Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau diwylliant cyfeillgar a chroesawgar i bob aelod o’n staff a phob myfyriwr, gan hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob rhan o’r Ysgol.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gweithgar wedi sefydlu nifer o fentrau i helpu i sicrhau bod pob aelod o’r staff a phob myfyriwr yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei lawn botensial.

Statws Arian Athena Swan a Hyrwyddwr Juno

Fframwaith a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym myd addysg uwch ac ymchwil ywSiarter Athena Swan.

Rydyn ni’n hynod falch mai ni yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws Arian Athena Swan a statws Hyrwyddwr Prosiect Juno y Sefydliad Ffiseg.

Cewch fanylion am ein rhestr o Gamau Gweithredu i wella ein gweithle mewn perthynas â thegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein Cynllun Gweithredu Athena Swan Juno.

Cynllun Gweithredu Athena Swan Juno

Cynllun Gweithredu Athena Swan Juno

Mae mynd i’r afael â’r anghydbwysedd presennol rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn un o’n blaenoriaethau. Rydyn ni’n monitro ein cydbwysedd rhyw ac ethnigrwydd yn gyson mewn meysydd sy'n amrywio o dderbyn myfyrwyr israddedig i nifer y cyflwynwyr benywaidd mewn seminarau gyda'r nod o ddod o hyd i rwystrau i fenywod a mynd i'r afael â’r rhain.

Rydyn ni hefyd yn cefnogi TWiSTEM (Menywod Trevithick ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), grŵp rhwydweithio i fenywod ar gampws Trevithick yn ein Hysgol ni ac ym mhob un o’r Ysgolion Peirianneg a Chyfrifiadureg.

Dysgu hygyrch

Rydyn ni’n cynnig cymorth i fyfyrwyr sydd ag ystod eang o anghenion – boed yn Anableddau Dysgu Arbennig (SpLD), yn anableddau y mae angen cymorth gwybyddol ychwanegol ar eu cyfer, neu’n anableddau corfforol a cholli clyw neu’r golwg.

Mae pob un o’n darlithfeydd, ein swyddfeydd a’n labordai yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, ac mae gennym Gynghorwyr Anabledd yn yr Ysgol i roi cyngor ac arweiniad ar yr ystod o wasanaethau sydd ar gael.

Rydyn ni hefyd yn amlwg ein cefnogaeth i Brosiect Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd, gan gefnogi a chynghori ar ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yPecyn Cymorth Datblygu Addysg.

Y Gymuned LHDT+

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymdrechu i wella profiad staff a myfyrwyr LHDT+, ac rydyn ni wedi cael ein cydnabod dro ar ôl tro am ein hymdrechion. Mae Cymdeithas LHDT+ i fyfyrwyr, Cymdeithas LHDT+ Prifysgol Caerdydd (Balchder Prifysgol Caerdydd) a rhwydwaith staff ac ôl-raddedigion hynod weithgar o’r enw ‘Enfys’.

Ehangu mynediad

Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig sicrhau bod y Brifysgol yn hygyrch i bob grŵp yn y gymuned, a bod cyfleoedd ar gael i’r rheini sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch yn draddodiadol.

Rydyn ni’n cydnabod manteision cael cymuned o fyfyrwyr amrywiol a dawnus, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb.

Ein nod yw gwella amrywiaeth ac ehangu mynediad at y brifysgol drwy wneud y canlynol:

  • cynnal ystod eang o weithgareddau ymgysylltu ag ysgolion er mwyn ysbrydoli pobl ifanc a’u hannog i barhau i astudio ffiseg a seryddiaeth, ac ystyried y maes hwn yn yrfa;
  • recriwtio cymuned amrywiol o fyfyrwyr, a chroesawn geisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir;
  • rhoi cymorth a chefnogaeth i’n myfyrwyr i’w galluogi i lwyddo ac i gyrraedd eu potensial llawn.

Urddas yn y gwaith

Mae’r tîm Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant ymroddedig yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein Hysgol yn lle croesawgar a chyfeillgar. Hyfforddwyd ein rhwydwaith o gynghorwyr Urddas yn y Gwaith (DaW) i roi cyngor i unrhyw aelod o staff sydd â phryderon, ac mae’r rheini ohonon ni sy’n gwisgo laniard yr enfys hefyd yn cynnig lle diogel i drafod materion LHDT+.

Ein cynghorwyr Urddas yn y Gwaith presennol yw (mae manylion ynglŷn â phryd a sut i gysylltu â nhw yma):

  • Juan Pereiro Viterbo (Darllenydd)
  • Wendy Sadler (Darllenydd)
  • Andreas Papageorgiou (Cydymaith Ymchwil)
  • Keiko Kokeyama (Uwch-ddarlithydd)
  • Jerome Cuenca (Cydymaith Ymchwil)
  • Lorenzo Mugnai (Cydymaith Ymchwil)

Gweithio hyblyg

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i weithio’n hyblyg, ac mae gennyn ni fodel oriau gwaith craidd pryd y cynhelir pob cyfarfod pwysig rhwng 10am a 4pm. Mae gennyn ni gynllun dychwelyd i’r Ysgol i’r rheini sydd wedi bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu.

Drwy ein trefniadau gweithio’n hyblyg, ein nod yw gofalu bod aelodau’r staff yn gallu cael cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, ennill cymwysterau datblygiad personol ac ystyried yr angen i ofalu am ddibynyddion neu deuluoedd ifanc. Mae astudiaethau achos y gorffennol yn dangos rhai amgylchiadau penodol pan oedden ni’n gallu cefnogi staff a myfyrwyr.

Absenoldeb oherwydd ymchwil

Mae ein cynllun absenoldeb ymchwil ledled y Brifysgol ar gael i bob aelod o staff ac yn rhoi cyllid i gyflenwi addysgu yn ystod cyfnodau rhwng 6 a 12 mis er mwyn canolbwyntio ar greu cyhoeddiadau o safon a/neu sy’n cael effaith.

Dychwelyd wedi absenoldeb

Rydyn ni’n cynnig cymorth a hyblygrwydd ychwanegol i staff sy’n dychwelyd o absenoldeb hirdymor er mwyn lleihau effaith absenoldeb estynedig ar gyflawniad eu dyletswyddau. Drwy hyn, cânt loywi eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder, a bydd hyn yn eu galluogi i barhau i ddatblygu eu gyrfa.