Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Achos o’r Gorffennol

Mae'r astudiaethau achos canlynol yn rhoi darlun ichi o rai o'r trefniadau gwaith ac astudio a ddatblygwyd i gefnogi staff a myfyrwyr sydd ag anghenion penodol.

Yr Athro Stephen Fairhurst

Mae Stephen yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos er mwyn helpu i fagu teulu ifanc a sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ochr yn ochr â pharhau i ymgymryd â’i ymrwymiadau ymchwil, addysgu a gweinyddol yn y Brifysgol.

“Roedd yr Ysgol yn gefnogol iawn ac nid oedd unrhyw broblemau o ran sefydlu’r trefniant rhan-amser. Nid oes llawer o staff academaidd yn yr Ysgol sy’n gweithio’n rhan-amser, ond rwy’n cael bod hynny’n addas iawn i mi ac mae’n fy ngalluogi i gael bywyd mwy cytbwys yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Brifysgol.”

Yn ôl Stephen, mae e’r un mor gynhyrchiol yn ystod ei oriau gwaith, ac mae’r diwrnod ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith yn rhoi amser iddo ar gyfer ei ddiddordebau ei hun, yn ogystal ag amser i helpu i ofalu am ei deulu ifanc. Mae e’n gwneud ymdrech i gadw ei ddiwrnod i ffwrdd yn hollol rydd, ac yn sicrhau nad yw e’n gwirio e-byst a galwadau gwaith pan nad yw’n gweithio.

Rhiannon Lunney, Myfyriwr PhD

Mae Rhiannon yn dioddef o ffibromyalgia, ac mae hi’n gwneud ei PhD dros bum mlynedd yn hytrach na phedair blynedd, gan astudio pedwar diwrnod yr wythnos yn lle pump.

Mae ffibromyalgia yn gallu achosi blinder eithafol, niwl yn yr ymennydd a phoen, yn enwedig ar ôl eistedd am gyfnodau hir heb gynhaliaeth briodol. Rhoddwyd cadair ergonomig i Rhiannon, ac mae hi’n gallu recordio cyfarfodydd i gyfeirio'n ôl atyn nhw yn nes ymlaen. Dyrannwyd swyddfa briodol iddi gyda goleuo rhagorol i’w chefnogi, gan fod ffibromyalgia yn gysylltiedig â hwyliau isel ac iselder. Mae hi wedi canfod bod staff yn deall ei sefyllfa, ac mae ei goruchwylwyr wedi bod yn barod iawn i gytuno i’r trefniadau arbennig y mae eu hangen arni i wneud ei PhD.

Dyma a ddywedodd Rhiannon: “Mae pobl wedi bod yn gymwynasgar iawn ac mae hynny wedi creu argraff arnaf. Mae fy nhrefniadau arbennig yn fy helpu i ymdopi â’m cyflwr, ac mae’r diwrnod ychwanegol o wyliau yn fy helpu i orffwys ac ymadfer fel bod modd i mi gynnal cydbwysedd arferol rhwng bywyd a gwaith. Fel arall, ni fyddai unrhyw egni gennyf ar gyfer y gweithgareddau pob dydd eraill mae myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt tu allan i’w hastudiaethau.”