Ewch i’r prif gynnwys

Research culture

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Physicist looking in microscope

Mae ein diwylliant ymchwil yn cydweithio’n weithredol ac yn flaengar ac yn cyfrannu at ymchwil wyddonol, yr economi a chymdeithas.

Ymchwil ar y cyd

Mae ein staff wedi sicrhau rolau mawr mewn sawl consortiwm, cenhadaeth a phrosiect rhyngwladol mawr.

Darganfyddwch ragor am ein hymchwil ar y cyd.

Cynadleddau rhyngwladol

A ninnau’n cydnabod pwysigrwydd rhannu gwybodaeth am weithgareddau ac allbwn ymchwil â’r gymuned wyddonol, rydym yn sicrhau ein bod yn weladwy mewn cynadleddau rhyngwladol fel Cynhadledd Wythnos Seryddiaeth a Gwyddorau’r Gofod Ewrop yn 2015 a 2019, Cynhadledd Ryngwladol Laserau Lled-ddargludyddol 2014, y Gynhadledd ar Laserau ac Electro-opteg rhwng 2015 a 2018, cyfarfod y Gymdeithas Ffisegol Americanaidd yn 2014 a chynadleddau'r Gymdeithas Ymchwil Faterol a Chymdeithas Ymchwil Faterol Ewrop yn 2019 a 2020.

Rydym yn rhan o sawl prosiect cydweithredol rhyngwladol lle mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd, ac mae cymryd rhan yn y cyfarfodydd hynny o bwysigrwydd strategol er mwyn symud ymchwil ar y cyd yn ei blaen a gwneud rôl Prifysgol Caerdydd yn yr ymchwil honno’n fwy gweladwy.

Mae ein grwpiau ymchwil yn cynnal seminarau pwrpasol ar y cyd â siaradwyr allanol enwog o’r DU a thramor ac yn cynnal cyfarfodydd grŵp mewnol a chlybiau cyfnodolion yn rheolaidd. Ceir seminarau traws-ysgol a thraws-goleg a chyfres gyda Phrifysgol Bremen a Phrifysgol Xiamen.

Cyfrannu at gynaliadwyedd ffiseg a seryddiaeth

Mae cynnal bywiogrwydd a safonau uchel wrth addysgu a gwneud ymchwil wedi arwain at sefyllfa lle mae 32% o’n staff academaidd yn ymarfer fel archwilwyr allanol, yn ogystal â chwarae rhan bwysig mewn pwyllgorau cynghori cenedlaethol a rhyngwladol, ym maes llunio polisi ac ar baneli ar draws disgyblaethau ffiseg a seryddiaeth.

Mae staff academaidd yn chwarae rôl arwain fawr wrth gydweithredu drwy gynnig a datblygu prosiectau a chyfleusterau newydd a helpu cynghorau ymchwil i gadarnhau blaenoriaethau ymchwil yn y dyfodol. Mae ein hymchwilwyr wedi cyfrannu at wybodaeth bresennol am y ddisgyblaeth a’r gwaith o lywio panorama ymchwil yn y dyfodol â gwerslyfrau a phapurau gwyn.  Mae pob academydd yn cyfrannu at y broses adolygu gan gymheiriaid ar gyfer cyfnodolion gwyddonol.

Rydym yn cynnal rhaglen allgymorth sy’n cael ei harwain gan Dr Chris North, Pennaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd, gan ein bod yn credu bod hyn yn bwysig i gyfrannu’n ystyrlon at ein heconomi a’n cymdeithas ehangach.

Gwobrau nodedig

O’n 20 aelod o staff academaidd, mae llawer ohonynt yn un o gymrodorion neu’n aelod o gymdeithasau rhyngwladol neu ddysgedig, gan gynnwys y Sefydliad Ffiseg, Academi Genedlaethol y Gwyddorau UDA, y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Perthnasedd Cyffredinol a Disgyrchedd, y Gymdeithas Ffisegol Americanaidd a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae sawl ymchwilydd wedi ennill gwobrau proffil uchel, fel unigolion ac aelodau o gonsortiwm fel ei gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

Gwobrau rhyngwladol

  • Gwobr Cosmoleg Buchalter 2020
  • Medal Richard Isaacson 2020 y Gymdeithas Ffisegol Americanaidd
  • Gwobr Giuseppe a Vanna Cocconi 2019 y Gymdeithas Ffisegol Ewropeaidd
  • MBE 2018
  • Doethuriaeth er Anrhydedd, Prifysgol Aix-Marseille 2018
  • Gwobr Marcel Grossmann 2018
  • Gwobr Cosmoleg Sefydliad Gruber 2016 a 2018
  • Gwobr Tywysoges Asturias ar gyfer Ymchwil Dechnegol a Gwyddonol 2017
  • Medal Einstein 2017
  • Bruno Rossi 2017
  • Gwobr ‘Special Breakthrough’ 2016

Gwobrau yn y DU

  • Medal Eddington 2019 y Gymdeithas Seryddol Frenhinol
  • Gwobr Philip Leverhulme 2018
  • Gwobrau Cyflawniad Grŵp 2014 a 2018 y Gymdeithas Seryddol Frenhinol
  • Gwobr Winton Capital 2017 y Gymdeithas Seryddol Frenhinol
  • Medal Arian Fred Hoyle 2017 y Sefydliad Ffiseg
  • Gwobr Fowler 2015 y Gymdeithas Seryddol Frenhinol
  • Medal Herschel 2015 y Gymdeithas Seryddol Frenhinol