Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau israddedig

Ymunwch ag un o’r deg ysgol orau ar gyfer ffiseg yn y DU, ac mae ein sgoriau cyson uchel yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dangos bod addysgu a phrofiad myfyrwyr yn brif flaenoriaeth i ni.

students in a lab

Mae gan bob un o'n cyrsiau israddedig flwyddyn gyntaf gyffredin, sy'n golygu y gallwch chi drosglwyddo i gwrs israddedig gwahanol yn yr Ysgol os dymunwch wneud hynny.

Rydyn ni’n cynnig ystod o raddau sy’n cynnwys lleoliad gwaith proffesiynol, sy'n eich galluogi i roi hwb i'ch gyrfa trwy dreulio eich trydedd flwyddyn yn gweithio mewn cwmni allanol. Mae ein myfyrwyr yn aml yn cael cynnig gwaith yn yr un sefydliad ar ôl graddio.

Mae lleoliadau diweddar yn cynnwys amrywiaeth o rolau ym meysydd cyfathrebu, peirianneg, technoleg ac ymchwil a datblygu mewn ystod eang o ddiwydiannau o delathrebu a gofal iechyd i awyrofod a labordai ymchwil cenedlaethol.

Cyrsiau gradd