Ewch i’r prif gynnwys

Y Bydysawd yn y Dosbarth

school

Roedd prosiect 2014 Y Bydysawd yn y Dosbarth yn cynnwys gwella dulliau addysgu a darparu offer arloesol i foderneiddio a gwella sut mae pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn cael eu haddysgu i blant ifanc.

Roedd yn targedu ysgolion oedd yn llai tebygol o ymgysylltu ag addysg gwyddoniaeth, yn benodol y rhai oedd â mwy o fyfyrwyr mewn tlodi, a chyrhaeddiad addysgol is, a rhagfynegwyd y bydd yn cyrraedd 60,000 o blant dros gyfnod o ddegawd.

Roedd y prosiect yn galw am hyfforddi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig fel Stellar Role Models (STARS), oedd yn gallu mynd i ysgolion cynradd a chymunedau yng Nghymru gyda’n telesgôp robotig 0.4m, gan ennyn diddordeb plant ifanc ynghylch y Bydysawd.