Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol ym maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
Mae’r Ganolfan hon ar gyfer Hyfforddiant Doethurol, sydd wedi’i hariannu gan yr EPSRC, yn cynnig ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn a hyfforddiant cynhwysfawr i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar Weithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Cynlluniwyd Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol ym maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i ategu nodau Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd a sefydlwyd yn y DU. Hyd yn hyn, mae wedi denu mwy na £500 miliwn o gyllid cyhoeddus a phreifat ac mae’n cynnig rhaglen PhD pedair blynedd ag ysgoloriaethau a ariennir yn llawn.
Mae’r rhaglen ymchwil ôl-raddedig hon, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd a’i phartneriaid, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Sheffield a Choleg y Brifysgol Llundain (UCL), yn adeiladu ar fentrau Lled-ddargludyddion amrywiol, fel Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSA) a Chanolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC, a arweinir gan Brifysgol Caerdydd.
Nod y mentrau hyn yw gyrru twf economaidd drwy bartneriaeth rhwng y byd diwydiant a phrifysgolion i gymhwyso’r ymchwil arloesol diweddaraf. Crëwyd y Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethurol ar y cyd ag IQE Plc, CSC Ltd, a’r Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSA), ac mae’n cynnwys dros 24 o bartneriaid diwydiannol.
Y Rhaglen PhD 4 blynedd
Rydym yn cynnig hyfforddiant PhD arbenigol yn y maes cyffrous ac arloesol hwn drwy nifer o ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn gan EPSRC. Mae’r ysgoloriaethau hyn yn talu ffioedd dysgu yn llawn a lwfans byw ar gyfer eich rhaglen pedair blynedd gyfan.
Byddwch yn dilyn rhaglen PhD pedair blynedd, gan dreulio’r flwyddyn gyntaf yn astudio modiwlau wedi’u haddysgu a datblygu’ch arbenigedd ym maes technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddwch yn gallu dewis modiwlau wedi’u haddysgu sydd naill ai’n rhan o raglen MSc mewn Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (yn canolbwyntio ar gymwysiadau opto-electronig) neu MSc mewn Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, pa un bynnag sydd fwyaf priodol i’ch cefndir a’ch diddordebau.
Yna, byddwch chi’n symud ymlaen i dair blynedd o raglen PhD dan oruchwyliaeth, gan ymgymryd â’ch ymchwil eich hun. Gallwch wneud eich ymchwil PhD ym Mhrifysgol Caerdydd neu gydag un o’n prifysgolion partner ym Manceinion, Sheffield neu UCL. Mae gan bob un o’r pedair prifysgol enw rhagorol am ymchwil yn ymwneud â Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, gyda chymuned fawr, fywiog ac amrywiol o ysgolheigion ac ymchwilwyr, a chyfleusterau o’r radd flaenaf. Hefyd, bydd gan bob prosiect bartner o’r diwydiant.
Mynnwch gip ar wefan y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol EPSRC mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd am ragor o fanylion.
Sut mae gwneud cais
I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a’n lleoedd PhD a ariennir, ewch i’n Porwr Cyrsiau.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethurol, cysylltwch â’n Swyddfa Derbyn Ôl-raddedigion.