Ysgol uwchradd
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o weithdai wyneb yn wyneb. Mae ein holl weithdai yn cael eu cyflwyno gan fyfyrwyr hyfforddedig ac yn rhad ac am ddim.
Y genhedlaeth dechnoleg
Anogwch eich myfyrwyr Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 i ddod yn arloeswyr technoleg gyda'n gweithdy 'Y genhedlaeth dechnoleg'. Mae’r sesiwn ddwy awr hon yn trwytho myfyrwyr mewn archwiliad ymarferol o dechnoleg fodern a chymwysiadau’r byd go iawn, gan feithrin sgiliau a mewnwelediadau gwerthfawr.
Dyma beth byddan nhw'n ei brofi:
- Dysgu ymarferol, diddorol: Bydd myfyrwyr yn archwilio dyfeisiau uwch fel camerâu isgoch, ffonau symudol, systemau GPS, a microsgopau, gan roi dealltwriaeth ddyfnach iddynt o dechnoleg ar waith.
- Datrys problemau ar y cyd: Byddant yn gweithio mewn timau i fynd i'r afael â heriau difyr, gan wella gwaith tîm a meddwl beirniadol.
- Mewnwelediadau i yrfaoedd technoleg: Bydd myfyrwyr yn dysgu am fyd hynod ddiddorol technoleg microsglodion, gan ddarganfod cyfleoedd gyrfa amrywiol a deall sut mae'r cydrannau hyn yn pweru dyfeisiau pob dydd.
Mae'r gweithdy hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddatgloi cyfrinachau technoleg a rhagweld eu dyfodol yn y diwydiant technoleg.
Y bydysawd cyffyrddol
Cyflwynwch eich myfyrwyr Blynyddoedd 7–11 i ryfeddodau gofod gyda'n gweithdai ‘Bydysawd cyffyrddol' - dwy sesiwn drochi wedi'u llunio i ennyn diddordeb pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag amhariad ar eu golwg. Mae'r gweithdai hyn yn cynnig dull hygyrch a rhyngweithiol o archwilio'r bydysawd.
Dyma beth y gall eich myfyrwyr edrych ymlaen ato:
- Archwiliad ymarferol, cyffyrddol: Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau synhwyraidd sy'n gwneud i gysyniadau seryddol deimlo'n real ac yn ddealladwy.
- Dysgu cydweithredol: Gan weithio mewn grwpiau, byddant yn datrys posau ac yn ateb cwestiynau sy'n ysgogi'r meddwl, gan annog gwaith tîm a meddwl beirniadol.
- Profiadau Synhwyraidd: Trwy gyffwrdd, sain a synhwyrau eraill, bydd myfyrwyr yn deall maint, siâp a harddwch cyrff nefol.
- Dylunio cynhwysol: Mae pob elfen wedi'i saernïo i gefnogi pob dysgwr, gan sicrhau profiad cyfoethog i fyfyrwyr ag amhariad ar eu golwg.
Dewiswch archebu un neu'r ddau weithdy, neu fenthyca ein pecyn adnoddau i estyn y profiad dysgu yn eich ystafell ddosbarth.
Datgelu'r bydysawd cudd
Gwahoddwch eich myfyrwyr i ddatgelu cyfrinachau cudd y bydysawd gyda'n gweithdy 'Datgelu'r dydysawd cudd' - profiad difyr sy'n addas ar gyfer pob grŵp blwyddyn. Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno myfyrwyr i wyddor gweld y tu hwnt i olau gweladwy, gan ddefnyddio gweithgareddau ymarferol sy'n dod ag archwilio cosmig yn fyw.
Dyma beth bydd myfyrwyr yn ei brofi:
- Archwiliad ymarferol: Gan ddefnyddio camerâu isgoch, bydd myfyrwyr yn gweld y byd mewn ffordd hollol newydd, gan ddatgelu manylion sydd fel arfer wedi'u cuddio i'r llygad noeth.
- Deall y sbectrwm electromagnetig: Byddant yn dysgu am y gwahanol fathau o ymbelydredd yn y sbectrwm a sut mae gwyddonwyr yn eu defnyddio i astudio'r bydysawd.
- Darganfod y cosmos anweledig: Trwy dechnoleg isgoch, bydd myfyrwyr yn datgelu gwrthrychau a ffenomenau anweledig i'n llygaid, gan ddarparu gwerthfawrogiad dyfnach o'r bydysawd.
- Dysgu rhyngweithiol: Gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn arbrofion, bydd myfyrwyr yn mynd ati i ddyfnhau eu dealltwriaeth o wyddoniaeth gosmig.
Mae'r gweithdy hwn yn ffordd gyfareddol o ysbrydoli chwilfrydedd ac ehangu barn myfyrwyr o'r bydysawd.
Darganfod allblanedau: gweithdy ymarferol
Annog myfyrwyr o bob oed i chwilio am fydoedd pellennig yn ein gweithdy 'Darganfod allblanedau'.
Mae'r sesiwn hon yn archwilio gwyddor darganfod allblanedau, gan gyfuno seryddiaeth, gwyddor golau a'r amodau posibl ar gyfer bywyd. Perffaith ar gyfer pob grŵp blwyddyn, gellir cyflwyno'r gweithdy yn ffisegol neu drwy fenthyciad adnoddau ar gyfer profiad wedi'i deilwra yn eich ystafell ddosbarth.
Dyma beth bydd myfyrwyr yn ei archwilio:
- Archwiliad ymarferol o gromliniau golau: Bydd myfyrwyr yn arbrofi gyda chromliniau golau i weld sut mae gwyddonwyr yn canfod allblanedau trwy arsylwi ar newidiadau mewn golau dros amser.
- Darganfod allblanedau: Byddant yn dysgu am blanedau y tu hwnt i gysawd yr haul a'r technegau hynod ddiddorol a ddefnyddir i ddod o hyd iddynt.
- Ymchwilio i amodau bywyd: Bydd myfyrwyr yn archwilio pa amodau a allai gefnogi bywyd ar fydoedd eraill a sut mae gwyddonwyr yn edrych am y dangosyddion hyn.
- Cysylltu seryddiaeth, golau ac amseru: Trwy archwilio cydadwaith y cysyniadau hyn, bydd myfyrwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o'r broses darganfod allblanedau.
Mae’r gweithdy hwn yn ffordd ysbrydoledig o gysylltu myfyrwyr â rhyfeddodau seryddiaeth a’r ymdrech i ddod o hyd i fydoedd y tu hwnt i’n byd ni.
Archwilio’r sêr: gweithdy ymarferol
Ymunwch â'ch myfyrwyr TGAU ym myd hynod ddiddorol gwyddoniaeth serol gyda'n gweithdy 'Archwilio’r sêr', y gellir ei addasu ar gyfer myfyrwyr iau neu Safon Uwch.
Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn dod â dosbarthiad sêr a diagram Hertzsprung-Russell (H-R) yn fyw, gan helpu myfyrwyr i ddeall amrywiaeth ac esblygiad sêr. Gallwch ddewis i ni gyflwyno'r gweithdy, neu gallwn fenthyca’r adnoddau i chi ar gyfer profiad wedi'i deilwra yn eich ystafell ddosbarth.
Dyma beth bydd myfyrwyr yn ei archwilio:
- Archwilio Mathau o Sêr: Bydd myfyrwyr yn dysgu am y gwahanol fathau o sêr, o gorachod coch i archgewri enfawr, a'u nodweddion unigryw.
- Deall y Diagram H-R: Byddant yn archwilio’r offeryn hanfodol hwn ar gyfer dosbarthu sêr ac yn cael mewnwelediad i'r berthynas rhwng maint, disgleirdeb a thymheredd sêr.
- Creu Diagram H-R yn yr Ystafell Ddosbarth: Gan ddefnyddio data seryddol go iawn, bydd myfyrwyr yn llunio diagram H-R ar raddfa fawr, gan ddod â chysyniadau haniaethol i fformat diriaethol.
- Cymhwyso Gwybodaeth Serol: Trwy ddadansoddi eu diagram H-R, bydd myfyrwyr yn darganfod cylchoedd bywyd sêr ac yn archwilio sut mae sêr yn newid dros amser.
Mae’r gweithdy hwn yn ffordd ddelfrydol o ddyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o astroffiseg ac ysbrydoli brwdfrydedd am y sêr.
Tonnau disgyrchedd: gweithdy ymarferol
Trochwch eich myfyrwyr ffiseg Safon Uwch ym myd ymchwil flaengar gyda'n gweithdy 'Ton ddisgyrchedd'.
Mae'r sesiwn hon yn pontio gwybodaeth ystafell ddosbarth â gwyddoniaeth y byd go iawn, gan ganolbwyntio ar y dechnoleg a'r technegau arloesol y tu ôl i synwyryddion LIGO a VIRGO.
Dyma beth bydd eich myfyrwyr yn ei brofi:
- Cymhwyso sgiliau ffiseg a mathemateg: Bydd myfyrwyr yn defnyddio eu dealltwriaeth o fathemateg, theori tonnau, a ffiseg i ddadansoddi data, gan wneud cysylltiadau rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol a chymwysiadau ymarferol.
- Archwilio technoleg tonnau disgyrchedd: Byddant yn dysgu sut mae arsyllfeydd LIGO a VIRGO yn canfod tonnau disgyrchedd a'r dechnoleg uwch sy'n galluogi'r manwl gywirdeb hwn.
- Dadansoddi Data ar waith: Bydd myfyrwyr yn ymarfer technegau ar gyfer lleoli digwyddiadau tonnau disgyrchedd a phennu priodweddau allweddol, megis pellter a màs gwrthrychau ffynhonnell.
- Cysylltu theori ag ymchwil go iawn: Trwy weithio gyda data byd go iawn, bydd myfyrwyr yn gweld sut mae egwyddorion ffiseg yn cael eu cymhwyso mewn darganfyddiadau arloesol ac ymchwil wyddonol flaengar.
Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr brofi ffiniau ffiseg a chael mewnwelediad i ddyfodol darganfod seryddol.
Cysylltu â ni
I archebu lle neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Swyddfa'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Dysgu mwy am ein prosiectau ymgysylltu cyhoeddus a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch beth sy’n digwydd yn yr ysgol.