnhau ei fod yn derbyn atebolrwydd am daliad. Mae'r cleient yn parhau i fod yn gwbl atebol os bydd ei noddwr yn methu â gwneud y taliad gofynnol yn unol â'n telerau talu. Gellir cytuno ar drefniadau arbennig ar wahân gydag archebion hwyr.

Cyrsiau

Mae’r Uned DPP yn darparu hyfforddiant ar y cyd â darparwyr hyfforddiant penodedig. Hyd eithaf gwybodaeth yr Uned DPP, mae’r darparwyr hyfforddiant hyn wedi’u cymhwyso a’u hachredu’n addas i ddarparu’r cyrsiau hyfforddi a gynigir.

Canllaw cyffredinol yn unig yw cynnwys amserlenni cyrsiau ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract. Rydym ni’n cadw’r hawl i wneud unrhyw amrywiadau rhesymol i gyrsiau, gan gynnwys y cynnwys a’r lleoliad, heb unrhyw rybudd.

Canllaw cyffredinol yn unig yw argaeledd a lleoliad cyrsiau a ddangosir ar wefan Prifysgol Caerdydd ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract. Cysylltwch â’r Uned DPP cyn gwneud unrhyw drefniadau o ran teithio neu lety gan na fyddwn yn atebol am unrhyw gamau a gymerwch wrth ddibynnu ar yr wybodaeth.

Cyfrifoldeb y cleient yw sicrhau ei fod yn bodloni rhagofynion y cwrs y mae’n trefnu i fynd arno, a bod y cwrs yn bodloni ei ofynion.

Oni nodir yn wahanol, caiff pob cwrs ei gynnal yn Saesneg, ac mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod â gallu digonol mewn Saesneg.

Cefnogaeth dechnegol a mynediad

Os na allwch gael mynediad at gwrs ar-lein, byddwn yn gwneud ymdrech resymol i gynnig ateb lle mae gennym reolaeth uniongyrchol dros y system, y feddalwedd neu’r gosodiadau cysylltiedig. Os mai achos y broblem yw eich caledwedd, eich systemau, eich meddalwedd neu osodiadau’r rhain, gallwn, yn ôl ein disgresiwn, roi cymorth i’ch helpu i ddatrys y mater ond ni allwn sicrhau y bydd unrhyw gymorth a roddir yn datrys eich problem.

Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw oedi neu darfu ar eich mynediad at gwrs ar-lein o ganlyniad i unrhyw gyfyngiadau mur cadarn a osodwyd ar eich rhwydwaith neu ar y cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio, unrhyw fethiannau o ran cysylltiadau ac offer telegyfathrebu, neu faterion sy’n codi o borwr wedi’i ddiweddaru.

Canslo, trosglwyddo a chyfnewid (ar gyfer pob cwrs ac eithrio cyrsiau gyda Dyddiad Dechrau Treigl neu Gyrsiau Eithriadol)

Sylwer y byddwn yn anfon manylion cyrsiau (fel lleoliad, amseroedd, tasgau cyn y cwrs ac ar gyfer cyrsiau ar-lein, manylion mewngofnodi Teams/arall) ac yn cadarnhau bod y cwrs yn mynd yn ei flaen fel a ganlyn:

  • 14 diwrnod cyn y Dyddiad Cychwyn (oni nodir yn wahanol).

Cyfnewid

Lle mae cwrs yn cynnwys elfennau o e-ddysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim cyfnewid ar ôl cael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i fodloni ceisiadau gan y cleient i gyfnewid un cynrychiolydd am un arall, ond nid ydym o dan unrhyw reidrwydd i wneud hynny. Mae ceisiadau o’r fath yn gofyn bod y sawl sy’n cymryd lle’r cynrychiolydd gwreiddiol yn bodloni’r rhagofynion ar gyfer y cwrs.

Mewn achos lle mae’n rhaid cyfnewid, rhaid i’r cleient dalu unrhyw gostau sy’n ymwneud â’r newid na ellir eu hosgoi.

Trosglwyddiadau

Lle mae cwrs yn cynnwys elfennau o e-ddysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim trosglwyddo ar ôl cael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Os na fydd unigolyn yn gallu bod yn bresennol yn y cwrs a drefnwyd, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drosglwyddo’r unigolyn hwnnw i gwrs amgen.

Os gwneir y cais hwn 14 diwrnod gwaith neu fwy cyn dyddiad cychwyn y cwrs gwreiddiol, yr unig gostau y bydd yn rhaid eu talu fydd ffi weinyddol o £50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth yn y ffioedd. Os gwneir cais i drosglwyddo o fewn 13 diwrnod, bydd y ffi canslo isod yn berthnasol.

Rhaid trosglwyddo i gwrs o fewn yr un flwyddyn galendr. Dim ond unwaith y gellir trosglwyddo. Rhaid i’r cleient gyflwyno’r cais i drosglwyddo yn ysgrifenedig at train@caerdydd.ac.uk.

Nifer y diwrnodau i hysbysuY ffi sy’n daladwy
14 diwrnod neu’n fwy£50 ynghyd ag unrhyw wahaniaethau mewn ffioedd rhwng y ddau gwrs
13-0Bydd hyn yn cael ei ystyried yn canslo a bydd y ffi canslo yn berthnasol

Canslo

Lle mae cwrs yn cynnwys elfennau o e-ddysgu, addysgu byw ar-lein a / neu wyneb yn wyneb, chewch chi ddim trosglwyddo ar ôl cael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho.

Gall y cleient ganslo cwrs drwy roi gwybod i ni yn ysgrifenedig. Tybir hefyd bod cleient wedi canslo os nad yw’n bresennol.

Ym mhob achos, rhaid i’r cleient gadarnhau ei fod yn canslo yn ysgrifenedig drwy anfon e-bost at train@caerdydd.ac.uk, gyda thystiolaeth gefnogol (os yw’n berthnasol).

Bydd yn rhaid i’r cleient dalu ffi canslo fel a ganlyn:

Nifer y diwrnodau i hysbysu% ffioedd y cwrs sy’n daladwy
14 diwrnod neu’n fwyFfi weinyddol o £50
13-0100%

Termau penodol ar gyfer cyrsiau gyda Dyddiad Dechrau Mynediad Treigl

Mae amodau a thelerau ar wahân yn ymwneud â chanslo, trosglwyddo a chyfnewid ar gyfer cyrsiau sydd â Dyddiad Dechrau Mynediad Treigl, fel a ganlyn:

Ystyrir bod y cwrs yn cychwyn ar y Dyddiad Dechrau Mynediad. Caniateir canslo hyd at 5 diwrnod ar ôl y Dyddiad Cadw Lle cyn belled â bod hyn cyn y 'Dyddiad Dechrau Mynediad'.

Ar ôl hyn, ni chaniateir canslo.  Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni chaniateir trosglwyddo neu gyfnewid ar gyfer cyrsiau gyda Dyddiad Dechrau Mynediad Treigl.

Dylech gyfeirio at yr e-bost cadarnhau cwrs (a anfonwyd pan wnaethoch chi dalu am y cwrs) i gael manylion am ba mor hir y mae gennych fynediad ato.

Termau penodol ar gyfer Cyrsiau Eithriadol

Mae Cyrsiau Eithriadol yn destun telerau ac amodau ar wahân sy’n ymwneud â chanslo, trosglwyddiadau a chyfnewid, fel a ganlyn:

Cyfnewid

Bydd yr Uned DPP yn gwneud pob ymdrech i fodloni ceisiadau gan y cleient i gyfnewid un cynrychiolydd am un arall, ond nid yw o dan unrhyw reidrwydd i wneud hynny.

Mae ceisiadau'r cleient yn amodol ar y cynrychiolydd newydd yn bodloni'r rhagofynion ar gyfer y cwrs ac ymgymryd â'r broses ymgeisio lawn. Rhaid i’r cleient gyflwyno ceisiadau cyfnewid hyd at 28 Diwrnod gwaith cyn y Dyddiad Cychwyn. Os gofynnir am gyfnewid o fewn 28 Diwrnod , bydd y ffi canslo yn berthnasol.

Nifer y diwrnodau i hysbysuY ffi sy’n daladwy
Mwy na 29 diwrnodDdim yn berthnasol
28-0Bydd hyn yn cael ei ystyried yn canslo a bydd y ffi canslo yn berthnasol

Trosglwyddiadau

Nid yw trosglwyddiadau ar gael ar Gyrsiau Eithriadol.

Canslo

Lle rydym wedi dynodi cwrs yn 'Eithriadol', a'ch bod yn gleient sy'n cadw lle ar gyfer cynrychiolwyr, codir y taliadau canlynol:
Nifer y diwrnodau i hysbysu% ffioedd y cwrs sy’n daladwy
Mwy na 57100%
56-00%

Lle mae'r cleient wedi cadw un lle yn unig ar Gwrs Eithriadol, codir y taliadau canlynol:

Nifer y diwrnodau i hysbysu% ffioedd y cwrs sy’n daladwy
Mwy na 57100%
56-2950%
28-00%

Mater i ddisgresiwn Pennaeth yr Uned DPP yw a ellir diwygio'r uchod.

Bydd Pennaeth yr Uned DPP yn ystyried amgylchiadau eithriadol.

Os byddwn yn canslo neu'n gohirio cwrs

Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ohirio unrhyw gwrs. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd ffioedd yn cael eu had-dalu yn llawn. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu gost arall sy’n codi o ganslo’r cwrs, gan gynnwys costau teithio neu lety.

Os byddwn yn canslo neu'n gohirio cwrs, byddwn yn cysylltu â'r cynrychiolwyr trwy e-bost ac yn cynnig dyddiad wedi'i aildrefnu (os yw ar gael).