Meicronodwyddau
Mae technoleg micronodwyddau arloesol yn cael ei datblygu’n ddull effeithiol, di-boen a chynnil o atal cenhedlu ar draws gwledydd tlota’r byd, diolch i gonsortiwm technoleg newydd a arweinir gan Brifysgol Caerdydd ac a gefnogir gan Sefydliad Bill a Melinda Gates.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar y gwaith cyn-glinigol i ddatblygu patshys micronodwyddau y gallai’r defnyddwyr eu gosod heb boen mewn eiliadau’n unig a’u defnyddio’n ddisylw am hyd at chwe mis. Byddai'r dull newydd hwn o atal cenhedlu yn diwallu anghenion rhai o’r menywod tlotaf a mwyaf agored i niwed yn y byd.
The power of contraception
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ‘nid yw 214 miliwn o fenywod o oed atgenhedlu mewn gwledydd sy’n datblygu’n defnyddio dull modern o atal cenhedlu er eu bod am osgoi beichiogrwydd’. Byddai cael dulliau atal cenhedlu neu gynllunio teulu gwirfoddol yn arwain at lai o feichiogi anfwriadol, llai o fenywod a merched yn marw yn ystod beichiogrwydd neu enedigaeth, a llai o farwolaethau babanod.
Ar ben hynny, byddai grymuso menywod a merched fel eu bod yn gallu penderfynu dros eu hunain a ydynt am gael plant a phryd, yn gwella’u cyfleoedd addysgol ac economaidd yn fawr. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at deuluoedd a chymunedau iachach.
Rhwystrau i ddullai atal cenhedlu
Mae llawer o ffactorau economaidd gymdeithasol a diwylliannol sy’n rhwystro menywod rhag cael dulliau atal cenhedlu, hyd yn oed os ydynt am gynllunio neu osgoi beichiogrwydd. Efallai fod diffyg ymwybyddiaeth o'r perygl o fod yn feichiog, neu gallai rhai gael eu rhwystro gan y gost, yr anghyfleustra neu bryderon ynghylch sgîl-effeithiau. Ar ben hynny, bydd llawer yn methu cael dulliau effeithiol o atal cenhedlu o gwbl.
Ar hyn o bryd, pigiadau – sy'n effeithiol am dri mis – a mewnblaniadau, sy'n parhau am dair blynedd yw dau o'r dulliau mwyaf poblogaidd o atal cenhedlu mewn gwledydd incwm isel a chanolig. Mae’r ddau ddull hyn yn fewnwthiol ac yn achos y mewnblaniad, rhaid cael ymarferydd wedi’i hyfforddi er mwyn ei fewnosod a’i dynnu. Gall hyn gyfrannu at rwystro menywod rhag defnyddio'r mathau hyn o atal cenhedlu.
Datblygiad meicronodwyddau
Mae Sefydliad Bill a Melinda Gates yn ariannu ymchwil er mwyn mynd i'r afael â’r materion hyn a datblygu dulliau atal cenhedlu ymarferol ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.
Rydym yn gweithio gyda Sefydliad Bill a Melinda Gates a’n partneriaid prosiect, ac ein gobaith yw datblygu dull newydd o atal cenhedlu fydd yn rhoi ffordd syml, cyfleus a di-boen o atal cenhedlu i fenywod, am chwe mis ar y tro
Bydd y grant yn gadael i'r consortiwm asesu dichonoldeb technegol, defnyddioldeb a derbynioldeb y patsh atal cenhedlu micronodwyddau ar gyfer y gwledydd sydd ei ddirfawr angen.
Ar sail eu polymer bioddiraddadwy, bydd InnoCore Pharmaceuticals yn datblygu’r micronodwyddau sydd eu hangen er mwyn yllu’r croen heb boen a chyflwyno’r cemegion mewn ffordd a reolir yn dynn am hyd at chwe mis.
Arweinir y prosiect hwn gan Dr Sion Coulman a'r Athro James Birchall.
Canlyniadau
Os yw’n llwyddiannus, bydd y rhaglen yn arwain at gynnig dull fforddiadwy a hirdymor o atal cenhedlu sy'n cyfuno modd o’i osod eich hun yn hawdd ac yn ddi-boen â bioamsugno llawn. Mae hyn yn golygu nad oes angen llawdriniaeth i’w dynnu wedyn.
Erbyn diwedd y prosiect 18 mis hwn, bydd defnyddioldeb, derbynioldeb a dichonoldeb y patsh atal cenhedlu sy’n defnyddio micronodwyddau wedi cael eu gwerthuso. Cynhelir astudiaethau technegol mewn labordai yn ogystal ag ymweliadau â gwledydd incwm isel neu ganolig yn Affrica, fel bod y tîm ymchwil yn gallu deall anghenion y menywod sydd am ddefnyddio’r dull newydd hwn o atal cenhedlu.
Partneriaid
Mae Ysgol Fferylliaeth a'r Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, a'r Ysgol Peirianneg, wedi sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect, yn dod ag arbenigedd y partneiriad canlynol ynghyd:
- academia (Prifysgol Caeredin)
- industry (InnoCore Pharmaceuticals, Maddison Product Design, Isca Healthcare, REMEDI)
- NGOs (Population Council, PATH)
- partnerships (Hub Cymru Africa)
- charitable bodies (Knowledge For Change, Life for African Mothers)
- Ymddiriedolaethau'r GIG.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:
Yr Athro James Birchall
Professor of Pharmaceutical Sciences
- birchalljc@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5815