Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Wcráin Cymru

Mae Prosiect Cais o’r Newydd Prifysgol Caerdydd yn datblygu ein partneriaeth bresennol gyda Chyfiawnder Lloches a gyflwynodd brosiect a enillodd wobrau, Prosiect Wcráin Cymru, rhwng 2022-2024.

Roedd Prosiect Wcráin Cymru yn cynnig gwasanaeth cyngor untro pwrpasol a gwaith achos cyfyngedig i ffoaduriaid Wcráin a oedd angen cyngor ar fewnfudo yng Nghymru ac fe'i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynodd y prosiect hefyd gyfres o sesiynau Addysg Gyfreithiol Gymunedol i gymuned ehangach Wcráin yng Nghymru.

Mae'r Prosiect Cais o’r Newydd yn parhau ac yn ymestyn y gwaith hwn ond mae'n canolbwyntio ar grŵp cleientiaid gwahanol. Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan y cyfreithiwr mewnfudo a lloches profiadol, Jennifer Morgan. Caiff ei chefnogi gan y Cydlynydd Suzy McGarrity mae’r ddwy ohonyn nhw’n gweithio gyda thîm o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Nod y prosiect yw cynnig gwasanaeth gwaith achos llawn i geiswyr lloches yng Nghaerdydd a'r ardaloedd cyfagos sydd am roi tystiolaeth newydd neu sydd wedi'i diweddaru i'r Swyddfa Gartref i gefnogi eu hachosion.

Nid yw’r i'r grŵp cleientiaid hwn yn cael gweithio na derbyn unrhyw gymorth gan y wladwriaeth sy'n golygu eu bod yn aml yn ddigartref / mynd o un soffa i’r llall ac yn agored i gael eu hecsbloetio a’u cam-drin. Mae ein myfyrwyr yn cefnogi Jennifer gyda thasgau ymchwil a drafftio i helpu cleientiaid i ddod o hyd i dystiolaeth newydd a’i chyflwyno i'r Swyddfa Gartref.

“Mae nifer o adroddiadau ymchwil dros y blynyddoedd diwethaf wedi nodi fod Cymru yn anialwch o ran cyngor ar fewnfudo a chyfraith lloches. Yr effaith go iawn yw nad yw llawer o geiswyr lloches sydd ag achosion y gellir eu dadlau yn cael y cyngor a’r gefnogaeth a fyddai’n caniatáu iddyn nhw gael yr amddiffyniad i ffoaduriaid y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae ein prosiect yn cynnig cymorth cyfreithiol sydd wir ei angen ar gleientiaid bregus, yn ogystal â rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio gyda chleientiaid yn y sector lloches.”
Jen Morgan Arweinydd y prosiect

Mae carfan gyntaf o gleientiaid y prosiect yn cynnwys pobl o Syria, Somalia, Sudan, Zimbabwe a Libanus.

Rydyn ni’n hynod ddiolchgar bod ein prosiect sydd â chanolbwynt newydd yn parhau i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Welsh Government logo
Asylum Justice logo