Ysgolion cynradd
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o weithdai wyneb yn wyneb. Mae ein holl weithdai yn cael eu cyflwyno gan fyfyrwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant ac maent yn rhad ac am ddim.
Gweithdy
Adeiladwr lloeren Lego
Hoeliwch sylw eich myfyrwyr ar daith gyffrous i archwilio’r gofod gyda’n gweithdy ymarferol, 75 munud sydd wedi’i gynllunio ar gyfer blynyddoedd 3 i 6. Mae’r gweithdy hwn yn cyfuno hwyl, creadigrwydd, a dysgu, gan ei wneud yn ychwanegiad delfrydol i’ch cwricwlwm STEM.
Dyma’r hyn y caiff eich myfyrwyr brofiad ohono:
- Adeiladu cwmni gofod: Byddan nhw’n taro syniadau i ddewis enw unigryw a dylunio logo ar gyfer eu cwmni gofod eu hunain, gan hoelio hanfod eu cenhadaeth.
- Dylunio lloeren: Gan ddefnyddio citiau Lego arbennig, bydd myfyrwyr yn adeiladu lloeren sy’n gallu ffitio mewn roced Lego Saturn V, gan sicrhau ei bod yn bodloni amcanion gwyddonol penodol a chyfyngiadau cyllidebol.
- Archwilio technoleg y gofod: Bydd myfyrwyr yn dysgu am y rôl sylweddol y mae lloerennau yn ei chwarae yn ein bywydau bob dydd, gan edrych ar gwmnïau byd-eang, gan gynnwys achosion diweddar o lansio lloerenni’r DU.
- Ymwybyddiaeth amgylcheddol: Bydd y gweithdy hefyd yn trafod effaith amgylcheddol lansio rocedi ac yn cyflwyno technoleg lloeren y gellir ei hailddefnyddio, gan amlygu pwysigrwydd diogelu’r gofod.
Gwahoddwch eich myfyrwyr i ymuno â ni ar gyfer antur llawn hwyl sy'n ysbrydoli creadigrwydd, datrys problemau ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Gyda’n gilydd, taniwn chwilfrydedd am y gofod ac ymrwymiad at ddyfodol cynaliadwy.
Y genhedlaeth dechnoleg
Ysbrydolwch eich myfyrwyr i ddod yn arloeswyr technoleg y dyfodol gyda'n gweithdy symbylus ar gyfer y Genhedlaeth Dechnoleg. Mae’r profiad ymarferol hwn, sy’n para dwy awr, yn berffaith i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 5 i 8. Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio i danio chwilfrydedd ac angerdd am dechnoleg trwy gymwysiadau’r byd go iawn a gwaith tîm.
Dyma’r hyn y caiff eich myfyrwyr flas ohono:
- Archwilio rhyngweithiol: Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda dyfeisiau hynod ddiddorol, gan gynnwys camerâu isgoch, ffonau symudol, systemau GPS, a microsgopau, gan roi golwg uniongyrchol iddynt o dechnoleg ar waith.
- Heriau cydweithredol: Byddan nhw’n ymuno â’u cyd-ddisgyblion i ddatrys heriau ymarferol hwyliog, gan adeiladu sgiliau gwaith tîm a datrys problemau.
- Llwybrau gyrfaol: Bydd myfyrwyr yn cael cipolwg ar fyd technoleg microsglodion, gan ddysgu am gyfleoedd gyrfaol cyffrous a'r rôl hanfodol y mae'r cydrannau bach bach hyn yn ei chwarae mewn dyfeisiau bob dydd.
Bydd myfyrwyr yn darganfod bod microsglodion yn cael eu cynhyrchu yma yn y DU - gan ddod â thechnoleg hyd yn oed yn nes i gartref! Ymunwch â ni am antur sy'n cysylltu'r ystafell ddosbarth â'r byd technoleg ac sy'n ysbrydoli'ch myfyrwyr i archwilio posibiliadau newydd.
Y bydysawd cyffyrddol
Ewch â’ch myfyrwyr ar daith gyfareddol drwy’r cosmos gyda’n gweithdai Bydysawd Cyffyrddol, wedi’u teilwra ar gyfer blynyddoedd 4 i 8. Mae’r sesiynau hyn, sy’n para dwy awr, yn dod â’r gofod yn fyw trwy weithgareddau dysgu ac ymarferol rhyngweithiol, gan ei wneud yn brofiad bythgofiadwy i bob myfyriwr.
Dyma’r hyn y byddan nhw'n ei ddarganfod:
- Dysgu ymarferol: Cymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous sy'n dod â'r bydysawd yn fyw.
- Darganfod graddfa'r bydysawd: Darganfod ehangder y Bydysawd a'r pellteroedd enfawr rhwng y planedau yn ein Cysawd yr Haul ein hunain.
- Archwilio siapiau galaethau: Dysgu am y Llwybr Llaethog a galaethau o fathau eraill
Mae ein gweithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg, gan sicrhau bod myfyrwyr â nam ar eu golwg yn gallu cymryd rhan lawn a mwynhau’r profiad. Mae hyblygrwydd i chi archebu lle mewn un gweithdy neu'r ddau, ac rydym hefyd yn cynnig opsiwn benthyca deunyddiau fel y gall myfyrwyr barhau i archwilio yn yr ysgol.
Datgelu'r bydysawd cudd
Cyflwynwch eich myfyrwyr i ryfeddodau cudd y bydysawd gyda’n gweithdy awr o hyd ar Ddatgelu’r Bydysawd Cudd—sy’n berffaith i bob grŵp blwyddyn, o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae'r gweithdy hwn yn cyfuno gweithgareddau ymarferol gyda mewnwelediadau cyfareddol i wyddoniaeth yr anweledig. Dyma’r hyn y bydd eich myfyrwyr yn ei archwilio:
- Arbrofion ymarferol: Bydd myfyrwyr yn cael defnyddio camerâu isgoch a deall sut maen nhw’n datgelu manylion sy’n anweledig i'r llygad noeth.
- Archwilio’r sbectrwm electromagnetig: Byddan nhw’n dysgu am y gwahanol fathau o ymbelydredd sy'n ffurfio’r sbectrwm electromagnetig ac yn gweld sut mae'r offer hyn yn helpu gwyddonwyr i astudio'r bydysawd.
- Datgelu cyfrinachau cosmig: Trwy dechnoleg isgoch, bydd myfyrwyr yn darganfod sut rydyn ni'n dod o hyd i sêr, planedau a galaethau newydd y tu hwnt i'r hyn rydyn ni'n gallu ei weld fel arfer.
Mae’r gweithdy hwn yn ffordd gyffrous i fyfyrwyr ddyfnhau eu dealltwriaeth o wyddoniaeth tra’n datguddio haenau anweledig ein bydysawd.
Cysylltwch â ni
I archebu lle neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni:
Swyddfa'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Dysgu mwy am ein prosiectau ymgysylltu cyhoeddus a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch beth sy’n digwydd yn yr ysgol.