Luke Woolfenden
Ar ôl graddio, ces i fy nethol ar gyfer cynllun cadetiaeth i beilotiaid.
Cynhaliwyd hyfforddiant y flwyddyn gyntaf yn Seland Newydd, a oedd yn anhygoel fel y gallwch chi ddychmygu! Yna, dechreuodd y gwaith caled go iawn yma yn y DU, gan gyflawni fy nhrwyddedau a chael fy sgôr math (type rating) ar deulu Airbus 320 o awyrennau jet. Dim ond 24 oeddwn i pan llywiais i hediad i Faro (Portiwgal).
Dilyniant gyrfaol
Rwyf wedi bod yn gwneud swydd am dair blynedd bellach, ac Uwch Swyddog Cyntaf ydw i, a Chomander fydda i cyn bo hir. Yr unig anfantais i’r swydd y gallaf ei gweld yw’r oriau rhyfedd. Ar wahân i hynny, mae’n hwyl fawr. Mae fy nghydweithwyr yn wych ac rwy’n mwynhau’r hedfan yn fawr.
Mae bod mewn peiriant cymhleth mewn awyrofod cymhleth gyda thywydd heriol amdanoch yn aml yn codi achosion aneirif lle mae’n rhaid i chi feddwl ar eich traed. O’r herwydd, mae elfen dysgu a hyfforddiant barhaus i hyn. Ar ben hynny, rydych yn cael gweld rhai lleoedd gwych. O fewn wythnos waith, gallaf fynd i 18 cyrchfan, o Gaeredin agos i Istanbul hirbell.
Gwych oedd astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r pwnc yn ddiddorol ac mae cael gradd dda ynddo wedi agor drysau heb os. Ar y pryd, roeddwn i’n awyddus i gwblhau’r radd a chymryd llyw awyren! O edrych yn ôl, rwy’n hiraethu am y cyfnod am mai dyddiau da gyda ffrindiau da oeddyn nhw.