Nick Cowling
Ar ôl tair blynedd ddifyr ym Mhrifysgol Caerdydd pryd y cefais Radd mewn Ffiseg, cododd gyfle ar gyfer rôl Swyddog Safonau yn Adran Dechnegol y Sefydliad Peirianwyr a Rheolwyr Nwy (IGEM).
Corff proffesiynol siartredig yw IGEM sydd wedi’i drwyddedu gan y Cyngor Peirianneg. Mae’n gwasanaethu ystod eang o weithwyr proffesiynol yn y Deyrnas Unedig a’r Diwydiant Nwy rhyngwladol trwy Aelodaeth, digwyddiadau a set gynhwysfawr o Safonau Technegol. Mae’r Safonau’n hollbwysig i sicrhau bod y Seilwaith Nwy o’r traeth i’r ddyfais yn cael ei osod, ei weithredu a’i gynnal yn gywir.
Sgiliau trosglwyddadwy
Roedd natur amlddefnydd gradd Ffiseg ac enw da’r Brifysgol o gymorth mawr i mi yn y broses ymgeisio ar gyfer y rôl hon. Prif gyfrifoldeb y swydd yw cynhyrchu a chynnal Safonau IGEM sydd wedi bod ar waith ers y 1960au. Mae’r rôl yn unigryw yn yr ystyr bod rhaid i mi ddelio ag arbenigwyr ar bynciau penodol i lunio dulliau safonedig y gall pawb yn y Diwydiant Nwy eu deall a’u dilyn.
Yn yr un modd â phob proses, bydd weithiau ddau (neu fwy) o wahanol ddulliau ac mae’n bosibl y bydd gwahaniaeth barn. Fodd bynnag, rwyf wedi cael cyfle i ddefnyddio’r sgiliau datrys problemau a ddatblygais wrth gwblhau’r radd ffiseg mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Yn ogystal â chynnal a chefnogi’r diwydiant Nwy ar ei ffurf bresennol, mae IGEM yn ystyried meysydd gwaith newydd fel Nwy Siâl, Hydrogen, Biodanwyddau, Dal a Storio Carbon a Nwy Hylifedig Naturiol (LNG). Mae hyn yn cynnig cyfle i ymwneud ag Ymchwilwyr Technegol a’u cynorthwyo i ddod i gasgliadau gweladwy.
Rwyf hefyd yn cynrychioli IGEM ar amryw Grwpiau Diwydiant ac wedi cael cyfle i ymweld â safleoedd i gael dealltwriaeth well o’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud gan unigolion yn y Diwydiant Nwy.
Astudiaethau pellach
Yn ystod fy nhair blynedd yn IGEM, rwyf wedi cael pob cymorth i ddatblygu fy sgiliau ymhellach a byddaf yn dechrau MSc rhan-amser mewn Peirianneg Tân a Ffrwydradau ym Mhrifysgol Leeds.
Wrth wneud cais am y cwrs, roedd dau beth yn hanfodol er mwyn i mi gael fy nerbyn - gradd mewn ffiseg o Brifysgol Caerdydd a’r staff academaidd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Bydd y cwrs hwn yn rhoi hyfforddiant uwch i mi a fydd, yn ei dro, yn fy ngalluogi i gael profiad penodol gyda chymwysterau academaidd cydnabyddedig a throsglwyddadwy.