Ewch i’r prif gynnwys

Estyn Allan

Secondary school children in a classroom using an ipad.

Rydym yn hysbysu'r cyhoedd am ymchwil wyddonol arloesol, yn darparu adnoddau ar gyfer athrawon ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn gwyddoniaeth.

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn allweddol bwysig ac rydym ni’n cynnal llawer o raglenni estyn allan llwyddiannus a sylweddol, sy’n cael eu cydlynu gan Bennaeth Ymgysylltiad Cyhoeddus yr Ysgol, Dr Chris North.

Mae ‘estyn allan’ yn cyfeirio at ymdrechion gwyddonwyr i ddod i gysylltiad â’r cyhoedd yn gyffredinol er mwyn rhannu’r hyn mae ymchwil flaengar wedi’i ddatgelu, darparu deunyddiau addysgol gwerthfawr i athrawon, ac ysbrydoli gwyddonwyr ifanc yfory.

Rhaglenni estyn allan

Y Bydysawd yn y Dosbarth

Roedd prosiect 2014 Y Bydysawd yn y Dosbarth yn cynnwys gwella dulliau addysgu a darparu offer arloesol i foderneiddio a gwella sut mae pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn cael eu haddysgu i blant ifanc. Roedd yn targedu ysgolion oedd yn llai tebygol o ymgysylltu ag addysg gwyddoniaeth, yn benodol y rhai oedd â mwy o fyfyrwyr mewn tlodi, a chyrhaeddiad addysgol is, a rhagfynegwyd y bydd yn cyrraedd 60,000 o blant dros gyfnod o ddegawd.

Roedd y prosiect yn galw am hyfforddi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig fel Stellar Role Models (STARS), oedd yn gallu mynd i ysgolion cynradd a chymunedau yng Nghymru gyda’n telesgôp robotig 0.4m, gan ennyn diddordeb plant ifanc ynghylch y Bydysawd.

Gweithgareddau estyn allan ar raddfa fawr

Rydym yn cynnal nifer o weithgareddau estyn allan ar raddfa fawr (gan gynnwys y Prosiect Mentora Ffiseg, UniverseLab, ac Ein Gofod Ein Dyfodol), sydd wedi denu dros £1.5M o gyllid ers 2016 ac sy’n golygu bod staff a myfyrwyr o Gaerdydd a phrifysgolion eraill yn estyn allan i’r cyhoedd yn gyffredinol a myfyrwyr ysgol ar draws y Deyrnas Unedig.

Ymhlith y gweithgareddau eraill ymgysylltu â’r cyhoedd mae cyflwyniadau ffiseg a seryddiaeth i grwpiau ysgol, cyfranogi mewn ffeiriau a gwyliau gwyddoniaeth, a’n cyfres o seminarau estyn allan i ysbrydoli, a roddwyd i’r cyhoedd gan wyddonwyr o fri, gan gynnwys Kip Thorne, a enillodd lawryf Nobel Ffiseg 2017.

Mae ein staff wedi ymddangos droeon mewn allfeydd cyfryngau prif ffrwd proffil uchel, gan gynnwys The New York Times, The Financial Times, The Guardian, BBC News, BBC Wales News, a Sky News ar donnau disgyrchol, astronomeg (e.e. y posibilrwydd o ddarganfod ffosffin ar Fenws), cosmoleg ac ymchwil i ddiemwntau.

Cyfleoedd i fyfyrwyr fod yn rhan o estyn allan

Anogir ein myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i rannu eu hangerdd a'u brwdfrydedd ynghylch gwyddoniaeth a datblygu sgiliau o ran ymgysylltu â’r cyhoedd ac estyn allan.

Mae astudio gyda ni yn rhoi cyfle gwerthfawr i chi ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i fodloni eich dewisiadau gyrfa, p'un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu, entrepreneuriaeth neu ymchwil. Gallai hyn gynnwys rhoi anerchiadau cyhoeddus, datblygu adnoddau addysgol ar gyfer athrawon, gweithio gydag ysgolion neu geisio mewnbwn cyhoeddus ar gyfer gwaith ymchwil.

Trwy ein Cynllun Gwobrau Caerdydd, rydym yn cydnabod gweithgareddau allgyrsiol ac yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol myfyrwyr.

Llysgenhadon STEM

Fel Llysgennad STEM, gall ein myfyrwyr ysbrydoli pobl ifanc ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Fel rhan o'r cynllun hwn, byddwch yn ymuno â rhwydwaith cenedlaethol o gyfathrebwyr â’r un meddylfryd lle gallwch ddysgu mwy yn hwylus am ddigwyddiadau gyrfaoedd ac estyn allan yn agos atoch chi.

Diwrnodau Agored a digwyddiadau eraill

Mae annog ein myfyrwyr i wirfoddoli yn ein Diwrnodau Agored yn gyfle i drafod gwyddoniaeth gyda’r cyhoedd ac ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu mwy am ffiseg a seryddiaeth.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn ffeiriau a gwyliau gwyddonol, gan gynnwys Big Bang UK, Big Bang Cymru, Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham, yr Eisteddfod, a Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, yn ogystal â mynd allan i’r strydoedd gyda’n rhaglen 'Science Busking' arloesol.

Yn aml, mae cyfleoedd ar gael i dderbyn tâl am i helpu i gynorthwyo mewn dosbarthiadau adolygu ffiseg Safon Uwch neu TGAU.

Creu cysylltiadau pwysig â diwydiant

Cyflawnwyd ein heffaith ar economeg a’r gymdeithas ehangach trwy gymhwyso ein hymchwil i leoliadau diwydiannol er mwyn gwella a datblygu eu harferion, a thrwy ffurfio partneriaethau masnachol i gyflawni arloesedd a gwelliant. Mae dros 20% o’n staff academaidd bellach yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.

Mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn un o’r trefniadau cydweithio hyn, ac mae’n cyflwyno syniadau blaengar i fyd gweithgynhyrchu, yn ogystal â helpu i greu cyfleoedd cyflogaeth a thwf i’r diwydiant a’r economi leol.

Cysylltu â ni

Dr Chris North

Dr Chris North

Undergraduate Admissions Tutor, Ogden Science Lecturer, STFC Public Engagement Fellow

Email
northce@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0537