Ewch i’r prif gynnwys

Cynlluniau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)

Ein nod yw sicrhau diwylliant cynhwysol a chroesawgar sy’n rhoi cyfle cyfartal i staff a myfyrwyr o bob oedran, cenedl, anabledd, strwythur teuluol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred a chefndir economaidd-gymdeithasol arall.

Gweler isod rai o'r mentrau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith i gefnogi hyn, gan gynnwys mesurau y gellir eu defnyddio yn yr ysgolion sy’n deillio o’r blog Diversity in STEM gan TWiSTEM.

Posteri Forces of Nature
Yn yr Ysgol, rydyn ni’n arddangos sawl poster Forces of Nature. Mae'r gyfres hon o bosteri, a luniwyd gan y Perimeter Institute for Theoretical Physics, yn dathlu menywod ym maes gwyddoniaeth a gafodd eu hanwybyddu yn ystod eu hoes. Yn hanesyddol, dyw menywod ddim wedi eu cynrychioli’n ddigonol yn y pynciau STEM yn gyffredinol, ond yn enwedig ym maes ffiseg, er gwaethaf y ffaith bod newidiadau cadarnhaol yn digwydd.

Prosiect BEACON
Bwriad prosiect Meithrin Tegwch ac Ymwybyddiaeth drwy Adnoddau Diwylliannol, Sefydliadol a Naratifol (BEACON) yw cynnig casgliad o ddeunyddiau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i'n staff a'n myfyrwyr, gan gynnwys ffilmiau, llyfrau a chyfresi teledu sy'n ymdrin â themâu megis Gwrth-hiliaeth, LHDTC+, anabledd, trais rhywedd, gwahaniaethu ar sail rhyw a straeon cadarnhaol o safbwynt grwpiau lleiafrifol. 

Modelau Rôl i bob Ffisegydd (prosiect R24P)
I ddathlu modelau rôl cyfoes, mae’r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi creucyfres o bosteri sy'n cael eu harddangos ar y sgriniau yn yr adran. Lluniwyd rhai o’r rhain yn benodol ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu a bydd y rhain yn gymhelliant i’n ffisegwyr uchelgeisiol sy’n dymuno efelychu’r modelau rôl penigamp hyn.

Ynganu enwau
Mae ymchwil yn dangos y bydd ynganu enw person yn gywir yn hybu’r synnwyr o berthyn i sefydliad. Rydyn ni’n annog aelodau’r staff i gynnwys ynganu eu henw, gan ddefnyddio offer megis namedrop yn llofnod yr e-bost.