Rydym yn croesawu ceisiadau am Gymrodoriaeth Cymdeithas Frenhinol y Brifysgol, Cymrodoriaeth Ernest Rutherford STFC, cymrodoriaeth Arweinyddiaeth y Dyfodol UKRI, Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie Actions, cymrodoriaeth Newton International ac eraill.
Sylwch fod rhai o'r rhain, er enghraifft Arweinwyr y Dyfodol a Marie Skłodowska-Curie, angen Mynegiant o Ddiddordeb rai misoedd cyn y dyddiad cau gan y bydd yn rhaid eu harchwilio ar lefel Coleg/Prifysgol. Yn hyn o beth, rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â ni i gael gwybod am y gofynion a'r amserlen.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r posibiliadau hyn, cysylltwch â:
Reader Deputy Director of Research Associate Dean of Equality, Diversity and Inclusivity, College of Physical Sciences & Engineering Gravity Exploration Institute Cardiff Hub for Astrophysics Research and Technology