Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd
https://www.youtube.com/watch?v=fFwZq8pgMDc
Mae Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal gwaith achos, ymchwil ac eiriolaeth ar bwnc camweinyddiadau cyfiawnder a hwn yw'r unig Brosiect Dieuogrwydd mewn prifysgol yn y DU sydd wedi helpu i wrthdroi achosion yn y Llys Apêl.
Achosion
Mae myfyrwyr ar Brosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn gweithio'n ddiflino i helpu pobl sy'n honni eu bod wedi'u cael yn euog o drosedd ar gam.
Rydym yn ymchwilio i'w hachos, gan gydgysylltu pan fo hynny'n briodol ac yn bosibl gydag ystod o arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys cyfreithwyr apêl, gwyddonwyr fforensig, ac arbenigwyr perthnasol eraill.
Hyd yn hyn, rydym wedi cynorthwyo gyda chyflwyno mwy na 25 o geisiadau i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, y sefydliad sydd â'r pŵer i gyfeirio achosion i'r Llys Apêl.
Ein llwyddiannau
Rydym yn falch o'n llwyddiannau ac yn parhau i dynnu sylw at y diffygion sylweddol yn ein system cyfiawnder troseddol gyfredol; gan ddefnyddio ein profiad i eirioli dros ddiwygio.
Ymchwil ac eiriolaeth
Yn ogystal â'n gwaith achos, mae Prosiect Dieuogrwydd Prifysgol Caerdydd yn codi ymwybyddiaeth o ddiffygion y system cyfiawnder troseddol a'r broses apelio.
Yn ein profiad ni, nid yw'r system yn ffafriol i helpu pobl ddieuog sydd wedi cael eu barnu’n euog yn anghywir, ac rydym yn gweithio'n agos gyda phobl a sefydliadau sydd â diddordeb i eirioli dros newid.
Erthyglau a gyhoeddwyd
Mae'r Athro Julie Price a Dr Dennis Eady wedi cyfrannu nifer o erthyglau i The Justice Gap, cylchgrawn ar-lein sy'n taflu goleuni ar yr argyfwng yn ein system gyfiawnder.
Gwaith polisi
Rydym yn defnyddio ein gwaith achos a'n hymchwil i eirioli dros newidiadau polisi.
Y Siarter Cyfiawnder Agored
Mewn cydweithrediad ag Appeal, Inside Justice, a Dr Marik Henneberg, rydym wedi datblygu'r Siarter Gyfiawnder Agored, sy'n galw am fwy o dryloywder yn y system cyfiawnder troseddol.
Tystiolaeth i'r Senedd
Oherwydd ein profiad helaeth o ymchwil i gamweinyddiadau cyfiawnder, gelwir arnom i gyfrannu at amrywiaeth o adroddiadau a phapurau eang yn y Senedd:
- Cyflwyniad i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder ar faterion yn ymwneud â datgelu tystiolaeth, a gyflwynwyd gyda'r Ganolfan Apeliadau Troseddol yn 2018
- Adroddiad ar Adolygiad Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin o'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol
- Tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i Gomisiwn San Steffan ar Gamweinyddiadau Cyfiawnder 2019
Cydweithio gyda sefydliadau eraill
Mae'r Athro Price a Dr Eady yn, neu wedi bod yn, ymwneud â, mewn swydd ymgynghorol, sefydliadau amrywiol sy'n ceisio diwygio'r gyfraith.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhwydwaith Dieuogrwydd Ewrop
- Rhwydwaith Dieuogrwydd y DU (INUK)
- Grŵp Rhanddeiliaid Y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol
- South Wales Against Wrongful Conviction
- Falsely Accused Support Organisation (FASO)
- Falsely Accused Carers and Teachers (FACT)
- Centre for Criminal Appeals
- Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gamweinyddiadau Cyfiawnder
- Innovation of Justice
- Inside Justice