Oliver Lomax
Ar hyn o bryd rwy'n helpu i ddylunio a gweithredu meddalwedd cymharu data'r genhedlaeth nesaf i'w ddefnyddio ar uwchgyfrifiadur nesaf y Swyddfa Dywydd.
Hyblygrwydd gradd Ffiseg
Ar ôl cwblhau fy PhD Astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd, parheais fel myfyriwr Ôl-ddoethurol am sawl blwyddyn, ac yna bûm am flwyddyn yn Asiantaeth Ofod Ewrop, cyn cael swydd o’r diwedd yn y Swyddfa Dywydd fel Gwyddonydd Tywydd.
Mae llawer o'r heriau o ran rhagfynegi tywydd rhifiadol (HGC) yn gofyn am yr un sgiliau â sgiliau seryddiaeth ac astroffiseg.
Y rhain yw: y gallu i fodelu systemau cymhleth, dealltwriaeth dda o fathemateg ac ystadegau, a phrofiad mewn datblygu meddalwedd.
Fe wnaeth fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd fy helpu i ddatblygu’r holl sgiliau yr oeddwn eu hangen i hybu fy ngyrfa. Uchafbwynt hyn oedd ei bod yn hawdd newid o yrfa mewn astroffiseg i yrfa mewn rhagfynegi tywydd.
Rhagfynegi’r tywydd
Mae'r Swyddfa Dywydd yn arwain y byd o ran rhagolygon tywydd yn y tymor byr a chanolig, yn amrywio o oriau i tua wythnos ymlaen llaw.
Ar hyn o bryd rwy'n helpu i ddylunio a gweithredu meddalwedd cymharu data'r genhedlaeth nesaf i'w ddefnyddio ar uwchgyfrifiadur nesaf y Swyddfa Dywydd.
Mae cymharu data yn ddull o gyfuno arsylwadau â model rhifiadol i gael y gorau o'r ddau. Dyma un o'r rhesymau allweddol pam mae'r ystod effeithiol o ragolygon wedi bod yn gwella tua diwrnod bob degawd!
Gweithio yn y Swyddfa Dywydd gyda llawer o wyddonwyr diddorol
Mae'r Swyddfa Dywydd yn cyflogi llawer o wyddonwyr o wahanol gefndiroedd - ond mae'n ymddangos bod gan lawer gefndiroedd mewn seryddiaeth! Mae’n gyffrous gweithio gydag amrywiaeth mor eang o safbwyntiau a barnau - nid oes unrhyw un yn cael ei annog mewn gwirionedd i 'ffitio i mewn', felly rwyf wrth fy modd!