Ymgysylltu
Ein nod yw cynyddu ymgysylltiad a chyfalaf gwyddoniaeth y cymunedau rydyn ni’n ymgysylltu â nhw a sicrhau bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn cael mwy o effaith, yn ogystal â chael effaith ehangach.
Rydyn ni’n awyddus i helpu athrawon gwyddoniaeth i ysbrydoli eu myfyrwyr drwy roi cymorth iddyn nhw, yn ogystal â sicrhau bod ymchwil arloesol ar gael iddyn nhw, annog mwy o fyfyrwyr i astudio Ffiseg ar gyfer Safon Uwch a thu hwnt, ac ymgysylltu â chymunedau dan anfantais, cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol a chymunedau nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn y gorffennol.
Cysylltu â ni
I siarad â ni, cysylltwch â:
Swyddfa'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Dysgu mwy am ein prosiectau ymgysylltu cyhoeddus a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch beth sy’n digwydd yn yr ysgol.