Amdanom ni
Prosiect Phoenix yw’r bartneriaeth ryngwladol rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia sy’n ymdrin â’r genhadaeth sifig.
Rydym yn cefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig o ran ceisio lleihau tlodi, hybu iechyd a helpu i ddatblygu’r amgylchedd mewn ffordd gynaliadwy.
Ein heffaith
Mae'r bartneriaeth hon, sydd wedi'i hen sefydlu bellach, wedi gwella ansawdd bywyd pobl Namibia a Chymru drwy ddysgu ar y cyd. Er mwyn cyflawni ein haddewidion, mae ein his-brosiectau wedi creu’r effeithiau canlynol:
- addysgu meddygon a nyrsys ynghylch gofalu am y cleifion gwannaf yn ystod llawdriniaeth
- creu sector meddalwedd ffyniannus yn Namibia
- ysgogi pobl ifanc i werthfawrogi diwylliant ac ieithoedd y wlad
- galluogi’r heddlu a gwasanaeth yr ambiwlansys i achub bywydau ar ôl damweiniau ar y ffyrdd
Y dyfodol
Yn ystod y pum mlynedd nesaf, hyd at 2027, byddwn ni’n canolbwyntio ar addysg ac ymchwil a fydd yn creu effaith fawr er lles Prifysgol Namibia a’r wlad i gyd yn sgîl gweithgareddau megis:
- datblygu a chyflwyno addysg ac ymchwil ôl-raddedig
- iechyd a lles da
- swyddi a thwf economaidd
- datblygu sgiliau proffesiynol
- dŵr glân a glanweithdra
- gweithredu ar yr hinsawdd
Ein yrhaeddiad
Mae gan y bartneriaeth hyd yma hanes rhagorol o gyflawni nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn Namibia; yn arbennig, iechyd a lles da, addysg o safon a gweithredu ar yr hinsawdd.