Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau ymchwil ôl-raddedig

Mae nifer o fyfyrwyr wedi cymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil ôl-raddedig a gefnogir gan y tîm PRASADA.

Ymchwilwyr MPhil a PhD

Yusuf Adams

Teitl: 'Beyond the Minaret: a Space for the Spirit, a Place for the People'.

Fiona Buckee

Nod y traethawd ymchwil hwn oedd ail-greu, drwy luniau, gynllun gwreiddiol meindwr Teml 45, adfail o deml Latina yn Safle Treftadaeth y Byd Sanchi yn Madhya Pradesh. Y data sylfaenol ar gyfer y prosiect hwn oedd y cannoedd o ddarnau pensaernïol o'r deml sy'n goroesi ar y safle heb eu dadansoddi.

Mae Fiona bellach yn gweithio fel Cydymaith Ymchwil a Darlithydd yn ACE Prifysgol Llundain.

Megha Chand Inglis

Teitl: 'Interrogating contemporary architectural traditions: the Sompuras of Gujarat and British Suburbia'.

Himanish Das

Teitl: 'Principles of design, architectural form, language and construction techniques, in the traditional architecture of Jaisalmer'.

Roedd yn canolbwyntio ar havelis tywodfaen (tai cwrt trefol) Jaisalmer, dinas yn anialwch gogledd orllewin Rajasthan, India.

Mae'r ddinas wedi denu edmygedd penseiri Indiaidd cyfoes ond dealltwriaeth Fodernaidd sydd ganddynt, yn seiliedig i raddau helaeth ar syniad 'trefniant gofodol'. Hon oedd yr astudiaeth systematig gyntaf o draddodiad pensaernïol Jaisalmer. Cwblhaodd Himanish ei PhD yn 2006.

Sona Datta

Esboniad manwl a chynhwysfawr o bensaernïaeth temlau yn Oes Gynnar Pantiya C.6-11 yn seiliedig ar ymchwil maes helaeth i ddwsinau o safleoedd (llawer ohonynt ar ôl cael eu camddosbarthu, eu hesgeuluso neu hyd yn oed eu colli a'u hanghofio) a dadansoddiad o arysgrifiadau teml inscriptions (llawer wedi'u cyfieithu yn uniongyrchol o destun grweiddiol mewn Tamil canoloesol). Datgelodd y gwaith ymchwil hwn natur annodweddiadol nawdd yn y rhanbarth gan ddosbarthiadau masnachol a chymunedau lleol a'r rôl gyfatebol y daeth pensaernïaeth crefyddol i chwarae mewn bywyd lleol. Cwblhaodd Sona ei PhD yn 2011.

Ar hyn o bryd mae SONA yn gweithio fel Curadur yn Amgueddfa Essex Peabody yn Salem, Massachusetts.

Ananya Gandotra

Cyflwynodd yr astudiaeth gyfrifiadur i astudio pensaernïaeth y deml Indiaidd am y tro cyntaf, fel arf effeithiol i brofi, dadansoddi a dehongli ffurfau cymhleth y deml. Rhoddodd y gwaith sylw i'r angen am yr ysgoloriaeth i ddadansoddi datblygiad a thrawsnewidiad pensaernïol y deml Indiaidd o ran ei ffurf tri dimensiwn, yn hytrach nag yn nhermau naill ai'r cynllun neu'r gweddlun.

Dadansoddir temlo fath  Shekhari Gogledd India, sy'n dangos cynlluniau to, a chyflwynir astudiaethau tri dimensiwn o ddwy deml adnabyddus ar safle canolog teml Indiaidd Khajuraho, teml Lakshmana (ca. A.D. 954) a theml Kandhariya Mahadeva (ca. A.D. 1030).

Cwmblhaodd Ananyau ei doethuriaeth yn 2007 ac yn ar hyn o bryd hi yw Pennaeth dylunio Ystâd Birla.

Laxshmi Greaves

Teitl: 'Computer Modelling and Analysis of the Shekhari Form of Indian Temple'.

Rupa Raje Gupta

Yr astudiaeth o wada Maharashtra oedd y trosolwg systematig cyntaf o ffurfiau'r Tŷ Cwrt yn nhalaith Maharashtra, a'i bum rhanbarth traddodiadol. Mae'r astudiaeth wedi cofnodi a dadansoddi'r wada er mwyn datblygu dealltwriaeth o fath rhanbarthol o ffurf ar y Tŷ Cwrt. Gwnaed ymgais i wau agweddau cymdeithasol, diwylliannol, hanesyddol a daearyddol er mwyn deall a datblygu'r wada..

Cwblhaodd Rupa yn cwblhau ei doethuriaeth yn 2007 ac mae nawr yn Rheolwr Gweithrediadau a Gwyddonydd Penderfyniadau yn NIILM CMS.

Amna Jahangir

Teitl: 'Colonial Impact on Urbanism of the West Punjab: Town Morphology as an Imperial Imperative'

Amita Kanekar

Mae'r prosiect hwn yn astudiaeth bensaernïol sy'n dogfennu dwy deml o gyfnod Ikkeri Nayaka. Yr amcanion oedd cynhyrchu'r dogfennau pensaernïol cyflawn cyntaf o'r adeiladau hyn; i ddarparu disgrifiad cynhwysfawr o ffurf, cyfansoddiad, dywnarediadau arddulliadol a'r gwaith adeiladu ac ymchwilio i ystyr a phatrwm y dyluniadau, gan gynnwys y pensaernïol a phrosesau eraill a arweiniodd at y heterogeinity. Roedd Amita wedi cwblhau ei PhD yn 2009.

Awdur yw Amita a'i chyhoeddwyd ei llyfr 'A Spoke in the Wheel: A Novel About the Buddha' yn 2005.

Yashaswini Sharama

Nododd natur y diwylliannau sy'n sail i bensaernïaeth y ddinas drwy olrhain y datblygiad yn gronolegol o'i sefydlu yn y 16eg ganrif i greu ei hamddiffynfeydd a'i hehangu yn ystod teyrnasiad Hyder Ali ({j}1761-1782 AD) a Tipu Sultan ({j}1782-1799 AD), gan esbonio amrywiol elfennau ymarferol sy'n effeithio ar ffurf y ddinas, yn benodol y newid yng nghymeriad Pētē o anheddiad masnachol yn bennaf i un milwrol.

Cwblhaodd Yashaswini ei doethuriaeth yn 2007 ac mae ar hyn o bryd yn Athro Cyswllt yn Ysgol Pensaernïaeth Dayananda Sagar.

Devdutt Shatri

Nod y traethawd ymchwil hwn oedd datblygu fframwaith damcaniaethol yn seiliedig ar y corff ac ar thema symudiad, ar gyfer dadansoddi, dehongli a chreu pensaernïaeth.

Doria Tichit

Neilltuwyd y traethawd hwn i ddadansoddiad o deml Udayeśvara a adeiladwyd yn Udayapur (dosbarth Vidisha, Madhya Pradesh) yn ail hanner yr 11eg ganrif.

Cwblhaodd Doria ei doethuriaeth yn 2011 ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Gweithredol yn L'ahah.

Graddau ymchwil a gwblhawyd ym Prifysgol De Montfort

Sefydlwyd PRASADA yn 1995 a'i lleoli'n wreiddiol ym Mhrifysgol De Montfort.Symudodd grŵp ymchwil PRASADA i Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn 2004.

Y rhain yw'r graddau ymchwil a gwblhawyd ym Prifysgol De Montfort rhwng 1998 a 2005.

  • Ashutosh Sohoni, Temples of the Marathas in Maharashtra (PhD 1998)
  • Meera Dass, Udayagiri, a Sacred Hill: Architecture, Sculpture, Landscape (PhD 2001)
  • Shikha Jain, The Havelis of Rajasthan: Form and Identity (PhD 2002)
  • Deepanjana Danda, Maharashtra and the Cross-Fertilisation of Style of Brahmanical Cave Temples in India (PhD 2003)
  • Ajay Khare, The Tradition of Temple Architecture in Bengal: 9th-16th C. (PhD 2004)
  • Jyoti Sharma, The Urban Order of Shahjahanabad, 1639-1911 AD (PhD 2005)
  • Anuradha Nambiar, Mapping a Site: Geographies of Cultural Transformation - a Study of the Thamburan Palace, Thrissur (MPhil 2005)