Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Rydyn ni’n defnyddio ffiseg i wella ein dealltwriaeth o'r bydysawd a datblygu darganfyddiadau technolegol, ac mae ein rhaglenni addysgu rhagorol a'n hamgylchedd cynhwysol yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

Cyrsiau

Astudiwch mewn prifysgol sy’n un o’r deg gorau ar gyfer ffiseg, gyda’n sgoriau cyson uchel yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn dangos bod addysgu a phrofiad myfyrwyr yn brif flaenoriaeth i ni.

Ymchwil

Boed yn raddfeydd cwantwm neu gosmolegol, nod ein hymchwilwyr yw datrys problemau mwyaf dyrys maes ffiseg a seryddiaeth.

Amdanom ni

Mae Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2025 yn ein cydnabod yn un o ddeg o brifysgolion gorau’r DU ar gyfer ffiseg.

Ymgysylltu

Mae ymgysylltu yn hollbwysig i ni: mae ysbrydoli pobl ifanc a chymunedau i ymgysylltu â gwyddoniaeth yn bwysig i ni.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo tegwch ac amrywiaeth ymhlith ein staff a’n myfyrwyr.


Right quote

Pan oeddwn i’n gorffen fy astudiaethau Lefel A roeddwn i’n hoffi ffiseg lled-ddargludyddion, ffiseg cyflwr solet, ac astroffiseg. Dewisais i ddod i Brifysgol Caerdydd oherwydd bod ganddi enw da ar gyfer pob un o’r rhain - chwaraeodd ran wrth ddarganfod tonnau disgyrchol yn 2015 ac mae adran mater cywasgedig a ffotoneg weithredol iawn yn y Ganolfan Ymchwil Drosi.

Lille MPhys Ffiseg

Newyddion