Canolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg
Rydym yn astudio pob agwedd ar y bydysawd a'r gwrthrychau sydd ynddo, o gyfnod y chwyddiant, lai nag eiliad ar ôl y Glec Fawr i'r gwrthrychau yn ein cysawd ein hunain.
Rydym yn arsylwi'r bydysawd gan ddefnyddio offerynnau ledled y byd ac yn y gofod. Rydym yn adeiladu rhai ein hunain, gan gynnwys rhannau hanfodol o Arsyllfa Simons, a fydd yn ymchwilio i fomentau cyntaf y bydysawd (gweler uchod). Rydym yn cynnal efelychiadau cyfrifiadurol o'r radd flaenaf o enedigaethau sêr a galaethau. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant a'r Sefydliad Arloesedd Data.
Ein pynciau ymchwil
Astroffiseg
- Atmosfferau planedol a bywyd yn y Bydysawd
- Llwch rhyngserol
- Arsylwadau o enedigaeth sêr
- Efelychiadau cyfrifiadurol o enedigaeth sêr
- Tyllau du enfawr iawn
- Galaethau a’u Hesblygiad
- Efelychu Galaethau yn rhifiadol
- Gwylio galaethau drwy chwyddwydr
- Y ffrwydradau mwyaf yn y bydysawd
- Cosmoleg yng nghyd-destun Cefndir y Microdonnau
Technoleg
- Arsyllfa Simons
- Synwyryddion tra-ddargludol
- Camera Is-filimetr Mecsico-DU ar gyfer AsTronomy (MUSCAT)
- Ariel
- Telesgop Isgoch EXoplanetClimate (EXCITE)
- Y Seinydd Microdon (MWS)
- Cydrannau lled-optegol isgoch pell a metaddeunyddiau
- Offeryniaeth TeraHertz ar gyfer ceisiadau diogelwch
- Banciau hidlo tra-ddargludol ar gyfer seinio atmosfferig
- Lensys tra-ysgafn ar gyfer arsylwi'r Ddaear
- Twinkle