Ewch i’r prif gynnwys

Pro bono

Mae Uned Pro Bono Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr helpu aelodau'r gymuned gyda materion cyfreithiol, yn gwbl rhad ac am ddim.

Gan weithio gyda chyfreithwyr ac amrywiaeth o sefydliadau, rydym yn rhoi dechrau da i'n myfyrwyr yn eu gyrfa gyfreithiol drwy ganiatáu iddynt ddatblygu eu sgiliau mewn gofal cleientiaid, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a siarad cyhoeddus drwy weithio ar achosion go iawn cyn iddynt adael y brifysgol.

Goruchwylir myfyrwyr gan gyfreithwyr cymwys ar waith achos sy'n cwmpasu meysydd megis rheoleiddio a chynigion amgylcheddol, camweinyddu cyfiawnder, cymorth i bobl ag anableddau dysgu, cynrychiolaeth i geiswyr lloches ac adennill ffioedd cartrefi gofal a dalwyd yn anghywir.

Dysgwch am ein hanes ac am ein portffolio o waith.

Mae ein myfyrwyr a'n staff yn gweithio i helpu pobl sydd wedi'u cael yn euog o droseddau ar gam.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i helpu pobl â materion cyfreithiol, yn gwbl rhad ac am ddim.

Mae ein harbenigwyr academaidd a'n staff gwasanaethau proffesiynol yn goruchwylio amrywiaeth o gynlluniau pro bono.