Amie Roberts
Rydw i wrth fy modd â fy rôl amrywiol yn yr ysbyty gan wybod bod y gwaith rwy'n ei wneud o fudd uniongyrchol i gleifion.
Ffisegydd Meddygol
Cefais fy ngradd israddedig (BSc Ffiseg gyda Ffiseg Feddygol) o Brifysgol Caerdydd yn 2015.
Ar ôl hyn, dechreuais weithio mewn ysbyty yn Abertawe - Ysbyty Singleton.
Yno, bûm yn gweithio yn yr Adran Meddygaeth Niwclear fel Gwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant, a bûm ar raglen hyfforddi strwythuredig i ddod yn Wyddonydd Clinigol sydd wedi'i chofrestru gan y wladwriaeth. Mae'n faes gwyddoniaeth mor ddiddorol, sy'n datblygu'n gyson ac yn gyffrous. Mae’n anrhydedd i fod yn rhan ohono!
Yn ystod fy nghyfnod yn Ysbyty Singleton, hefyd cwblheais MSc/Meistr mewn Ffiseg Ymbelydredd Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe.
Swydd amrywiol a chyffrous
Rydw i nawr yn gweithio i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro mewn Meddygaeth Niwclear ac Uwchsain Doppler fel Gwyddonydd Clinigol.
Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd gyda chefnogaeth Canolfan Delweddu Tomograffeg Allyriadau Positronau Cymru at ddibenion Ymchwil a Diagnostig (PETIC) i gwblhau prosiect ymchwil mewn technoleg gamma camera CZT newydd.
Mae pob diwrnod yn wahanol fel Gwyddonydd Clinigol, gan fy mod yn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gan gynnwys clinigau cleifion, ymchwil a datblygu, addysgu, rheoli a sicrhau ansawdd, sydd i gyd yn caniatáu i mi ddefnyddio fy sgiliau fel gwyddonydd mewn lleoliad gofal iechyd.