Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
Oherwydd ymroddiad ein graddedigion ffiseg i’w gwaith a’u gallu i ymaddasu, maent yn boblogaidd iawn i’w cyflogi mewn sectorau amrywiol fel byd diwydiant, ymchwil, addysg, masnach a chyllid.
- 94% o raddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach
- 94% of our graduates were in employment and/or further study or doing other activities such as travelling, 15 months after the end of their course (Graduate Outcomes Survey, Higher Education Statistics Agency (HESA) 2020/21)
Achrediad y Sefydliad Ffiseg (IOP)
Mae'r Sefydliad Ffiseg (IOP) yn achredu pob un o'n rhaglenni gradd.
Bydd dewis gradd achrededig yn golygu ei fod yn haws i chi gaffael dyfarniadau proffesiynol fel Ffisegydd Siartredig (CPhys) yn ddiweddarach yn eich gyrfa.
Opsiynau gyrfa
Yn arolwg diweddaraf Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch HESA, roedd 93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaeth bellach chwe mis ar ôl graddio.
Ymhlith y cyflogwyr mae sefydliadau fel Rolls Royce, Bank Lloegr, EDF Energy a GCHQ, yn ogystal â phrifysgolion yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae’r llwybrau gyrfa yn cynnwys:
- gwyddor ymchwil
- addysgu
- ffiseg feddygol
- bancio a chyfrifeg
- eiddo deallusol
- ymchwil weithrediadol
- peilot awyren
- gwasanaethau cudd-wybodaeth y llywodraeth
- yr heddlu a’r lluoedd arfog
- dosbarthiad pŵer.
Mae pob math o rolau, o ymchwil a datblygu (R&D) i reolaeth ym maes diwydiannau megis pŵer niwclear, optoelectroneg, moduron, awyrofod, cyfleustodau a gêmau cyfrifiadur.
Lleoliad proffesiynol
Rydym yn cynnig nifer o raglenni gradd gyda lleoliad proffesiynol yn ystod y drydedd flwyddyn, a hynny ym myd diwydiant, masnach, llywodraeth neu sefydliad arall.
Bwriad y flwyddyn ar leoliad yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau ymhellach, a’ch annog i ddefnyddio menter, i gaffael methodoleg gwaith proffesiynol, ac i brofi rhyw lefel o gyfrifoldeb proffesiynol.
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrwyr dreulio haf yn gweithio gyda’n staff ar brosiect bywyd go iawn yn ein lleoliadau ymchwil dros yr haf.
Cynllunio Datblygiad Personol (CDP)
Nod Cynllunio Datblygiad Personol (CDP) yw gwella eich gallu i ddeall beth rydych chi'n ei ddysgu a sut, ac i adolygu, cynllunio a chymryd cyfrifoldeb am eich addysg eich hun.
Trwy fod yn rhan o’r broses CDP bydd disgwyl i chi gwblhau nifer o ymarferiadau cysylltiedig ag astudiaethau academaidd, sgiliau personol a sgiliau graddedig, yn ogystal â chwblhau gweithgareddau cysylltiedig â gyrfa.
Bydd yn eich helpu i elwa cymaint â phosibl ar eich profiad fel myfyriwr trwy eich helpu i fyfyrio ar eich cryfderau a’ch gwendidau, a chynllunio ar gyfer eich datblygiad academaidd, personol a gyrfa. Bydd yn eich helpu i brofi a darparu tystiolaeth o’ch datblygiad personol a phroffesiynol, a datblygu’r hyder a’r gallu i fynegi eich sgiliau a’ch priodweddau i ystod eang o gyflogwyr a chyrff proffesiynol eraill.
View full details for all our courses, including entry requirements, modules and career prospects.