Abby Pitchforth
Rydw i wedi gweithio ar nifer o brosiectau cyffrous fel prosiectau 'Nightingale’ a 'Chanfod ac Olrhain' COVID-19 y GIG, oedd yn gwneud i mi deimlo bod fy ngwaith yn cael effaith gadarnhaol ar y byd.
Defnyddio data i wneud penderfyniadau busnes
Gwnes i raddio o Brifysgol Caerdydd gyda BSc mewn Ffiseg yn 2018.
Rwyf bellach yn gweithio yn y cwmni rhyngwladol mawr, KPMG, sef rhwydwaith gwasanaethau proffesiynol rhyngwladol, ac un o sefydliadau cyfrifeg y 'Big Four'.
Yma rwy’n rhan o'r sector IGH (Seilwaith, Llywodraeth a Gofal Iechyd), ac mae fy nhîm yn cefnogi cleientiaid pwysig fel y GIG, yr heddlu, y Weinyddiaeth Amddiffyn a chwmnïau rheilffordd.
Mae fy rôl yn gysylltiedig â ‘Modelu Data’, sy’n golygu cael dealltwriaeth dda o ddata ac awtomeiddio prosesau. Rydym yn creu modelau sy'n helpu cleientiaid i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn ag arian a busnes.
Ar gynllun graddedigion KMPG, rydw i wedi adeiladu modelau gan ddefnyddio ystod eang o offer megis; Excel, VBA, SQL, Python a Power BI.
Gwneud gwahaniaeth
Rydw i hefyd wedi cael cyfle i weithio yn y tîm Modelu Data Gwasanaethau Ariannol ar secondiad blwyddyn o hyd, lle bûm yn gweithio ar brosiect cymodi â phrofedigaeth a oedd yn foddhaol iawn gyda banc mawr yn y DU.
Roedd y banc hwn wedi methu â phrosesu a thalu arian gan ddegau o filoedd o gwsmeriaid oedd wedi marw. Roedd y prosiect hwn yn cynnwys dadansoddi data i nodi pa gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt, at bwy y dylai'r arian fynd, a pha gwsmeriaid oedd fwyaf agored i niwed ac yr oedd angen ein cymorth brys arnynt. Yna fe wnaethom adeiladu model i gyfrifo faint o iawndal y maent yn ei haeddu a sicrhau bod hyn yn cael ei dalu iddynt a bod yr holl faterion yn cael eu datrys.