Ôl-raddedig a Addysgir
Bydd astudio gyda ni yn rhoi’r cyfle i chi feithrin dealltwriaeth sylfaenol o sut mae’r Bydysawd yn gweithio, yn ogystal â chaffael sgiliau uwch ac arbenigol a gwella eich rhagolygon gyrfa.

Mae gennyn ni grwpiau ymchwil hynod weithgar mewn ystod eang o feysydd ac mae gennyn ni enw da yn rhyngwladol am ansawdd ein hymchwil. Mae gan ein staff rôl flaenllaw mewn prosiectau cydweithredol rhyngwladol o bwys, gan gynnwys consortiwm offer SPIRE ar gyfer lloeren Herschel. Mae’r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant yn aelod gweithgar o Gydweithrediad Gwyddonol LIGO, sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar am ddarganfod tonnau disgyrchol.
Mae hanes eithriadol ein gweithgareddau ymchwil yn ategu’r addysgu ar ein rhaglenni ôl-raddedig, gan fod ein myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu gan staff academaidd sydd ar flaen y gad yn eu priod feysydd. Mae ein hanes o ragoriaeth addysgu hefyd yn cael ei ategu gan ystod o gyfleusterau labordy o'r radd flaenaf.
Dewisais astudio'r MSc Astroffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd oherwydd yr amrywiaeth o fodiwlau ar y cwrs, ac oherwydd bod y Sefydliad Archwilio Disgyrchiant wedi'i leoli yma, sy'n cyd-fynd â'r maes ymchwil yr wyf yn mynd iddo.Hefyd, mae costau byw yng Nghaerdydd yn fwy fforddiadwy na dinasoedd eraill yn y DU.
Rhaglenni MSc
Mae ein myfyrwyr MSc yn elwa ar gyfleusterau penodedig yn yr Ysgol.
Rydyn ni’n cynnig dwy raglen MSc mewn Ffiseg ac Astroffiseg wedi'u cynllunio i ateb y galw cynyddol am uwch-astudiaeth yn y meysydd hyn ac maen nhw’n adlewyrchu ein harbenigedd ymchwil.
Cwrs | Cymhwyster | Dull |
---|---|---|
Astroffiseg | MSc | Amser llawn |
Ffiseg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd | MSc | Amser llawn |
Astroffiseg Data-ddwys | MSc | Amser llawn |
Ffiseg Data-ddwys | MSc | Amser llawn |
Ffiseg | MSc | Amser llawn |
Ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr y DU yn dechrau cwrs gradd Meistr yn Medi 2024.