Cymrodoriaethau Ymchwil
Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn gwahodd y rheini sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn ymchwil ar ôl PhD i wneud cais am ystod o gymrodoriaethau.
Cyfleoedd presennol
Mae'r cyfleoedd hyn ar gael ar adegau gwahanol drwy gydol y flwyddyn.
Cymrodoriaethau Ernest Rutherford y Cyngor Cyllid Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Bydd yr Ysgol yn cefnogi dau gais am Gymrodoriaethau Ernest Rutherford 2024 gan y Cyngor Cyllid Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).
Mae angen i ymgeiswyr sydd â diddordeb wneud cais erbyn 21 Mehefin 2024. Anfonwch fersiwn gyflawn o ddatganiad o ddiddordeb y Cymrodoriaethau Ernest Rutherford (ERF) gan y Cyngor Cyllid Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) i gael ei ystyried gan yr adran i Dr Cosimo Inserra: InserraC@caerdydd.ac.uk. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu i ofyn am y ffurflen Datgan Diddordeb os nad yw ar gael ar wefan ERF, cysylltwch â Dr Cosimo Inserra.
Ewch i wefan UKRI i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ac ym mha fformat y dylai’r cais fod.
Cymrodoriaeth Ymchwil Prifysgol y Gymdeithas Frenhinol
Bydd yr Ysgol yn cefnogi ceisiadau am Gymrodoriaeth Ymchwil Prifysgol 2024 y Gymdeithas Frenhinol.
Anogir y rheini sy'n dymuno gwneud cais i gysylltu ag aelod o’r staff i lunio cynnig. Wedyn, gall yr aelod o’r staff roi cyngor ar y broses adolygu gan gymheiriaid mewnol yn ogystal â’r amserlen. Cysylltwch â Dr Cosimo Inserra: InserraC@caerdydd.ac.uk, neu'r Athro Erminia Calabrese: CalabreseE@cardiff.ac.uk, am ragor o fanylion.