Yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, mae gallu ac effaith ei hymchwil wedi treblu bron iawn ers REF 2014.Cafodd yr Ysgol sgôr Cyfartaledd Pwynt Gradd (GPA) o 3.45 yn REF 2021, ac ystyriwyd 99% o'n cyflwyniad cyffredinol gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Mae Dr Cosimo Inserra, sef Prif Ymchwilydd y tîm ar yr arolwg ePESSTO+, wedi nodi nifer o ffrwydradau serol, gan gynnwys y ddelwedd hon o uwchnofa math 2.
Mae ymchwilwyr yn awgrymu y gallai mathau posibl o fywyd fod yn cynhyrchu amonia a fyddai'n sbarduno cadwyn o ddigwyddiadau sy'n gwneud y cymylau'n fwy goddefadwy i fyw ynddynt.