Ewch i’r prif gynnwys

Effaith

P’un a ydyn nhw’n ymchwilio i’r bydysawd neu’n gwneud ymchwil sy’n arwain y byd ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, mae ein hymchwilwyr ar flaen y gad o ran arloesi ym meysydd ffiseg a seryddiaeth. Mae’r astudiaethau achos hyn yn amlygu rhai o’r meysydd lle mae ein hymchwil yn cael effaith gadarnhaol.

Dadansoddi’r Gymraeg gan ddefnyddio MRI

Mae ein hymchwil yn helpu dysgwyr Cymraeg i oresgyn trafferthion ynganu sy’n cael effaith ar eu hyder a’u gallu i ymdoddi i gymunedau Cymraeg eu hiaith.

A group of school children

Cyflwyno ffiseg i bawb

Mae ein hymchwil wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwneud pobl yn fwy ymwybodol o seryddiaeth, ac wedi helpu i drawsnewid, y ffordd yr addysgir y pwnc, a’r ffordd mae’r cyhoedd yn meddwl amdano.

Masnachu ein technoleg Terahertz: o seryddiaeth i'r farchnad ryngwladol

Mae technolegau a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn ein Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth wedi cael eu haddasu a’u masnacheiddio gan bartneriaid diwydiannol i gynyddu gwerthiannau a refeniw byd-eang yn sylweddol ac i gael cyllid o’r sector preifat a chyhoeddus.

Partneriaeth ymchwil yn arwain at Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd

Mae gan ein hymchwil a’n partneriaeth â chyfleuster lled-ddargludyddion cyfansawdd y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyflawn cyntaf a buddsoddiad o dros £167 miliwn.

Herschel space observatory iamge

Gweld Gwyddoniaeth yn y Gofod

Dod â straeon o Arsyllfa Gofod Hershel i blant ysgol ac athrawon y DU a chyfryngau rhyngwladol.