Ymchwil ôl-raddedig
Mae'r gwaith ymchwil a gaiff ei gynnal yn yr Ysgol yn cynnwys prosiectau cydweithio ledled y byd a defnyddio cyfleusterau cenedlaethol a rhyngwladol blaengar.
Mae gennyn ni hanes cryf o brosiectau cydweithio ledled y byd a defnyddio cyfleusterau cenedlaethol a rhyngwladol blaengar.
Gweld ein graddau ymchwil ôl-raddedig sydd ar gael ar hyn o bryd. Dewch o hyd i Efrydiaethau PhD EPSRC mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ar dudalen Ysgoloriaethau Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPSRC (CDT).
Gallwch chi weithio ochr yn ochr â staff sy'n chwarae rhan weithredol mewn prosiectau cydweithio rhyngwladol mawr, gan gynnwys consortiwm offer SPIRE ar gyfer lloeren Herschel a Phrosiect Cydweithio Gwyddonol LIGO, a oedd yn y newyddion yn ddiweddar ar ôl iddo ddarganfod tonnau disgyrchol.
Astudio gyda ni
A ninnau’n aelod o brifysgolion Grŵp Russell rydyn ni’n cyfuno diwylliant o ragoriaeth ymchwil ag amgylchedd cefnogol i'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Rydyn ni’n cynnig ystod eang o brosiectau gradd ymchwil dan oruchwyliaeth, gan gynnwys nifer o gyfleoedd wedi’u hariannu bob blwyddyn.
Cyllid
Mae sicrhau cyllid yn debygol o fod yn ystyriaeth bwysig i chi yn fyfyriwr ôl-raddedig. Dysgwch ragor am ein cyfleoedd ymchwil wedi’i hariannu sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy'n dechrau ar eu hastudiaethau.
Mae ein proffil ymchwil-ddwys a’n henw da yn ein galluogi i sicrhau cyllid ar gyfer astudiaethau doethurol o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys Cynghorau Ymchwil y DU, elusennau ac ymddiriedolaethau, cyrff llywodraethol a’r diwydiant. Ar hyn o bryd rydyn ni’n arwain neu’n cymryd rhan mewn ystod o Fentrau Hyfforddiant Doethurol.
Prosiectau ymchwil
Rydyn ni’n cynnig goruchwyliaeth a/neu brosiectau ymchwil yn y meysydd canlynol:
- Seryddiaeth (Arsylwadol a Damcaniaethol)
- Offeryniaeth Seryddiaeth
- Mater Cywasgedig a Ffotoneg
- Y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant
- Delweddu’r Ymennydd
Bydd ymgymryd â gradd ymchwil ôl-raddedig yn eich galluogi i ddod yn rhan o fywyd ymchwil yr adran a dod yn rhan annatod o un o'n grwpiau ymchwil.
Mae pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn cael cynnig cyfle i ymgymryd â dyletswyddau arddangos neu farcio ar gyfer ein myfyrwyr israddedig. Mae hyn yn helpu i ddatblygu eich sgiliau addysgol a gwella eich CV. Byddwch chi hefyd yn cael cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan yng ngweithgareddau allgymorth niferus yr Ysgol.
Bringing stories from the Hershel Space Observatory to UK school children, teachers and international media.