Bydd cyllid newydd yn helpu gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i’r ffordd roedd 1,000 o blanedau hysbys y tu allan i'n cysawd heulol wedi ymffurfio ac esblygu.
Mae Dr Bo Hou o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi derbyn Dyfarniad Ymchwilydd Newydd uchel-ei-fri gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) i ymchwilio i welliannau i synwyryddion delwedd feddal sy’n hanfodol erbyn hyn mewn sawl maes o’n bywydau bob dydd.
Mae Dr Angharad Jones, Ysgol y Biowyddorau, Dr Pete Barry o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a Dr John Harvey, a fydd yn ymuno â'r Ysgol Mathemateg yn fuan, wedi ennill Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).