Astroffiseg gwrthrych cryno deuaidd
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae ein hymchwilwyr yn ceisio ateb y cwestiwn o sut mae sêr niwtron a thyllau duon yn ffurfio ac yn esblygu ar draws amser cosmig.
Ein hymchwil
Bydd arsylliadau tonnau disgyrchol o sêr niwtron a thyllau duon deuaidd yn egluro nid yn unig priodweddau gwrthrych cryno, ond hefyd sut y cânt eu ffurfio gyntaf a sut maent wedi esblygu.
Mae yna lawer o lwybrau at ffurfio gwrthrychau cryno deuaidd. Mae ein grŵp yn canolbwyntio ar ddau gategori eang sy'n amlinellu gwahanol senarios: yn gyntaf, ffurfio trwy esblygiad sêr deuaidd enfawr ym maes galaethau, ac yn ail, trwy ryngweithio disgyrchol agos yng nghreiddiau dwys clystyrau serol.
Gan ddefnyddio efelychiadau cyfrifiadurol perfformiad uchel a theori ddadansoddol, rydym yn archwilio ffurfio ac esblygiad cryno deuaidd yn y ddau amgylchedd hyn.
Trwy gymharu rhagfynegiadau ein modelau astroffisegol o ffurfio systemau deuaidd â data tonnau disgyrchol, rydym yn cyfyngu ar darddiad y ffynonellau. Rydym hefyd yn taflu goleuni ar esblygiad sêr enfawr, tarddiad gwrthrychau cryno, priodweddau anhysbys clystyrau ifanc ac yn y pen draw yn dadorchuddio'r prosesau sy’n rheoli ffurf ac esblygiad sêr a chlystyrau ar draws amser cosmig.
LIGO scientists detect gravitational wave signal from the merging of two black holes.