Mater Cywasgedig a Ffotoneg
Mae ein grŵp yn chwarae rôl allweddol wrth lywio dyfodol ymchwil i fater cywasgedig a ffotoneg, gan ymdrin â phopeth sy’n amrywio o theori ac arbrofion i gymwysiadau a defnydd ymarferol.
Rydyn ni’n dod â ffiseg sylfaenol a gwaith i ddatblygu cysyniadau dyfais ynghyd drwy fesur ac efelychu prosesau strwythurol, optegol, trydanol a magnetig sylfaenol mewn nanostrwythurau lled-ddargludol, metalig a magnetig organig ac anorganig.
Mae ein hymchwil yn gwella dealltwriaeth o’r canlynol:
- rhyngweithiadau mater-golau
- symudiad gwefr a sbin
- sut mae theorïau’n cael eu datblygu a’u dilysu
- sut mae cysyniadau dyfais newydd yn cael eu datblygu
- teclynnau ffotometrig a sbectrosgopig tra sensitif
Ein hunedau ymchwil
Mae ein gwaith wedi’i rannu rhwng pum uned ymchwil:
Ein cyfleusterau
Mae gan y grŵp gyfres o labordai o'r radd flaenaf sy'n cynnwys:
- dwy ystafell lân dosbarth 1,000 ar gyfer cynhyrchu dyfeisiadau a strwythurau prawf
- labordy tyfu diemwntau
- cyfleuster microsgopeg electronau egni isel
- cyfleuster micro-sbectrosgopeg optegol aflinol gyflym iawn
Mae gan y grŵp hefyd arbenigedd arbrofol a damcaniaethol helaeth, gan gynnwys nifer o dechnegau ar gyfer cynhyrchu a nodweddu deunyddiau a dyfeisiau, a ddatblygwyd yn y grŵp ei hun.
Mae gennyn ni hefyd gysylltiadau cydweithredol agos â'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Ffowndri Diemwnt Caerdydd.